Mae Liz Saville Roberts yn dweud ei bod yn “bryderus iawn” am ddiflaniad pedwar llanc fu’n gwersylla yn Eryri dros y penwythnos.

Does neb wedi gweld Jevon Hirst, Harvey Owen, Wilf Fitchett na Hugo Morris o Amwythig ers dydd Sul (Tachwedd 19).

Mae lle i gredu eu bod nhw wedi teithio o ardaloedd Harlech a Phorthmadog mewn car Ford Fiesta lliw arian.

Mae Heddlu’r Gogledd yn annog unrhyw un sydd wedi eu gweld nhw i gysylltu â nhw, ac maen nhw wedi cadarnhau eu bod nhw bellach wedi dod o hyd i’r car roedden nhw’n teithio ynddo.

“Mae diflaniad y pedwar hyn yn eu harddegau ar drip gwersylla yn #Eryri yn bryderus iawn,” meddai Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.

“Mae fy meddyliau ar unwaith â’u teulu a’u ffrindiau fydd yn eithriadol o bryderus am eu lles.

“Dw i’n deall fod Heddlu’r Gogledd, timau achub mynydd lleol ac aelodau eraill o’r gwasanaethau brys yn parhau â’u hymdrechion i chwilio amdanyn nhw fore heddiw.

“Dw i a fy swyddfa’n cael ein diweddaru ynghylch unrhyw ddatblygiadau.

“Dw i’n annog unrhyw un ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â Heddlu’r Gogledd, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod: A184194.”