Mae ymdrin â thwyll tenantiaeth ac erlyn y rheiny sy’n gyfrifol yn hollbwysig o ran sicrhau bod Cyngor Môn yn parhau i fodloni anghenion tai lleol, yn ôl un o’r cynghorwyr.

Mae’r rheiny sy’n twyllo o ran eu tenantiaeth yn wynebu colli eu cartrefi, gorfod mynd i’r llys, neu gallen nhw hyd yn oed golli eu hawl i fynnu tai cymdeithasol yn y dyfodol.

Mae’n bwysicach nag erioed i Gyngor Môn eu bod nhw’n darparu cartrefi iach ar gyfer eu trigolion, oherwydd y gostyngiad yn nifer yr eiddo preifat sydd ar gael, a’r cynnydd yn y galw am wasanaethau digartrefedd Ynys Môn.

Gall twyll tenantiaeth gynnwys:

  • isosod eiddo, hynny yw pan fo rhywun sydd yn rhentu eiddo’n ei roi ar osod i rywun arall (sub-let)
  • cefnu ar eiddo
  • hawliad olyniaeth neu aseiniad anwir
  • cyfnewid eiddo heb awdurdod
  • hawlio costau tai neu ddefnyddio’r eiddo i redeg busnes

Annog pobol i adrodd am achosion o dwyll

Mae Cyngor Ynys Môn yn annog trigolion yr ynys i adrodd am unrhyw bryderon, a hynny’n hollol gyfrinachol.

Yn ôl Ned Michael, Pennaeth Tai Ynys Môn, mae twyll tenantiaeth yn cael ei gymryd o ddifri gan y Cyngor, ac maen nhw’n gweithio’n galed i ddal y rhai sy’n twyllo a’u cosbi.

Bydd hyn, meddai, yn helpu’r rhai sydd fwyaf bregus o ran y sefyllfa dai.

“Mae twyll tenantiaeth yn drosedd rydym yn ymdrin â hi’n ddifrifol,” meddai.

“Rydym yn gweithio’n galed i ddod o hyd i’r rheiny sy’n twyllo.

“Mae gennym wiriadau mewnol ar waith i ddod o hyd i dwyll tenantiaeth a sicrhau bod cartrefi yn cael eu rhoi i bobol sy’n disgwyl am gartref.

“Bydd hyn yn sicrhau bod y rheiny sydd mewn gwir angen yn cael eu hailgartrefu cyn gynted â phosibl, ac yn lleihau’r angen i ni roi pobol ddigartref mewn llety dros dro.”

Angen gwneud mwy

Mae archwiliad diweddar wedi dod i’r casgliad fod Gwasanaethau Tai Ynys Môn yn ymateb yn dda i achosion posibl o dwyll tenantiaeth, ond fod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth ymhlith tenantiaid a chymunedau lleol.

Bydd llawer mwy yn cael ei wneud i ddatrys y broblem, yn ôl dirprwy arweinydd y Cyngor a’r deilydd portffolio tai.

“Mae twyll tenantiaeth yn defnyddio arian trethdalwyr ac yn cyfyngu’r posibilrwydd i breswylwyr ddod o hyd i gartref addas yn eu cymuned leol,” meddai’r Cynghorydd Gary Pritchard.

“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae o ran adrodd am dwyll tenantiaeth.

“Yn ystod y misoedd nesaf, bydd ein staff Tai yn gweithio’n galed i geisio codi mwy o ymwybyddiaeth ynghylch y mater pwysig hwn.”

Gall unrhyw un sy’n cael eu canfod yn euog o dwyll dderbyn dirwyon sylweddol, dedfryd o garchar a chofnod troseddol.

Dylid cysylltu â’r Gwasanaethau Tai er mwyn adrodd am achosion posibl o dwyll tenantiaeth, naill ai drwy e-bostio adrantai@ynysmon.llyw.cymru neu drwy ffonio 01248 752200.