Mae Cwmni Da yn un o’r llefydd gorau i weithio yng ngwledydd Prydain, ac maen nhw bellach yn torri tir newydd gyda thechnoleg XR arloesol.

Mae’r cwmni cynhyrchu teledu yng Nghaernarfon wedi cael pedwar achos i ddathlu’n ddiweddar, a’r anrhydedd gan y cylchgrawn Broadcast yw’r diweddaraf mewn rhes o resymau sydd gan y cwmni i ddathlu.

Yn ôl y gweithlu, maen nhw hyd yn oed yn fwy ymrwymedig i’r achos ar ôl creu hanes bum mlynedd yn ôl, pan wnaeth y gweithwyr gymryd drosodd y cwmni a dod yn Ymddiriedolaeth sy’n eiddo i weithwyr, yn ôl pob tebyg y cwmni cyntaf o’i fath yn niwydiant teledu’r Deyrnas Unedig.

Ychydig dros ddeuddeg mis yn ôl, derbyniodd pob aelod o staff fonws o £500 i’w helpu i ymdopi â’r cynnydd mewn costau byw.

Wrth enwi Cwmni Da yn un o’r llefydd gorau i weithio yn y byd teledu, cafodd y beirniaid argraff dda gan y llu o’r buddion staff gafodd eu cynnig gan y cwmni – gan gynnwys pizza am ddim, anturiaethau ystafell ddianc i adeiladu tîm a digwyddiadau cymdeithasol i godi arian i elusennau – yn ogystal â’r ganmoliaeth gloyw i’r cwmni mewn arolwg dienw o’r 53 o weithwyr.

Yn ogystal â’r gydnabyddiaeth gan Broadcast, cafodd Cwmni Da ei enwi gan gylchgrawn Televisual yn un o’r 100 Cwmni Cyfryngau Gwirioneddol Annibynnol Gorau yn y Deyrnas Unedig.

Ar ben hynny, clywodd Cwmni Da hefyd eu bod nhw wedi sicrhau dau grant mawr i’w helpu i ddatblygu a thyfu.

Cafodd £25,000 ei ddyfarnu iddyn nhw o gronfa Ffrwd Arloesedd Media Cymru i ddatblygu’r defnydd o dechnoleg XR (realiti estynedig) o’r radd flaenaf ar gyfer eu sioe blant arobryn, Deian a Loli, sy’n cyfuno golygfeydd o fywyd go iawn a delweddau rhithwir ar gefndir sgrin werdd.

Derbyniodd Cwmni Da £25,000 gan Gronfa Cynhyrchwyr Annibynnol Bach (‘Small Indie’) y BBC hefyd, a honno wedi’i sefydlu i gefnogi twf cwmnïau annibynnol sy’n datblygu.

“Pluen go iawn” yn het Cwmni Da

“Mae cael ein dewis i dderbyn yr arian yma yn bluen go iawn yn ein het a fydd yn ein helpu i ddatblygu a thyfu,” meddai Llion Iwan, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Da.

“Yn ogystal â’r cyfleoedd cyllid a hyfforddiant sy’n dod gyda’r arian gan y BBC, mae cyfleoedd hefyd i gael ein mentora gan y bobol sy’n comisiynu rhaglenni a chael deialog reolaidd gyda nhw am yr hyn maen nhw’n chwilio amdano.

“Mae cyfleoedd hefyd i gael hyfforddiant drwy’r Ysgol Ffilm Genedlaethol ac mae hyn yn mynd i’n helpu ni i wneud rhaglenni gwell sy’n fwy tebygol o apelio at gomisiynwyr teledu.

“Cynhelir cyfarfodydd bob pythefnos gyda’r comisiynydd sy’n eich mentora ac maen nhw wedyn yn eich cyflwyno’r comisiynwyr perthnasol yn y genres rydych am eu datblygu.

“Mae’r cyfan wedi’i gynllunio i godi ein proffil y tu hwnt i S4C a gwella canfyddiad Cwmni Da yn y diwydiant darlledu ehangach.

“Mae gennym eisoes hanes llwyddiannus o weithio ar cyd-gynyrchiadau rhyngwladol sydd wedi ennill gwobrau ac mae hyn yn rhywbeth rydym am wneud mwy ohono.”

Balchder

Dywed Llion Iwan ymhellach ei fod yn falch iawn fod y staff yn teimlo bod Cwmni Da yn lle gwych i weithio.

Yn eu plith mae Marian Griffith, ysgrifennydd cynhyrchu Cwmni Da sy’n 65 oed, ac sydd wedi gweithio i Cwmni Da o’r diwrnod cyntaf pan gafodd ei sefydlu yn 1997.

“Mae wedi bod yn daith ddiddorol ac rwyf wedi cael y cyfle i wneud gwahanol bethau wrth i’r cwmni ddatblygu. Mae’n wych gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, o fore gwyn tan nos,” meddai.

“Mae pawb yn gweithio tuag at yr un nod ac rydyn ni i gyd yn gefnogol i’n gilydd – mae fel teulu.

“O’r cychwyn cyntaf, mae’r cwmni wedi bod yn barod iawn i ystyried amgylchiadau teuluol unigol pobol os oes unrhyw beth yn codi.

“Mae’r ffaith bod gan bob un ohonom gyfran yn y cwmni erbyn hyn, yn golygu ein bod hyd yn oed yn fwy ymroddedig a gweithgar nag erioed. Os ydych chi’n hapus yn eich gwaith, byddwch chi’n well yn yr hyn rydych chi’n ei wneud.”