Mae’r Senedd wedi gwrthod galwadau i sefydlu ymchwiliad cyhoeddus Covid penodol i Gymru yn dilyn pleidlais ddoe (dydd Mercher, Chwefror 21).
Gan fod 27 pleidlais o blaid a 27 yn erbyn, bu’n rhaid i Elin Jones, Llywydd y Senedd, ddefnyddio’i phleidlais, gan bleidleisio yn erbyn y cynnig, gan gydymffurfio â rheolau’r Senedd.
Fe wnaeth y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol gefnogi galwad Plaid Cymru am ymchwiliad Cymreig, ond fe wnaeth gweinidogion Llywodraeth Cymru a gweddill yr Aelodau Llafur bleidleisio yn ei erbyn.
Cafodd Aelodau Llafur eu chwipio i bleidleisio gyda Llywodraeth Cymru, yn hytrach na chael pleidlais rydd, ond mae’n debyg bod y grŵp yn gytûn ar y mater.
Dywed Mick Antoniw mai pwrpas ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig – fydd yn cynnal gwrandawiadau yng Nghaerdydd am ddeng niwrnod gan ddechrau ar Chwefror 27 – yw edrych ar Gymru yn yr un modd ag ar Loegr neu unrhyw un o’r pedair cenedl.
Mae Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru a phrif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru, yn dadlau mai cymryd rhan yn ymchwiliad y Deyrnas Unedig yw’r ffordd fwyaf o effeithiol o sicrhau craffu llawn a phriodol.
‘Rhagrithiol’
Wrth arwain y ddadl ddoe (dydd Mercher, Chwefror 21), dywedodd Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, wrth y Siambr fod sgôp ymchwiliad y Deyrnas Unedig yn annigonol i fynd i’r afael â phob elfen o sut aethpwyd ati i drin y pandemig yng Nghymru.
“Dim ond ymchwiliad llawn i Gymru all wneud hyn,” meddai Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd ei blaid.
“Mae’n hollbwysig yn foesegol a democrataidd fod Llywodraeth Cymru’n gwrando ar yr alwad.”
Dywedodd Mabon ap Gwynfor fod y Farwnes Heather Hallett, sy’n cadeirio ymchwiliad y Deyrnas Unedig, wedi dweud ers y dechrau na fydd hi’n bosib dadansoddi pob mater yn llawn.
Dim ond un prynhawn sydd wedi cael ei glustnodi ar gyfer gwrando ar dystiolaeth Llywodraeth Cymru hyd yn hyn, meddai.
Ychwanega fod Llywodraeth yr Alban wedi cydnabod y posibilrwydd i ymchwiliad y Deyrnas Unedig anwybyddu materion datganoledig drwy sefydlu ymchwiliad eu hunain.
Fe wnaeth Mabon ap Gwynfor annog Llywodraeth Cymru i roi buddiannau’r cyhoedd cyn eu rhai nhw, gan ddweud: “Dyna sut beth yw atebolrwydd llawn a llywodraethu cyfrifol.”
Dywed Mabon ap Gwynfor, sy’n cynrychioli Dwyfor Meirionnydd, fod Llywodraeth Cymru wedi mynnu ei hawl i wneud pethau’n wahanol ond fod camgymeriadau mawr wedi cael eu gwneud yn ystod y pandemig.
“Mae’n gwbl ragrithiol i fynnu gwneud pethau’n wahanol i bolisi’r Deyrnas Unedig er mwyn teilwra’r ymateb yng Nghymru ar un llaw, ac osgoi craffu teilwredig ar oblygiadau’r gweithredoedd hynny ar y llaw arall,” meddai.
“Ynghyd â hynny, mae’n gwneud cam mawr â datganoli drwy roi’r argraff na all y Senedd ddal eu hunain yn atebol am ddeddfau gafodd eu pasio yma.”
Fe wnaeth Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, adleisio teyrngedau Plaid Cymru i’r grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru am eu hymgyrchu diflino.
Cytuna fod gwrthod ymchwiliad Covid penodol i Gymru yn tanseilio datganoli yn y bôn, gan gyhuddo gweinidogion Llywodraeth Cymru o osgoi craffu.
