Mae Aelodau’r Senedd wedi clywed bod plant mor ifanc â thair oed ynghlwm wrth hiliaeth, gyda rhagfarn ar gynnydd yn ysgolion Cymru.

Fe glywodd pwyllgor cydraddoldeb y Senedd dystiolaeth gan Gyngor Hil Cymru a Phrifysgol Caerdydd, fel rhan o ymchwiliad i gynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Uzo Iwobi, sylfaenydd a Phrif Weithredwr Cyngor Hil Cymru, wrth Aelodau’r Senedd fod plant yn wynebu ymosodiadau corfforol a geiriol ar sail hil yn yr ysgol.

“Dros un wythnos, fe gawson ni bymtheg o alwadau ffôn gan ysgolion ledled Cymru’n adrodd am wahanol achosion o hiliaeth oedd yn cynnwys plant mor ifanc â thair oed, sy’n erchyll,” meddai.

Pwysleisia’r Athro Uzo Iwobi fod hiliaeth yn ymddygiad sy’n cael ei ddysgu, wrth iddi dynnu sylw at yr angen i addysgu rhieni yn ogystal â disgyblion.

“Fe wnaeth un o’r merched wrthod dod i’r ysgol, gan fod rhywun wedi dweud wrthi y dylai hi fyw mewn coeden oherwydd bod ei theulu’n edrych fel mwncïod neu ryw eiriau tebyg,” meddai wedyn.

Troseddau casineb

Rhybuddia’r Athro Uzo Iwobi fod cyfraddau swyddogol o adrodd am droseddau casineb wedi gostwng, tra bod cyswllt ag elusennau megis Cyngor Hil Cymru wedi cynyddu’n sylweddol.

Dywedodd y bargyfreithiwr a darlithydd y gyfraith wrth Aelodau’r Senedd nad oes gan gymunedau ffydd yn yr heddlu, gan ddweud bod pobol wedi adrodd am ddigwyddiadau yn y gorffennol ond na fu unrhyw newid.

Cyfeiriodd at ymosodiad ciaidd ar fachgen 14 oed y tu allan i’r ysgol gan ddau o blant â chroen gwyn, nad oedd rhieni’n dymuno’u riportio i’r awdurdodau.

“Mae nifer o bobol yn dechrau teimlo mai hiliaeth bob dydd yw hyn,” meddai.

“Mae hyn yn digwydd i ni dro ar ôl tro.”

Ychwanega fod Cyngor Hil Cymru wedi cael eu cynghori i ganslo dathliadau hanes du yn Llanelli eleni oherwydd y derbyniad negyddol mae ceiswyr lloches wedi’i gael.

Crefydd

Mynegodd yr Athro Uzo Iwobi bryderon am gynnydd sylweddol mewn gwrth-Semitiaeth ac Islamoffobia o ganlyniad i ryfel Israel-Palesteina yn Gaza.

Dywedodd wrth y pwyllgor fod menywod sy’n gwisgo hijab yn enwedig yn wynebu casineb cynyddol, gan dynnu sylw at enghraifft Mwslim gafodd wyau wedi’u taflu atyn nhw yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd fod arweinwyr cymunedol yn adrodd nad yw Cymru bellach yn lle diogel i fod yn Iddew.

“Yn drist iawn, gyda phrotestiadau’n parhau, mae hyn wedi arwain at fwy o dargedu yn erbyn y rhai nad ydyn nhw’n protestio,” meddai.

“Mae’n brofiad brawychus iawn i fod allan yno ynghlwm wrth waith cymunedol ar hyn o bryd.”

Cyfiawnder

Clywodd y pwyllgor fod lleiafrifoedd ethnig yn cael eu gorgynrychioli ym mron bob agwedd ar y system gyfiawnder troseddol.

Disgrifia’r Athro Uzo Iwobi y system garchardai fel un sy’n amlwg yn sefydliadol hiliol, ac yn rhagfarnllyd yn erbyn dynion du yn enwedig.

Mae’n galw am drawsnewid y system gyfiawnder a chyflwyno hyfforddiant gwrth-hiliaeth.

Roedd Robert Jones, sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi tynnu sylw at wahaniaethau o ran dedfrydu a diffyg ymddiriedaeth yn y gyfraith, yn ystod y cyfarfod heddiw (dydd Llun, Tachwedd 20).

Data

Wrth godi pryderon am ddiffyg darlun ar wahân o ran Cymru, disgrifia’r Dr Robert Jones y Weinyddiaeth Gyfiawnder fel un “bron yn ddaearyddol analluog”.

I’r gwrthwyneb, clywodd Aelodau’r Senedd fod data’r Swyddfa Gartref, sy’n cael ei dorri i lawr fesul heddlu, yn dangos defnydd anghymesur o hawliau stopio a chwilio ar grwpiau du a hil-gymysg yng Nghymru.

Rhybuddiodd fod tystiolaeth yn ddiffygiol.

“Cyn i ni ddechrau meddwl am fynd i’r afael â’r broblem hyd yn oed, mae ffordd bell i fynd o ran ein dealltwriaeth o’r broblem,” meddai.

Galwodd am fuddsoddi mewn ymchwil i ddarparu dealltwriaeth ddyfnach, gan ddweud bod Canolfan Llywodraethiant Cymru’n gweithio ar arsyllfa ar gyfer cyfiawnder troseddol yng Nghymru.

‘Ymylon danheddog’

Mewn tystiolaeth ysgrifenedig, fe wnaeth y Dr Robert Jones ddisgrifio anghymesuredd hiliol systematig a chyson o fewn cyfiawnder troseddol yng Nghymru.

Tynnodd e sylw at y ffaith nad yw nifer o’r pwerau sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael â hiliaeth wedi’u datganoli, gan godi pryderon am “ymylon danheddog” y system gyfiawnder yng Nghymru.

“Mae Cymru’n unigryw, mae’n system wallus,” meddai.

“Mae ganddi ddeddfwrfa a phwyllgor gweithredol sydd heb swyddogaeth o ran cyfiawnder – yr unig wlad yn y byd sydd â chyfraith gwlad sydd â’r gwall hwnnw.”