Cafodd rhestr fer Cân i Gymru 2024 ei chyhoeddi ar Chwefror 20, ac mae’r holl berfformwyr yn barod i gystadlu am y brif wobr ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Bydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn dychwelyd i gyflwyno’r gystadleuaeth fydd, am y tro cyntaf, yn cael ei chynnal ar lwyfan Arena Abertawe ar Ddydd Gŵyl Dewi ac yn cael ei darlledu ar S4C.

Y cerddor Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn cyd-enillydd y wobr, yw cadeirydd panel y beirniaid fydd yn mentora’r cystadleuwyr ac yn cyflwyno tlws newydd sbon i’r enillydd.

Y beirniaid eraill yw’r gantores a chyfansoddwraig, Bronwen Lewis; y DJ a chyflwynydd, Dom James; y gantores a pherfformwraig y West End, Mared Williams; a’r cerddor Carwyn Ellis.

Bydd cyfansoddwr y gân fuddugol hefyd yn bachu £5,000 a chytundeb perfformio, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.

Dyma’r ail a’r drydedd wobr fwyaf yn hanes y gystadleuaeth.

Y rhestr fer

Yr wyth cân sydd wedi cael eu dewis yw:

  1. Yr Un Fath gan Jacob Howells.
  2. Heno gan Elfed Morgan Morris a Carys Owen. Elin Hughes yn perfformio.
  3. Cysgod Coed gan Gwion Phillips ac Efa Rowlands. Gwion Phillips yn perfformio.
  4. Goleuni gan Steve Balsamo a Kirstie Roberts. Moli Edwards yn perfformio.
  5. Ti gan Sara Davies.
  6. Cymru yn y Cymylau gan Lowri Jones a Sion Emlyn Parry. Lowri Jones yn perfformio.
  7. Pethau yn Newid gan Sion Rickard.
  8. Mêl gan Owain Huw a Llewelyn Hopwood.

Bydd yr holl ganeuon yn cael eu chwarae ar Radio Cymru o heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 20), a bydd modd i wylwyr adref ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #CiG2024.

Y gwylwyr sy’n gyfrifol am ddewis yr enillydd drwy fwrw eu pleidlais dros y ffôn.


Y caneuon, y cyfansoddwyr a’r perfformwyr

Yr Un Fath gan Jacob Howells.

Daw Jacob Howells o Lanelli yn wreiddiol, ac mae wedi derbyn gradd Meistr mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Caerfaddon yn ddiweddar.

Mae’n cyfansoddi er pan oedd yn 13 mlwydd oed, ond dyma’r tro cyntaf iddo wneud cais i gystadlu yn y gystadleuaeth hon.

Mae’r gân yn “adlewyrchu colli hyder wrth ddefnyddio’r iaith Gymraeg a’r teimlad braf o ail-afael â’r diwylliant unwaith eto”, meddai.

Heno gan Elfed Morgan Morris a Carys Owen. Elin Hughes yn perfformio.

Mae Elfed Morgan Morris, sy’n Bennaeth ar Ysgol Llandygai, eisoes wedi cyfansoddi cân fuddugol, ‘Gofidiau’ – enillydd y gystadleuaeth yn 2009.

Cafodd Carys Owen, sy’n athrawes yn Ysgol y Felinheli, lwyddiant yn 2002, pan ddaeth y gân ‘Rhy Gry’ (gafodd ei chyd-gyfansoddi gan Emyr Rhys) yn ail.

Cydweithiodd y ddau yn 2022 gyda’r gân ‘Rhyfedd o Fyd’, ddaeth yn drydydd.

Mae ‘Heno’ yn “gân bop bositif sydd am wneud i bobol ddawnsio”, meddai’r cyfansoddwyr.

Cysgod Coed gan Gwion Phillips ac Efa Rowlands. Gwion Phillips yn perfformio.

Efa Rowlands, sy’n 20 oed ac yn byw yng Nghaerdydd, yw awdur y gân ‘Cysgod Coed’, a Gwion Phillips sydd wedi cyfansoddi’r gerddoriaeth ar gyfer y gân serch am gariad cyntaf.

Mae hi wedi actio yn sioeau Cyw ac yn y theatr, ac enillodd hi Dlws yr Ifanc yn Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd yn 2021.

Myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd yw Gwion Phillips, sy’n dod o Aberystwyth yn wreiddiol.

Mae cerddoriaeth yn bwysig yn ei fywyd, a’i brif offeryn yw’r drymiau.

Eleni fydd y tro cyntaf iddo ganu’n gyhoeddus ar ei ben ei hun yn y gystadleuaeth.

