Mae Plaid Cymru’n galw am ymchwiliad Covid i Gymru yn y Senedd eto heddiw (dydd Mercher, Chwefror 21).

Bydd ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig yn dechrau edrych ar Gymru yr wythnos nesaf, a bydd y Blaid yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad penodol ar gyfer y wlad.

Mae disgwyl i’r galwadau gael eu gwrthod gan Lafur, sydd wedi dadlau hyd yn hyn fod yr ymchwiliad ar lefel y Deyrnas Unedig yn cynnig yr atebion sydd eu hangen.

Wrth gyfeirio at Gymru, mae’r Farwnes Hallett, cadeirydd Ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig, wedi dweud na fedran nhw edrych ar bob mater na galw ar bob tyst.

“Bydd rhaid i ni ganolbwyntio ar y penderfyniadau mwyaf arwyddocaol a’r rhai pwysicaf,” meddai.

Dywed hefyd y byddai’n gweithio gydag ymchwiliad penodol i Gymru, pe bai un yn cael ei sefydlu.

‘Tanseilio datganoli’

Mae’n bosib gweld yn barod na fydd y penderfyniadau gafodd eu gwneud yng Nghymru yn ystod y pandemig yn cael eu cydnabod i’r lefel “sydd ei hangen nag sydd i’w disgwyl” yn ymchwiliad y Deyrnas Unedig, yn ôl Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd Plaid Cymru.

“Dydy hi ddim yn bosib gweld eto faint o ddyfnder fydd yr ymchwiliad yn mynd iddo, ond mae’r cadeirydd wedi dweud yn barod, yn weddol blaen, na fydd amser i fynd i’r dyfnder mae’r cyhoedd yng Nghymru a’n sefydliadau yn ei ddisgwyl,” meddai.

“Mae’n deg dweud bod methu sefydlu ymchwiliad Covid penodol i Gymru yn tanseilio datganoli.

“Mae’r ffordd mae’r Llywodraeth Lafur yn osgoi craffu yn sgandal.

“Mae teuluoedd wnaeth golli anwyliaid yn sgil Covid a’r rhai sydd dal i fyw ag effeithiau tymor hir Covid angen fforwm annibynnol swyddogol i godi eu cwestiynau a chael atebion digonol, fodd bynnag, nid oes gan Ymchwiliad y Deyrnas Unedig y capasiti i gynnwys yr ystod lawn o gyrff perthnasol Cymraeg a chynnig atebion i’w cwestiynau.”

Ychwanega Mabon ap Gwynfor nad yw’r Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru yn ddigon i ateb yr holl gwestiynau a gwneud yr holl waith craffu.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru gamu ymlaen a sefydlu ymchwiliad ar unwaith, ond mae gen i ofn dweud bod osgoi’r craffu hwn yn un enghraifft ar restr hir sy’n dangos bod y Llywodraeth hon yn osgoi atebolrwydd dros eu penderfyniadau.”

Bydd y ddadl ar y mater yn cael ei chynnal yn y Senedd tua 5 o’r gloch brynhawn heddiw.