Er bod nifer y bobol sydd ar restrau aros y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi gostwng eto ym mis Ionawr, mae’r nifer sy’n aros blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi cynyddu.
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, fe wnaeth y nifer sy’n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth ostwng, am yr unfed mis ar hugain yn olynol, hefyd.
Fodd bynnag, mae 24,248 o bobol o hyd yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth yng Nghymru.
Roedd Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, wedi gosod targed i sicrhau bod 97% o gleifion yn aros llai na dwy flynedd erbyn “diwedd y flwyddyn ddiwethaf”, sef Rhagfyr 2023.
Dydy’r targed hwnnw heb ei gyrraedd.
Ar gyfer gwasanaethau canser, dechreuodd llai o bobol eu triniaeth gyntaf ym mis Rhagfyr nag yn ystod y mis blaenorol.
Fodd bynnag, cafodd mwy o bobol driniaeth o fewn 62 diwrnod i’w diagnosis ym mis Rhagfyr (58%), o gymharu â 53.5% y mis blaenorol.
Roedd y nifer aeth i Adrannau Brys – 2,793 – yn uwch fis Ionawr yma nag ar gyfer unrhyw fis Ionawr arall ar gofnod.
‘Pwysau aruthrol’
Ar gyfartaledd, treuliodd cleifion ddwy awr a 44 munud yn aros mewn adrannau brys ym mis Ionawr, sydd wyth munud yn llai na’r mis blaenorol.
Ym mis Ionawr, cafodd y Gwasanaeth Ambiwlans 5,009 o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol), sef 13.9% o’r holl alwadau.
Cafodd 48.8% o’r galwadau coch ymateb o fewn y targed o wyth munud – 0.1% yn is nag ym mis Rhagfyr.
“Mae’r pwysau aruthrol ar ein Gwasanaeth Iechyd yn parhau,” meddai Eluned Morgan.
“Mae atgyfeiriadau newydd at gyfleusterau gofal eilaidd, fel ysbytai, ar eu lefel uchaf erioed, ar ôl cynyddu 11% yn y flwyddyn ddiweddaraf.
“Y nifer aeth i Adrannau Achosion Brys oedd y ffigwr uchaf yn y cofnodion ar gyfer unrhyw fis Ionawr.
“Er gwaethaf hyn, cynyddodd perfformiad yn erbyn y targed pedair awr, tra gwnaeth yr amser cyfartalog gaiff ei dreulio mewn adrannau achosion brys ostwng ym mis Ionawr o gymharu â’r mis blaenorol.
“Mae’n siomedig gweld bod y nifer sy’n aros blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf wedi cynyddu, a bod y nifer sy’n aros mwy nag wyth wythnos am wasanaethau diagnostig wedi cynyddu.
“Serch hynny, gwnaeth y nifer cyffredinol sy’n aros am wasanaethau diagnostig ostwng.
“Hoffwn ddiolch unwaith eto i’n staff ymroddedig yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
“Maen nhw wedi parhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel o dan amgylchiadau hynod o heriol y gaeaf hwn.”
‘Camreolaeth erchyll’
Fodd bynnag, dywed Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, fod yr ystadegau diweddaraf yn “dystiolaeth bellach o gamreolaeth erchyll Llafur” o’r Gwasanaeth Iechyd.
“Ar adeg pan ddylai Llafur fod yn mynd i’r afael â rhestrau aros a thrwsio ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, maen nhw’n gwario adnoddau gwerthfawr ar fwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd,” meddai.
“Maen nhw wedi methu targed arall.”