Mae Cyngor Dinas Lower Hutt yn Seland Newydd yn cefnogi newid enw maesdref Petone i Pito-one.

Mae’r newid yn golygu y bydd enw Māori traddodiadol yr ardal yn cael ei ddefnyddio yn hytrach nag enw gafodd ei greu yn ystod y cyfnod pan oedd yr ardal dan reolaeth ymerodraethol.

Bydd yn rhaid i Fwrdd Daearyddol Seland Newydd gymeradwyo’r newid.

Yn ôl y Cyngor, maen nhw’n ceisio llunio proses fwy strategol er mwyn newid enwau yn y ddinas sy’n wallus neu’n gamarweiniol, a hynny yn y gobaith ychwanegol o helpu pobol i ynganu’r enwau’n well.

Ystyr Pito-one yw “pen traeth tywodlyd”.

Ar ddiwedd awr o drafodaeth, dim ond un cynghorydd oedd yn gwrthwynebu newid yr enw.

Bydd cyfnod ymgynghori hefyd yn cael ei gynnal er mwyn ceisio barn y cyhoedd cyn i’r Bwrdd Daearyddol drafod y sefyllfa.

Mae swyddogion yn annog y Cyngor i gymeradwyo’r newid.