AstraZeneca, sef prif gwmni gwyddor bywyd y Deyrnas Unedig, yw’r sefydliad diweddaraf i ymuno â siarter i hyrwyddo arloesi mewn gofal iechyd yng Nghymru.

Heddiw (dydd Mawrth, 21 Tachwedd), mae’r cwmni wedi ymuno â Llywodraeth Cymru, Prifysgol Abertawe a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gan ymrwymo i gydweithio i ddatblygu ffyrdd newydd o ganfod afiechydon a’u trin, a chyflawni’r hyn sydd bwysicaf i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau.

Bydd y cydweithio yma yn cyfuno nodau polisi ar draws y sector iechyd a’r economi yng Nghymru, gan helpu i flaenoriaethu cyflwyno meddyginiaethau a thechnolegau gofal iechyd arloesol.

‘Gwaith allweddol’

“Mae gwyddoniaeth, data a thechnoleg newydd yn arwain at ddatblygiadau newydd yn y ffordd rydyn ni’n canfod afiechydon a’u trin, gan arwain at ganlyniadau llawer gwell i gleifion,” meddai Mike Emery, Prif Swyddog Digidol ac Arloesi Llywodraeth Cymru.

“Mae’r siarter hon yn dod â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, y Llywodraeth, y byd academaidd a phartneriaid yn y diwydiant at ei gilydd i archwilio a datblygu ffyrdd newydd o ddarparu gofal iechyd yng Nghymru.

“Bydd o gymorth i gyflwyno arferion gofal iechyd, technoleg a meddyginiaethau arloesol yng Nghymru fydd yn arwain at ganlyniadau iechyd gwell i bawb.

“Mae’r gwaith hwn yn allweddol i gyflawni Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth fel y nodir yn strategaeth iechyd Llywodraeth Cymru, Cymru Iachach.”

‘Balch o weithio gyda Chymru’

Trwy’r bartneriaeth, mae AstraZeneca yn dweud eu bod nhw “eisoes yn gwella’r ffordd mae miloedd o bobol yn cael diagnosis a chael eu trin”.

“Yn AstraZeneca, rydyn ni’n angerddol am drawsnewid bywydau cleifion er gwell,” meddai Tom Keith-Roach, Llywydd AstraZeneca UK.

“Drwy gydweithio â’r system gofal iechyd a’r byd academaidd, gallwn drawsnewid canlyniadau iechyd ar lefel y boblogaeth gyda’n gilydd a hynny drwy fodelau cyflawni gofal arloesol a chynaliadwy.

“Rydyn ni’n falch ein bod yn datblygu ein partneriaethau pwrpasol presennol gyda Phrifysgol Abertawe a Byrddau Iechyd ledled y wlad i gyflawni’r weledigaeth ar gyfer Cymru iachach.

“Gyda’n gilydd, rydyn ni eisoes yn gwella’r ffordd y mae miloedd o bobol yn cael diagnosis a chael eu trin.

“Enghreifftiau o hyn yw gwneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint a’i drin yn gynt drwy brofion genomig wedi’u targedu ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a mynd i’r afael ag ôl-groniad o achosion wedi’r pandemig ym maes gofal asthma ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Drwy’r Siarter hon, mae gennym bellach yr uchelgais gyffredin i ddatblygu partneriaethau fel y rhai hyn ar lefel genedlaethol.

“Mae AstraZeneca yn falch o weithio gyda Chymru, a gyda’n gilydd, dylem gael ein hysbrydoli gan yr hyn y gall gwyddoniaeth ei wneud.”

‘Datblygu dysgu a mabwysiadu arloesi’

“Cafodd Prifysgol Abertawe ei sefydlu gan ddiwydiant, ac mae ganddi hanes hir o gefnogi partneriaethau diwydiant,” meddai’r Athro Hamish Laing o Brifysgol Abertawe.

“Ers 2021, rydyn ni wedi bod yn falch o gynnal yr Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth yn ein Hysgol Reolaeth.

“Mae’r Academi’n cael ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru ac mae’n adnabyddus ledled y byd.

“Mae’r Academi yn darparu addysg, ymchwil ac ymgynghoriaeth ym maes Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth i gefnogi’r gwaith o’i gyflwyno yn rhyngwladol.

“Mae’r Brifysgol yn edrych ymlaen at weithio gydag AstraZeneca a chyda’n partneriaid yng Nghymru i ddatblygu dysgu a mabwysiadu arloesi sy’n cefnogi systemau iechyd cynaliadwy.”