Bydd Dafydd Iwan yn cymryd rhan mewn cyngerdd dros heddwch yn Gaza ym mis Ebrill.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghapel Bethesda yn yr Wyddgrug ddydd Sul, Ebrill 14.
Bydd yn rhannu llwyfan am y tro cyntaf gyda Garth Hewitt, sylfaenydd Gŵyl Roc Gristnogol Greenbelt, a’r ddau yn canu caneuon radicalaidd dros heddwch a chyfiawnder ers blynyddoedd.
Mae’r ddau wedi uniaethu â brwydr y tlodion a’r rhai gorthrymedig ledled y byd.
Gwnaeth y ddau gyfansoddi caneuon i’r diweddar Esgob Oscar Romero, gafodd ei ladd wrth iddo bregethu dros y tlodion.
Ymddiriedolaeth Amos
Cafodd Ymddiriedolaeth Amos ei sefydlu gan Garth Hewitt yn 1985.
Ei nod yw hyrwyddo cymorth ymarferol a chydnabod urddas tlodion a rhai gorthrymedig y byd.
Mae Garth Hewitt wedi bod yn canu i gefnogi ymgyrchoedd ar draws y byd, gan gynnwys Nicaragua, India a Phalesteina.
Mae’r ymddiriedolaeth bellach yn codi arian at argyfwng Gaza, gan gefnogi Ysbyty Al-Ahli, lle mae tîm bach o feddygon yn dal i weithredu yn sgil y dinistr, diffyg adnoddau a phresenoldeb milwyr o ganlyniad i’r brwydro yno ar hyn o bryd.
Mae’r ymddiriedolaeth hefyd yn cefnogi’r Gaza Sunbirds, sef tîm o feicwyr sydd dan anfantais gorfforol ac yn peryglu eu bywydau er mwyn dosbarthu bwyd i deuluoedd drwy Gaza.
Beirniadu rhyfel
“Fel miloedd ohonoch, mae’n amser imi dalu’r dreth i Adran Cyllid a Thollau “Ei Fawrhydi”,” meddai Dafydd Iwan yn ddiweddar.
“Ac mi wn y bydd cyfran ohono (does dim posib gwybod faint) yn mynd i dalu am arfau rhyfel – gan gynnwys rhai o arfau Israel sy’n dinistrio Palesteina ac yn lladd plant a theuluoedd diniwed.
“O ydw, dwi’n beirniadu yr ymosodiad ysgeler gan Hamas ar Hydref 7fed hefyd, ond dwi ddim yn talu am arfau Hamas.
“Mae’n bryd i fomio ciaidd a di-bwrpas llywodraeth Israel ar Gaza ddod i ben ar unwaith!
“Ac y mae’n bryd i Lywodraeth Llundain beidio â chefnogi Netanyahu mor ddall.”