Mae’r heddlu yn Sbaen wedi arestio tri o bobol ar amheuaeth o geisio llofruddio gwleidydd asgell dde yng Nghatalwnia.

Cafodd Alejo Vidal-Quadras, sylfaenydd plaid Vox a chyn-Aelod o Senedd Ewrop, ei saethu yn ei wyneb ym Madrid ddechrau’r mis.

Cafodd un person ei arestio ym Malaga, a’r ddau arall yn Granada.

Mae’r Llys Cenedlaethol wedi agor ymchwiliad, ac maen nhw’n credu ei fod yn achos o frawychiaeth.