Bydd angen i Gyngor Sir Ddinbych ddarparu 16 o lefydd newydd ar gyfer cartrefi i Sipsiwn a Theithwyr yn ystod y bum mlynedd nesaf, yn ôl adroddiad sy’n adolygu anghenion llety’r sir.

Yn ôl asesiad diwygiedig ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, bydd angen 16 lle ychwanegol ar Sir Ddinbych rhwng rŵan a 2027-28, a dau arall erbyn 2033.

Mae’r adroddiad yn honni nad oes angen ’safle dros dro’ ar hyn o bryd, gan fod nifer y gwersylloedd heb awdurdod yn Sir Ddinbych yn isel ac yn fyrhoedlog – wrth i nifer o Deithwyr o’r fath fynd heibio am resymau gwaith neu wrth iddyn nhw deithio ar hyd yr A55 i Iwerddon ac yn ôl.

Dywed yr adroddiad fod dau safle heb awdurdod i Sipsiwn a Theithwyr sydd â chyfanswm o saith lle – ac mae chwech ohonyn nhw ar un safle.

Daeth yr astudiaeth i’r casgliad nad oes yna bobol ynghlwm wrth sioeau teithiol sydd angen llety, ond dywed yr adroddiad y bydd y Cyngor yn monitro hynny.

Ystadegau

Fe wnaeth Cyfrifiad 2021 ddarganfod fod:

  • o leiaf 23 o aelwydydd Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig yn Sir Ddinbych, ac 14 Roma – ond mae’r ffigwr yn debygol o fod yn uwch oherwydd prinder ymatebion
  • ychydig yn llai na hanner (45%) aelwydydd Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig â phlant dibynnol
  • 26 mlwydd oed yw’r canolrif ar gyfer Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig, o gymharu â’r canolrif ar gyfer y boblogaeth genedlaethol, sef 39
  • dim ond 6% o’r boblogaeth Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig sy’n 65 oed neu’n hŷn, o gymharu ag 16% o’r boblogaeth genedlaethol
  • Mae Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig dan 20 oed yn cyfrif am 39% o’r boblogaeth, o gymharu â 24% o’r boblogaeth gyfan – 20% sydd dan ddeg oed o gymharu â’r ffigwr cenedlaethol (12%)
  • Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig yw’r garfan yn y gymdeithas sydd â’r gyfradd isaf o ran pobol iach (70%), o gymharu â’r ffigwr cenedlaethol (81%).
  • Mae cyfraddau uwch o lawer o blant ac oedolion ifanc sy’n Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig, a chyfraddau is o lawer o bobol 50 oed neu’n hŷn, o ganlyniad i gyfraddau genedigaeth uwch a disgwyliad oes is

Swyddog cyswllt newydd

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyflogi swyddog cyswllt ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ddiweddar.

Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyflogi swyddog cyswllt ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr fel rhan o broses fwy cydlynol i reoli gwersylloedd heb awdurdod, gan gwblhau gwiriadau lles a darparu biniau a thoiledau.

Bwriad y rôl yw adeiladu gwell perthynas rhwng y Cyngor a’r gymuned deithiol.

Mae’r astudiaeth yn rhoi sylw i anghenion Sipsiwn, Roma a Theithwyr Gwyddelig, Teithwyr yr Oes Newydd, a phobol sydd ynghlwm wrth sioeau teithiol.

Mae’n rhaid i’r Cyngor gwblhau adolygiad o’u llety i Deithwyr fel rhan o’u cynllun datblygu lleol, yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.

Bydd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych yn trafod yr adroddiad heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 21) yn eu pencadlys yn Neuadd y Sir yn Rhuthun.