Dywedodd mai ymchwiliad cyhoeddus annibynnol penodol i Gymru, wedi’i arwain gan farnwyr, fyddai’r ffordd orau i roi atebion i deuluoedd gollodd anwyliaid ac i’r cyhoedd yng Nghymru.
‘Opsiwn amgen gwael’
Dywedodd Adam Price wrth Aelodau o’r Senedd fod Pwyllgor Covid-19 y Senedd yn opsiwn amgen gwael, gan ddweud: “Rydyn ni wedi cael tasg heb yr adnoddau i’w chwblhau”.
Ychwanega fod peryg i’r pwyllgor, gafodd ei sefydlu i adnabod bylchau yn ymchwiliad y Deyrnas Unedig, danbrisio craffu seneddol, gan ddweud nad oes gan y cyhoedd ffydd yn y pwyllgor.
“Byddai hynny’n drychineb i enw da’r sefydliad a byddai’n gwneud tro gwael iawn â’r rhai rydyn ni fod i’w cynrychioli,” meddai cyn-arweinydd Plaid Cymru.
Awgryma y byddai modd sefydlu comisiwn seneddol fyddai’n mynd tu hwnt i’r cyfyngiadau sydd gan bwyllgorau’r Senedd.
‘Gosod plaster’
Mae Altaf Hussain, sydd hefyd yn aelod o’r pwyllgor, yn cytuno.
“Fyddech chi’n disgwyl i mi amddiffyn y pwyllgor, ond fedra i ddim,” meddai’r Aelod Ceidwadol, a”i disgrifiodd fel rhoi plaster dros y broblem.
Rhybuddiodd na all y pwyllgor gymryd lle ymchwiliad penodol, a bod y dasg o adnabod bylchau bron yn amhosib.
“Does gennym ni ddim mynediad at y dystiolaeth gafodd ei darparu i gyfranwyr craidd yr ymchwiliad Covid,” meddai.
“Fedrwn ni ddim gwysio tystion – fedrwn ni ddim hyd yn oed mynnu bod y Prif Weinidog a’r cyn-weinidog iechyd yn dod atom i esbonio’u gweithredoedd.”
‘Hunllef’
Dywed Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd Cymru dros Ganol De Cymru, fod gwrthod sefydlu ymchwiliad yn golygu eu bod nhw’n esgeuluso eu dyletswydd.
“Ddylen ni fyth fod ofn craffu,” meddai.
“Ddylen ni fyth fod ofn cyfaddef pan rydyn ni’n cael pethau’n anghywir – mae’n anochel… Mae osgoi craffu yn anghyfrifol.
“Rydyn ni angen dysgu gwersi a’u rhoi nhw ar waith.”
Fe wnaeth ei chydweithiwr Delyth Jewell golli aelod o’r teulu oedd yn byw mewn cartref gofal yn ystod cyfnod Covid-19.
“Fe wnaeth cymaint o bobol farw ar ben eu hunain ac mae yna deimlad bod y gwir anghyfforddus am eu marwolaethau yn cael ei frwsio dan ryw garped,” meddai.
“I deuluoedd sy’n galaru, mae’n hunllef dydyn nhw methu deffro ohoni gan fod cwestiynau heb eu hateb.”
‘Osgoi rhagdybiaethau’
Wrth ymateb ar ran Llywodraeth Cymru, dywed Mick Antoniw fod gan ymchwiliad y Deyrnas Unedig y capasiti, pwerau a’r grym i oruchwylio natur gysylltiedig y penderfyniadau gafodd eu gwneud.
Wrth gyfeirio at ymchwiliad yr Alban, dywedodd wrth Aelodau o’r Senedd nad yw e wedi cael ei berswadio y bydd yn ychwanegu unrhyw beth sylweddol tu hwnt i ymchwiliad y Deyrnas Unedig.
Dywedodd hefyd fod cynnig Plaid Cymru’n cymryd na fydd ymchwiliad y Deyrnas Unedig yn ddigon cyn i unrhyw wrandawiad gael ei gynnal ar fodiwl 2B.
“Dw i’n credu bod angen i ni osgoi rhagdybiaethau a gadael i’r ymchwiliad a’r pwyllgor wneud eu gwaith,” meddai.