Fe fu Siop y Siswrn yn yr Wyddgrug yn lle poblogaidd erioed i ymgynnull am sgwrs, ond roedd newid gêr mawr ddydd Sadwrn (Tachwedd 18) wrth iddyn nhw ddathlu’r hanner canmlwyddiant.
Pan enillodd Alun Ffred, fu’n byw yn yr Wyddgrug am gyfnod, Wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, cafodd Selwyn ac Anne Evans y syniad o gynnal cyd-ddathliad o lwyddiant yr awdur hanner canrif ers agor y siop.
Bu’r gŵr a gwraig wrthi wedyn yn cynllunio’r noson gafodd ei chynnal yng Nghlwb Golff yr Wyddgrug nos Lun, Tachwedd 13, gyda chefnogaeth gan Y Lolfa.
Bu i Nic Parry holi Alun Ffred am ei gyfrol fuddugol, Gwynt y Dwyrain, a chafodd diwrnod ‘bybls a briwsion’ ei gynnal yn y siop rhwng 11yb-3yp ddydd Sadwrn (Tachwedd 18), gyda Dafydd Iwan yn torri’r gacen ben-blwydd ac yn llofnodi ei lyfr newydd, Still Singing ‘Yma o hyd’.
Roedd rhes drefnus o bobol o’r drws ffrynt i gefn y siop, lle’r oedd y gacen, briwsion yn cynnwys caws, bisgedi a llymaid o prosecco neu ddiod ysgafn – a Dafydd Iwan yn eistedd yn barod i lofnodi’r llyfrau.
Tair chwaer a thylluan
Ymhlith y rhes o bobol roedd plant oedd yn gwisgo’u sgarffiau pêl-droed Cymru.
Yn eu plith roedd tair chwaer – Gwennan, Lily, a Megan, a’u mam Alaw Smith.
Wrth glywed mai Gwennan oedd enw’r hogan fach gyntaf, sgwennodd Dafydd yn y cerdyn, “I Gwennan, Dafydd Iwan a’r dylluan”, gan ddweud wrthi fod y rhain i gyd yn odli.
Esboniodd Alaw fod plant yr ardal wedi bod yn canu ‘Yma o hyd’ yn yr ysgol; ychwanegai Lily:
“Fi oedd yr unig un oedd yn gwybod pob un air ohoni,” meddai Lily, wrth i’w mam egluro bod plant yr ardal wedi bod yn dysgu geiriau ‘Yma O Hyd’ yn yr ysgol.
Roedd y teulu o bentref Eryrys yn Sir Ddinbych wedi clywed ar yr unfed awr ar ddeg fod Dafydd Iwan yn y siop, a hynny oherwydd fod Megan wedi bod yn cymryd rhan yng ngweithgareddau Theatr Clwyd gerllaw.
Hel newyddion ac atgofion
Nid plant yn unig aeth draw i gael cyfarfod â Dafydd Iwan chwaith.
Roedd Nora Jones yno, a dywedodd ei bod hi’n picio i’r siop bob mis o’r Bedol, ardal Rhuthun, i gael yr holl newyddion diweddaraf.
Roedd Nia Jones, o fyd y cyfryngau, yno hefyd yn hel atgofion am Dafydd Iwan pan oedd o’n ymwneud â rhaglenni y bu hithau’n gweithio arnyn nhw.
Bu hefyd yn sôn am rôl bwysig Siop y Siswrn, pan fu hi a’i theulu ifanc yn byw dramor yn yr Almaen a’r Iseldiroedd.
“Roedden ni’n cysylltu ac roedden nhw’n anfon adnoddau a pethau draw atyn ni, er mwyn i ni cael ei defnyddio hefo’r plant,” meddai wrth golwg360.
“Doedd yno ddim wê ar y pryd, felly roedden ni’n prynu fideos a phethau felly, ac mi roedd hynny’n help mawr.”
Bu Dafydd hefyd wrthi’n hel atgofion am y sgyrsiau gafodd o yn y gogledd-ddwyrain, gan adlewyrchu ar naws unigryw gwaith y fro, a bod yna diffyg ymwybyddiaeth rai blynyddoedd yn ôl fod Wrecsam yng Nghymru – hyd yn oed ymysg y sawl oedd yn byw yno!
“Mae yna garfan gref o ddysgwyr ym mhob ardal, ac maen nhw’n carfan bwysig iawn o fewn y gymuned o ran yr iaith,” meddai wrth golwg360.
“Ac nid pawb sy’n gyfarwydd a hanes Cymdeithas yr iaith a’r ymgyrchu.
“Mae ambell un yn gofyn, ‘Is it true you went to prison?‘
“A dwi’n dweud, ‘Ia, fi a sawl un arall oedd yn rhan o’r ymgyrch’. Felly roedd y llyfr yma’n gyfle i rannu rhywfaint o’r hanes.
“A dwi di gwneud cryn dipyn o ddigwyddiadau.
“Fues draw yng Nghasnewydd yn ddiweddar ac roedd yna 35 o bobol yno, ac roedden nhw wrth eu boddau yn cael digwyddiad Cymraeg yn y fro.”
Wedi’r bwrlwm
Bu Selwyn, Anne, a’u merch Lisa yn brysur iawn drwy’r prynhawn yn gwerthu llyfrau ac yn darparu lluniaeth, gan gynnwys y gacen ar ôl i Dafydd Iwan ei thorri, a bu Selwyn yn rhoi sgôr diweddaraf gêm Cymru yn erbyn Armenia i Dafydd Iwan wrth iddo lofnodi’r llyfrau.
“Wel, mae’r llyfrau wedi para, a’r gacen, a’r prosecco!” meddai Anne Evans wrth golwg360 ar ddiwedd y digwyddiad.
“Ac mae hi wedi bod yn neis i ni gael gwneud rhywbeth fel hyn, roedd yn hwyl.”
Ac roedd ei gŵr yn teimlo “balchder” yn sgil y “gefnogaeth anhygoel” gawson nhw ar hyd y blynyddoedd.
“Roedd cael Dafydd Iwan ac Alun Ffred fel rhan o’r digwyddiadau wedi apelio at ein cwsmeriaid,” meddai.
“Ac mi roedd y digwyddiad ddydd Lun yn llwyddiant – mi roedd hi’n orlawn â dweud y gwir, a phobol wedi mwynhau straeon difyr gan Alun Ffred dan gadeiryddiaeth Nic Parry.”