Mae’r Urdd wedi lansio prosiect newydd sy’n cael ei arwain gan y band Eden, er mwyn nodi bod 100 diwrnod i fynd tan Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.
Fel rhan o’r prosiect PABO (Paid a Bod Ofn), bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal ar Faes yr Eisteddfod drwy gydol yr wythnos.
Y gobaith yw y bydd y prosiect yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i “ddysgu, deall a dathlu nhw eu hunain”.
Mae’n rhan o ymgyrch yr Eisteddfod i fod yn fwy hygyrch, a bydd yr ŵyl hefyd yn cynnig gofod diogel i ymwelwyr niwroamrywiol ac awtistig ar y Maes.
“Mae’r Urdd wedi chwarae rhan flaenllaw ym mywydau’r tair ohonom ac felly mae’n wych gallu cyhoeddi’r bartneriaeth rhwng yr urdd â PABO,” meddai Eden.
“Y gobaith ydy lledaenu negeseuon a gwerthoedd PABO gyda chynulleidfaoedd amrywiol yr Urdd gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ddysgu, deall a dathlu nhw eu hunain.”
‘Dathlu nhw eu hunain’
Yn rhan o’r prosiect, bydd Eisteddfod yr Urdd yn cynnig llwyfan ’Sa Neb Fel Ti’ yn ardal Nant Caredig.
Nant Caredig yw’r ardal les ar Faes Eisteddfod yr Urdd, gafodd ei chyflwyno am y tro cyntaf yn ystod Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin y llynedd.
Mae enw’r llwyfan yn seiliedig ar un o ganeuon Eden, a bydd yn cynnig lle i unigolion berfformio heb orfod cystadlu er mwyn “dathlu nhw eu hunain a’r hyn sy’n eu gwneud yn unigryw”.
Bydd Eden hefyd yn cynnal gweithdai a sesiynau gydag artistiaid eraill ar y Maes yn ystod yr wythnos.
Yn eu plith mae trafodaethau am hunanhyder a defnyddio’r celfyddydau i ddysgu am fod yn gyfforddus yn dy groen dy hun.
I gloi’r wythnos, bydd Eden hefyd yn perfformio ym mharti Gŵyl Triban ar nos Sadwrn, Mehefin 1.
Bydd amryw o artistiaid yn cymryd rhan mewn perfformiad sy’n addas ar gyfer pob oedran, a bydd y band yn canu eu caneuon newydd i gloi’r ŵyl.
Rhywbeth i bawb
Yn ôl yr Urdd, bydd y gweithgareddau ar y Maes yn ystod yr wythnos yn addas i bawb.
“Mae Eisteddfod yr Urdd mor falch o gyhoeddi’r bartneriaeth hon gyda PABO, wrth i ni ymrwymo i greu maes hygyrch a chroesawgar i bawb,” meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd.
“Mae’r gwaith mae Eden yn ei wneud wrth siarad am iechyd meddwl, niwroamrywiaeth, a hunanhyder yn bwysig tu hwnt, ac rydym yn edrych ymlaen at rannu’r negeseuon hynny gyda’n plant a’n pobl ifanc.
“Mae Eden yn ffenomenon sydd efo ffans o bob oedran, a bydd rhywbeth i bawb ar faes Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai.
“Byddwn yn cydweithio ar arlwy Nant Caredig gyda PABO a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion i sicrhau bod gofod diogel tu hwnt i’r cystadlu, a lle i ddathlu’r hun sy’n dy wneud yn unigryw.”
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal rhwng Mai 27 a Mehefin 1 ar gaeau Fferm Mathrafal, ger Meifod.
Dyma’r tro cyntaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Maldwyn ers 1988.