Goleuni gan Steve Balsamo a Kirstie Roberts. Moli Edwards yn perfformio.

Canwr-gyfansoddwr o Abertawe yw Steve Balsamo.

Roedd wedi perfformio yn Les Miserables a Jesus Christ Superstar yn y 1990au, a bu’n aelod o sawl band dros y blynyddoedd.

Mae hefyd wedi teithio gydag Elton John, Meatloaf, Slash, Jon Lord o Deep Purple, ac eraill.

Mae’n enw cyfarwydd yn y gystadleuaeth hefyd – fe gyd-ysgrifennodd y gân ‘Cri’ gafodd ei pherfformio gan Arwel Gruffudd yn 1995, a’r gân ‘Rhywun yn Rhywle’ gafodd ei pherfformio gan Tesni Jones yn 2011.

Cafodd Kirstie Roberts ei geni a’i magu yng Nghastell-nedd, ac mae’n athrawes ganu wrth ei gwaith.

Cefndir mewn cerddoriaeth glasurol sydd ganddi’n bennaf, ac mae’n canu’r delyn a’r soddgrwth.

Mae hi wedi ailafael yn ei Chymraeg drwy ei mab, sy’n wyth mlwydd oed.

Cân am berthynas merch ifanc â’i thad yw ‘Goleuni’.

Ti gan Sara Davies.

Cân serch gan Daid Sara Davies i’w Nain yw ‘Ti’.

Ysgrifennodd ei Thaid eiriau’r gân cyn iddo farw, ac ar ôl ei golli aeth Sara ati i gyfansoddi’r gerddoriaeth.

Yn wreiddiol o Hen Golwyn, mae hi bellach yn byw yn Llandysul ac yn athrawes Gerddoriaeth, Drama a Lles yn Ysgol Uwchradd Tregaron.

Mae hi’n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsian ac yn aelod o’r grŵp 50 Shêds o Lleucu Llwyd.

Cymru yn y Cymylau gan Lowri Jones a Siôn Emlyn Parry. Lowri Jones yn perfformio.

Hiraeth am Gymru yw neges y gân yma, gan i’r ddau gyfansoddwr fyw tu hwnt i Gymru am sawl blwyddyn.

Mae’r gân yn disgrifio’r siwrne wrth ddychwelyd, gan bwysleisio pwysigrwydd cymuned.

Daw Lowri Jones o Ynys Môn yn wreiddiol, ac mae hi bellach yn byw ger Caernarfon.

Astudiodd Gerddoriaeth yng Nghernyw, ac mae hi’n gweithio fel Peiriannydd Sain i elusen Codi’r To, sy’n arwain gweithgareddau cerddorol mewn ysgolion.

Cafodd Siôn Emlyn Parry ei eni a’i fagu yn Seion ger Caernarfon.

Astudiodd Berfformio yng Nghaerdydd cyn symud i Los Angeles i astudio Actio.

Mae’n ddrymiwr i’r band Ffatri Jam, ac yn chwarae’r offeryn er pan oedd yn bum mlwydd oed.

Mae’n gweithio gyda Lowri Jones yn Codi’r To, ac mae hefyd yn diwtor Drama i Glwb Drama Sbarc yn Galeri Caernarfon.

Pethau yn Newid gan Siôn Rickard.

Cân am yr awydd i fywyd arafu yw hon, a’r teimlad o fywyd yn llithro o’r gafael.

Daw Siôn Rickard o Fetws y Coed yn wreiddiol, ond mae bellach wedi ymgartrefu ym Machynlleth.

Mae’n wyneb cyfarwydd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru, gan mai dyma’r trydydd tro mewn tair blynedd iddo gyrraedd yr wyth olaf.

Fe ganodd y gân ‘Rhiannon’ yn 2022 ac ‘Y Wennol’ gyda’i frawd Liam o dan enw eu band, Lo-fi Jones.

Mêl gan Owain Huw a Llewelyn Hopwood.

Neges y gân hon yw i ddyfalbarhau a chydweithio mewn bywyd.

Daw Owain Huw o Abertawe’n wreiddiol, ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Mae’n actor, ac yn ddiweddar bu’n actio yn y gyfres Master of the Air ar Apple TV.

Daw Llewelyn Hopwood o Gaerfyrddin, ond mae bellach yn byw yn Llundain.

Mae cerddoriaeth yn ran fawr o’u bywydau nhw, ac roedden nhw’n rhan o’r band Bromas gyda’i gilydd.