Dim ond 2% o stadau yng Nghymru fyddai’n cael eu heffeithio pe bai Canghellor San Steffan yn gostwng trothwy’r dreth etifeddiant, yn ôl ymchwil newydd.
Mae’r dadansoddiad gan TUC Cymru yn dangos mai 790 o stadau oedd yn gorfod talu rhywfaint o dreth etifeddiaeth o’r 38,575 o bobol fu farw yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf roedd ffigurau ar gael ar ei chyfer.
Mae’r dadansoddiad yn dangos mai pobol yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr fyddai’n elwa fwyaf o dorri’r dreth etifeddiant.
Mae stadau yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr dair gwaith yn fwy tebygol o dalu treth etifeddiant na Chymru.
Ond hyd yn oed yn Llundain (93%) a de-ddwyrain Lloegr (94%), dydy bron bob ystad ddim yn talu treth etifeddiant.
Y dreth etifeddiant
Ar hyn o bryd, gall y rhan fwyaf o gyplau priod adael i fyny at £1m i’w plant heb iddyn nhw orfod talu treth etifeddiant.
Caiff y dreth ei thalu ar gyfradd o 40% ar asedau a chyfoeth sy’n uwch na £1m.
Ond gall bylchau olygu nad oes rhaid i rai teuluoedd dalu unrhyw dreth ar asedau gwerth dros £1m.
Mae’r IFS wedi amcangyfrif y byddai’r 1% cyfoethocaf yn cael hanner y budd o gael gwared ar dreth etifeddiant, gyda thoriad treth cyfartalog o £1m.
Yn ôl TUC Cymru, byddai torri’r dreth etifeddiant ar gyfer miliwnyddion yn golygu “trosglwyddiad enfawr i’r cyfoethocaf” ac amddifadu gwasanaethau cyhoeddus o gronfeydd hanfodol.
Mae TUC Cymru yn dweud y byddai dileu’r dreth etifeddiant yn anrheg i “leiafrif bach iawn, cyfoethog iawn”.
Barn y cyhoedd
Datgelodd yr arolwg, gafodd ei gomisiynu gan y TUC ac a gafodd ei gynnal gan Opinium, fod:
- 60% o’r bobol gafodd eu holi yn gwrthwynebu toriadau i’r dreth etifeddiant
- Dau ym mhob deg (20%) o bobol yn credu y dylai’r rhai sy’n etifeddu dros y trothwy o £1m dalu llai – mae 60% yn credu y dylai’r dreth etifeddiant aros yr un fath neu fod yn uwch, gan gynnwys 62% o bleidleiswyr Ceidwadol yn etholiad cyffredinol 2019.
- Mae un ym mhob pump (20%) o bobol yn credu y dylai’r trothwy ar gyfer talu’r dreth etifeddiant fod yn uwch na’r £1m bresennol ar gyfer cyplau priod – mae’r rhan fwyaf (60%) yn credu y dylai aros yr un fath neu gael ei ostwng, gan gynnwys 61% o bleidleiswyr Ceidwadol yn 2019.
‘Angen economi sy’n gwobrwyo gwaith, nid cyfoeth’
Dywed TUC Cymru y byddai gostwng y dreth etifeddiant yn “weithred o ostwng y gwastad” gan y Ceidwadwyr.
Mae disgwyl i’r dreth etifeddiant gyfrannu £7bn at y pwrs cyhoeddus bob blwyddyn, yn ôl y rhagolygon diweddaraf gan yr OBR.
Ac mae dadansoddiad IFS yn awgrymu y bydd refeniw treth o’r dreth etifeddiant yn codi o £7bn eleni i oddeutu £15bn ymhen degawd.
“Mae Datganiad yr Hydref yr wythnos hon yn ymwneud â dewisiadau gwleidyddol,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.
“Ar adeg pan fo pobol yn cael trafferth gyda chostau byw, byddai’n anllad rhoi toriad treth enfawr i leiafrif bach a chyfoethog iawn.
“Nid oes bron neb yn cael ei effeithio gan dreth etifeddiant yng Nghymru, ond os caiff ei thorri bydd ein gwasanaethau cyhoeddus yn llwgu heb gyllid y mae mawr ei angen unwaith eto.
“Byddai ei dorri yn weithred o ostwng y gwastad.
“Mae’r Ceidwadwyr wedi torri Prydain, ac maen nhw’n ymddangos yn siŵr o wneud pethau hyd yn oed yn waeth.
“Mae’n amser ailddechrau.
“Mae angen economi sy’n gwobrwyo gwaith, nid cyfoeth.”