Mae arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn dweud bod barn preswylwyr a busnesau’r sir yn bwysig er mwyn llunio Strategaeth Ddigidol newydd fydd yn cael ei lansio ym mis Ebrill.

Bydd adborth y cyhoedd yn galluogi’r Cyngor i lunio strategaeth ddigidol gadarn fydd yn eu grymuso nhw i wasanaethu eu preswylwyr a’u busnesau’n well wrth symleiddio eu gweithrediadau i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon, yn ôl Darren Price.

Pwrpas y Strategaeth Ddigidol fydd nodi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer sut mae preswylwyr, busnesau, aelodau etholedig, staff, partneriaid ac ymwelwyr yn parhau i elwa o fabwysiadu technoleg sy’n dod i’r amlwg a thrawsnewid gwasanaethau ledled y sir.

Drwy gydweithio gan ddefnyddio technoleg ddigidol a data, bydd modd iddyn nhw barhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus sy’n addas i’r diben ac sy’n ymateb i anghenion Sir Gaerfyrddin.

Nod yr ymgynghoriad cyhoeddus yw casglu mewnwelediadau hanfodol gan rhanddeiliaid yn y sir.

Drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus, Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol, bydd cyfraniad a mewnwelediadau trigolion yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio strategaeth ddigidol sy’n canolbwyntio ar bobol.

Croesawu’r trawsnewid

Mae llais pobol ar y strategaeth yma yn hollbwysig er mwyn sicrhau’r newidiadau sydd eu hangen mewn oes lle mae technoleg yn datblygu’n gyson, yn ôl Darren Price.

“Rydym yn cychwyn ar daith gyffrous i lunio Strategaeth Ddigidol newydd ac arloesol ar gyfer Sir Gaerfyrddin,” meddai wrth golwg360.

“Yn amlwg, mae technoleg yn newid yn barhaus.

“Mae’n hollbwysig fod pob Cyngor, ac mae sir Gaerfyrddin yn yr un cwch, yn ymateb i’r newidiadau yna, wrth gwrs.

“Dyna pam rydyn ni’n creu’r strategaeth ddigidol newydd yma ar gyfer y sir.

“Mae eich llais yn cyfrif a gall eich syniadau wneud gwahaniaeth – felly cymerwch ran drwy ddweud eich dweud heddiw.

“Rydym yn gweld fel mae technoleg wedi datblygu yn y blynyddoedd diwethaf.

“Rydym yn gweld y newid sydd wedi bod yma yng Nghymru.

“Fel Cyngor, rydym nawr yn cwrdd ar-lein; mae hynny’n rywbeth naturiol.

“Doedd e byth yn digwydd yn yr oes cyn Covid.

“Rydym nawr yn ddi-bapur, oni bai ein bod yn cyfarfod a thrafod.

“Mae yna newidiadau ac esblygiadau yn digwydd o hyd; mae’n hollbwysig ein bod ni, fel Cyngor, yn ymateb i’r newid hynny.

“Rydym eisoes yn darparu nifer o wasanaethau ar-lein.

“Efo diwrnod casglu biniau, er enghraifft, rydych yn gallu talu ar-lein, rydych yn gallu edrych ar geisiadau cynllunio, a sortio’ch gwastraff gardd allan.

“Mae cymaint o bethau rydym eisoes yn gwneud ar-lein, [ond] mae wastad lle i ehangu a gwella.

“Yn sicr, fel rhan o’r strategaeth newydd yma, fe fyddwn ni’n edrych i weld pa adrannau eraill, pa wasanaethau eraill, y gallwn ni ddarparu neu gynnig ar-lein.

“Mae eisiau bo ni’n adlewyrchu i weld os ydy’r gwasanaethau o safon angenrheidiol ar-lein, oes yna le i wella.

“Dyna pam ei bod mor bwysig bo ni’n ymgynghori gyda busnesau a’r cyhoedd ar draws y sir, i weld sut maen nhw’n teimlo am fel rydym yn darparu gwasanaethau ar hyn o bryd.”

Technoleg a gwasanaethau

Yn ôl Darren Price, mae’r newidiadau’n mynd y tu hwnt i wasanaethau, tuag at y rôl mae technoleg yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau i bobol.

“Mae technoleg yn gallu chwarae rôl, a bydd yn chwarae rôl fwy pwysig yn y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau yn y blynyddoedd nesaf.

“Mae llawer o sôn yn ddiweddar ynglŷn ag AI, ac fel Cyngor rydym yn awyddus iawn i edrych ar bosibiliadau mae AI yn eu cynnig i ni fel Cyngor, yn enwedig wrth edrych ar leihau costau i fod yn fwy effeithlon a sicrhau bod y gwaith yn y cefndir yn cael ei wneud yn awtomatig.

“Mae yna lawer o ffocws, nid yn unig ar y gwasanaethau rydym yn eu darparu ar-lein ond y posibiliadau sydd gyda ni wrth ddefnyddio technoleg wrth ddarparu gwasanaethau.

“Mae un esiampl gyda ni, [sef] mynd ar ôl technoleg yng ngofal cymdeithasol.

“Mae cwmni hyd braich gyda ni yn Sir Gaerfyrddin, Llesiant Delta, sydd yn arloesi yn y math o dechnoleg a’r math o gymorth allwn ni ei roi i bobol hŷn, er enghraifft, yn eu cartrefi wrth ddefnyddio technoleg fel rhan o’r pecyn gofal yna.

“Mae yna lawer o bosibiliadau a llawer o opsiynau dros y blynyddoedd nesaf.

“Rydym yn awyddus iawn i sicrhau bo ni’n cymryd pob cyfle sydd gyda ni yn Sir Gaerfyrddin.”

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan ddydd Iau, Rhagfyr 7.