Cafodd un o gyn-brif swyddogion S4C ei diswyddo yn seiliedig ar dystiolaeth a “chyngor cyfreithiol manwl”, yn ôl Bwrdd y sianel wrth iddyn nhw ymateb i gwynion ei bod hi wedi cael ei diswyddo “yn annheg”.

Mae Llinos Griffin-Williams, gafodd ei diswyddo fis diwethaf wedi iddi gael ei chyhuddo o “gamymddwyn difrifol”, yn dweud ei bod hi wedi hi wedi dioddef “ymddygiad anaddas” yn ei herbyn.

Mewn llythyr gan ei chyfreithwyr at Newyddion S4C, dywed Llinos Griffin-Williams ei bod hi’n “torri ei chalon” oherwydd ei “diswyddiad annheg”.

Mae hi’n honni bod Rhodri Williams, cadeirydd S4C, wedi ei diswyddo a’i fod yn “ymddwyn yn unigol heb yn wybod i’r Tîm Rheoli… a Bwrdd S4C”.

Yn y llythyr gan ei chyfreithwyr, mae hi’n honni na chafodd hi gyfle i “gyflwyno tystiolaeth gan lygad-dystion oedd yn bresennol ac sydd yn gwadu’r honiadau” yn ei herbyn.

Mae honiadau y bu dadlau rhwng Llinos Griffin-Williams ac aelodau o’r cwmni cynhyrchu Whisper mewn gig yn Naoned yn Ffrainc ar ôl un o gemau Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

Ynghyd â hynny, mae honiadau ei bod hi wedi ymosod yn eiriol ar Mike Phillips, oedd yn aelod o dîm sylwebu S4C yn ystod Cwpan y Byd, gan feirniadu safon ei Gymraeg.

‘Sawl achos o gamymddwyn’

Wrth ymateb i’r honiadau diweddaraf gan Llinos Griffin-Williams, dywed aelodau anweithredol Bwrdd S4C fod cadeirydd Bwrdd S4C wedi penderfynu ei diswyddo’n “seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd, a chyngor cyfreithiol manwl”, a bod y penderfyniad wedi cael ei gadarnhau wedyn gan aelodau anweithredol y Bwrdd.

“Cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo, heb rybudd, am sawl achos o gamymddwyn difrifol, yn dilyn derbyn honiadau am ei hymddygiad mewn digwyddiadau yn dilyn gêm Cwpan Rygbi’r Byd rhwng Cymru a Georgia ar 7fed o Hydref 2023,” meddai llefarydd ar ran Bwrdd S4C.

“Comisiynwyd proses canfod ffeithiau annibynnol gan yr aelodau anweithredol ddechrau Mai 2023, mewn ymateb i lythyr gan Bectu a gododd bryderon sylweddol am yr amgylchedd gwaith o fewn S4C.

“Roedd y llythyr yn cyfeirio’n benodol at awyrgylch lle nad oedd rhai unigolion yn teimlo eu bod yn gallu codi pryderon.

“Mae’r Bwrdd am ei gwneud yn gwbl glir bod yn rhaid i S4C gynnig amgylchedd gwaith lle gall staff godi unrhyw bryderon heb ofn. A bod y staff yn teimlo bod y pryderon hynny wedi cael eu trin mewn modd teg a rhesymol.

“Bydd aelodau anweithredol Bwrdd S4C yn ystyried canlyniad y broses canfod ffeithiau maes o law, ac yn ymateb yn gyhoeddus.”

Yn ei llythyr at Newyddion S4C, mae Llinos Griffin-Williams hefyd yn honni bod “dau aelod benywaidd o dîm rheoli S4C” wedi gwneud cwynion yn erbyn Rhodri Williams, ac mae hi’n galw ar adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n gyfrifol am benodi cadeirydd S4C, i ymchwilio i’r cwynion.

Dywed yr adran ei fod yn fater i S4C, ac nad oes modd iddyn nhw wneud sylw am achosion penodol.

Un o benaethiaid S4C wedi gadael ei rôl tros honiadau o ymddygiad amhriodol

Yn ôl adroddiadau, bu iddi “wneud sylwadau anaddas” tuag at aelodau o’r cwmni cynhyrchu Whisper

Croesawu’r ymchwiliad i honiadau o fwlio yn S4C

Daw sylwadau’r Ceidwadwyr Cymreig yn dilyn cyhoeddiad cadeirydd y sianel neithiwr (nos Fawrth, Mai 2)