Mae undebau addysg wedi lansio deiseb i alw ar Lywodraeth Cymru i anghofio am gynlluniau i newid y flwyddyn ysgol.
Mewn deiseb i’r Senedd, mae undebau NEU Cymru, NASUWT Cymru, Unsain Cymru, UCAC, NAHT Cymru a ASCL Cymru yn dweud nad yw’r cynlluniau i ddiwygio’r flwyddyn ysgol yn flaenoriaeth i’r system addysg.
Eisoes, mae sawl Clwb Ffermwyr Ifanc ledled y wlad a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi gwrthwynebu’r newidiadau arfaethedig gan y byddai’n golygu bod ysgolion ar agor yn ystod wythnos Sioe Llanelwedd.
‘Pryder mawr’
Mae’r undebau wedi gofyn i’w haelodau lofnodi’r ddeiseb.
A nawr bod cyfnod ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y mater wedi cau, maen nhw’n credu bod cyfle i “atal y cynlluniau”.
“Mae rhywun yn gwerthfawrogi’r ffaith y bydd gan bawb farn ar y newidiadau arfaethedig i’r calendr ysgol, ond mae’n anodd gweld sut y gall y Llywodraeth gyflwyno newid mor bellgyrhaeddol heb asesiad llawn o effaith ar addysg plant ac amodau gwaith athrawon,” meddai Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.
“Mae’r methiant i ystyried yn llawn y dystiolaeth sydd ar gael o ymchwil ac astudiaethau cymharol a’r methiant pellach i ymgysylltu ag arbenigwyr addysg yn bryder mawr ac yn adlewyrchu’n wael ar y Prif Weinidog a’r Llywodraeth.”
‘Angen cefnogi ysgolion’
Dywed Emma Forrest, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol yr NEU sy’n gyfrifol am Gymru, mai ariannu ysgolion a chefnogi’r gweithlu addysg yw eu blaenoriaethau.
“Gyda’r cwricwlwm newydd, diwygio anghenion dysgu ychwanegol, heriau ymddygiad a phresenoldeb, mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn cefnogi ysgolion a sicrhau bod teuluoedd yn cael gweithgareddau hygyrch yn ystod y gwyliau, a chinio ysgol am ddim, a pheidio â newid strwythur y flwyddyn ysgol,” meddai.
‘Heriau anodd’
Ychwanega Rosie Lewis, swyddog arweiniol UNSAIN Cymru ar gyfer ysgolion, fod ysgolion yn wynebu nifer o heriau anodd ar hyn o bryd – “cyllidebau llai, niferoedd staff annigonol, argyfwng recriwtio a chadw, baich gwaith amhosibl a phresenoldeb disgyblion”.
“Gofynnwch i unrhyw aelod o staff cymorth ysgolion a byddent am i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar fynd i’r afael â’r materion hyn fel mater o frys, nid newidiadau i’r flwyddyn ysgol,” meddai.
‘Nid nawr yw’r amser am newid’
Dywed y ddeiseb nad ydy tystiolaeth Llywodraeth Cymru’n ddigon cadarn i gyfiawnhau’r newidiadau, fydd yn “tarfu’n sylweddol ar ein hysgolion ac ar y sector amaethyddol a thwristiaeth.
“Credwn nad nawr yw’r amser i newid strwythur y flwyddyn ysgol a gwneud y gwyliau haf yn fyrrach,” meddai.
“Mae’r sector addysg yng Nghymru wedi wynebu newidiadau sylweddol, sydd wedi cael effaith fawr ar lwythi gwaith a llesiant ein gweithlu.”
Noda hefyd fod gwyliau’r haf yng Nghymru ymhlith y byrraf yn Ewrop, gan ychwanegu bod ysgolion yn yr Eidal, Portiwgal a Sbaen yn cael gwyliau o ddeuddeng wythnos neu dair wythnos ar ddeg.
“Mae disgyblion yn Sweden yn cael deng wythnos o wyliau haf, wyth wythnos yn Ffrainc a Norwy, a saith wythnos yn yr Almaen.
“Perfformiodd yr holl wledydd hyn yn well na Chymru yn y canlyniadau PISA diweddaraf.
“At hyn, nid yw’r cynlluniau’n cymryd lle cynnig cymorth digonol i blant difreintiedig a’u teuluoedd, megis cyfleoedd i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau a gweithgareddau chwaraeon a gweithgareddau creadigol sydd wedi’u hariannu.”
‘Gwyliau hir yn straen’
Dadl Llywodraeth Cymru yw fod angen dylunio calendr ysgol sy’n “gweithio’n well i ddysgwyr, athrawon a staff, ac sy’n rhoi’r cyfle gorau i bawb ffynnu yn yr ysgol”.
“Gall y gwyliau haf hir fod yn straen go iawn,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru wrth gyhoeddi’r cynlluniau.
“Mae teuluoedd yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ofal plant dros y chwe wythnos, ac mae eraill yn cael trafferth gyda’r costau ychwanegol a ddaw yn sgil yr hafau hir.
“Rydyn ni hefyd yn gwybod mai ein dysgwyr mwyaf difreintiedig sy’n mynd ar ei hôl hi fwyaf gyda’r dysgu yn sgil haf hir.”