Nid dyma’r adeg i ystyried addasu’r flwyddyn ysgol, yn ôl undebau addysg yng Nghymru.

Byddai gwyliau’r haf yng Nghymru yn para wythnos yn llai, gyda’r posibilrwydd o newid y gwyliau i fod yn bedair wythnos yn y dyfodol, dan gynigon newydd gan Lywodraeth Cymru.

Byddai’r newidiadau’n golygu bod gwyliau hanner tymor yr hydref yn cael eu hymestyn i fod yn bythefnos, a’r gwyliau haf yn dechrau wythnos yn hwyrach.

Yn ôl undebau addysg, does dim tystiolaeth y byddai’r newid yn helpu addysg plant.

Mae ymgynghoriad ar y mater wedi dechrau heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 21), a phe baen nhw’n cael eu cymeradwyo yn y gwanwyn, byddai’r newidiadau’n dod i rym ym mis Medi 2025.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn ystyried newidiadau pellach y byddai’n bosib eu gwneud yn y dyfodol, ond nid yn 2025.

Ymysg y newidiadau hynny mae’r opsiwn o symud ail wythnos o wyliau’r haf a’i hychwanegu at wyliau’r Sulgwyn.

‘Straen go iawn’

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae rhai disgyblion, yn enwedig rhai o gefndiroedd sydd dan anfantais ariannol neu rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn ei chael hi’n anodd dychwelyd i’r ysgol ar ôl gwyliau haf hir.

“Gall y gwyliau haf hir fod yn straen go iawn,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

“Mae teuluoedd yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ofal plant dros y chwe wythnos, ac mae eraill yn cael trafferth gyda’r costau ychwanegol a ddaw yn sgil yr hafau hir.

“Rydyn ni hefyd yn gwybod mai ein dysgwyr mwyaf difreintiedig sy’n mynd ar ei hôl hi fwyaf gyda’r dysgu yn sgil haf hir.”

‘Costau gofal uwch’

Dywed Parentkind fod eu pôl diweddar yn dangos y byddai “mwyafrif o rieni” yn cefnogi’r newid, gyda 72% o deuluoedd incwm isel o blaid.

“Mae’n deg dweud bod y ffordd mae gwyliau ysgol wedi eu crynhoi i fisoedd yr haf ar hyn o bryd yn arwain at gostau gofal plant a chostau gwyliau teulu chwyddedig, gan waethygu’r heriau a wynebir yn ystod yr argyfwng costau byw,” meddai Jason Elsom, Prif Weithredwr Parentkind.

“Yn bwysicaf oll, mae hyn yn effeithio ar brofiadau bywyd a chyfleoedd y plant mwyaf agored i niwed.”

‘Siomedig’

Fodd bynnag, mae undebau addysg yn dadlau nad oes tystiolaeth i gefnogi’r newid, ac nad nawr yw’r amser i’w ystyried.

Dywed Emma Forrest o Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru eu bod nhw’n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi cynnig y newidiadau nawr gan fod y gweithlu wedi bod drwy gyfnod o newid yn sgil cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn barod.

“Byddai’n rhaid i unrhyw newid fod ar sail tystiolaeth ac yn sicrhau llesiant y gweithlu.

“Rhaid i unrhyw newidiadau ddangos sut y byddai addysg plant a phobol ifanc yn elwa hefyd.”

‘Dim tystiolaeth’

Ychwanega Laura Doel, Ysgrifennydd Cyffredinol NAHT Cymru, eu bod nhw’n methu deall pam fod yr ymgynghoriad yn digwydd nawr.

“Does dim tystiolaeth wedi cael ei gyflwyno sy’n dangos fod newid y flwyddyn ysgol yn cael effaith gadarnhaol ar addysg disgyblion,” meddai.

“Ac mae ymgynghoriad blaenorol ar y mater yn dangos nad oes yna awydd am newid, gan rieni, athrawon, busnesau na’r cyhoedd. Felly pam fod hyn yn cael ei wthio fel blaenoriaeth nawr?

“Gyda chymaint yn digwydd mewn ysgolion nawr, gyda’r cwricwlwm newydd, y diwygiadau i Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac argyfyngau recriwtio, cadw staff ac ariannu difrifol, dydy hyn ddim yn flaenoriaeth i ysgolion.

“Byddai’n well i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth i athrawon a disgyblion, a helpu ysgolion i gyflwyno’r diwygiadau presennol, cyn dechrau ar fwy o newidiadau i addysg.”