Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, yn dadlau dros feithrin cysylltiadau agosach rhwng Cymru ac Iwerddon, ac yn galw am yr hawl i Gymru ailymuno â’r farchnad sengl ar frys.
Daw ei sylwadau ac yntau’n traddodi araith yng Ngholeg Prifysgol Corc heddiw (dydd Iau, Chwefror 22).
Mae’n dadlau bod Brexit wedi bod yn “niweidiol iawn i Gymru”, a’i fod wedi codi heriau wrth negodi’r berthynas ag Iwerddon.
Er hynny, mae’n credu bod modd goresgyn yr heriau hyn ac adnewyddu’r berthynas rhwng y ddwy genedl.
Dywed fod datblygu cysylltiadau agosach ag Iwerddon o bwysigrwydd strategol i Gymru.
“Gall y cysylltiadau agosach hynny fod yn eang eu cwmpas, ond yn sicr dylent gynnwys cydweithredu economaidd, er enghraifft o amgylch datblygiadau’r naill ochr i Fôr Iwerddon ym maes ynni adnewyddadwy a hydrogen,” meddai.
Mae hefyd eisiau gweld Cymru’n cryfhau eu perthynas â gwledydd eraill Ewrop, ac yn canfod lle newydd i’r genedl yn y byd.
Ailymuno a’r farchnad sengl
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynnal trafodaethau brys gyda Brwsel er mwyn ailymuno â’r farchnad sengl.
“Mae Brexit wedi bod yn niweidiol iawn i Gymru,” meddai.
“Ac mae wedi creu heriau newydd ar gyfer negodi’r math o berthynas rwyf fi a fy mhlaid yn credu y gallwn ac y dylem edrych i’w chael ag Iwerddon.”
Dywed Rhun ap Iorwerth nad yw’n cael “unrhyw bleser” o’r ffaith fod Plaid Cymru wedi’i phrofi’n gywir wrth iddyn nhw rybuddio mai’r hyn roedd “cymryd rheolaeth yn ôl” yn ei olygu mewn gwirionedd oedd y byddai’r Deyrnas Unedig yn “cymryd rheolaeth yn ôl” o Frwsel ac yn “glynu ato yn San Steffan”.
“Os nad oedd ymdrech Boris Johnson i ‘wneud Brexit’ yn ddigon drwg, dim ond gwaethygu anweddolrwydd economaidd y Deyrnas Unedig a’r erydiad cymdeithasol a ddilynodd wnaeth y drychineb Trussonomics,” meddai.
Yn ôl yr arweinydd, mae manteision cymdeithasol ac economaidd enfawr o fod yn rhan o ardal fasnachu a chymuned economaidd fwyaf proffidiol y byd.
“Dywed Llywodraeth Cymru fod Brexit wedi arwain at ddiffyg o £1.1bn yn ei chyllideb oherwydd diffyg cyllid strwythurol cyfatebol,” meddai.
“Mae’r Deyrnas Unedig wedi dioddef colled o fuddsoddiad busnes ers y refferendwm gwerth £29bn, neu £1,000 y cartref.
“Ac amcangyfrifir bod rhwystrau masnach bwyd Brexit wedi costio bron i £7bn i aelwydydd y Deyrnas Unedig – sef tua £250 y cartref.”
Canolbwyntio ar yr atebion
Fodd bynnag, dywed Rhun ap Iorwerth ei fod yn “optimist o ran natur” ac y byddai’n well ganddo “ganolbwyntio ar nodi atebion na rhwygo’r problemau”.
“Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddechrau trafodaethau brys gyda Brwsel i drafod ailymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau,” meddai.
“Byddai hyn yn fater o synnwyr cyffredin nid yn unig i Gymru ond i’r Deyrnas Unedig gyfan.
“Rhwng 1999 a 2007, roedd yr Undeb Ewropeaidd yn cyfrif am rhwng 50-55% o allforion y Deyrnas Unedig.
“Erbyn 2022, roedd y ffigur hwn wedi gostwng i 42%.”
Yn ôl arolwg barn YouGov fis Tachwedd y llynedd, roedd 57% o drigolion gwledydd Prydain eisiau ailymuno â’r farchnad sengl.
“Nid yw’r alwad hon i ailymuno yn bwynt pleidiol – ymhell oddi wrtho,” meddai.
“Ceir dadleuon rhesymegol, wedi’u rhesymu’n dda o blaid y farchnad sengl ar draws y sbectrwm gwleidyddol.”
Dywed ei fod yn “falch o ymrwymiad diwyro” Plaid Cymru i alinio’n agosach ag Ewrop, a’i fod eisiau gweld Cymru annibynnol sy’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd.