Bydd 50 o lyfrau’n cael eu cyhoeddi i blant a phobol ifanc Cymru er mwyn hybu amrywiaeth mewn llenyddiaeth.
Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd cynllun ‘Rhyngom’ Cyngor Llyfrau Cymru’n arwain at gyhoeddi 50 o lyfrau fydd yn dathlu diwylliant, pobol a hanes Cymru gyfan.
Y nod hefyd yw fod y llyfrau, fydd ar gyfer plant rhwng tair ac 16 oed, yn cefnogi iechyd a lles plant a phobol ifanc ac yn datblygu eu sgiliau empathi a llythrennedd.
Mae pedair rhan i’r cynllun, sef:
- cyhoeddi addasiadau Cymraeg o 30 o deitlau Saesneg sy’n hyrwyddo a dathlu amrywiaeth.
- adnabod bylchau sydd yn dal i fodoli yn y ddarpariaeth, a chomisiynu a chyhoeddi 20 o lyfrau gwreiddiol, newydd – deg llyfr Cymraeg a deg Saesneg.
- cyhoeddi adnoddau dysgu i gyd-fynd â’r 50 llyfr.
- cydlynu cynllun i roi copïau o’r llyfrau i bob ysgol yn y wlad.
‘Dathlu amrywiaeth’
Un o’r prif amcanion wrth gomisiynu llyfrau gwreiddiol Cymraeg a Saesneg fel rhan o’r cynllun hwn oedd sicrhau cyfleoedd cyhoeddi i awduron a darlunwyr o gefndiroedd a chymunedau sy’n cael eu tangynrychioli, yn ôl Cyngor Llyfrau Cymru.
Ymhlith awduron y llyfrau gwreiddiol mae Natalie Jones, Cymraes sydd â’i gwreiddiau yn Jamaica ac sy’n athrawes ac yn awdur.
Bydd hi’n ysgrifennu llyfr ffeithiol ar gyfer plant tair i saith oed am ugain o unigolion o gefndiroedd diwylliannol amrywiol sydd wedi cyflawni pethau gwych yng Nghymru.
Mewn cyfrol arall, bydd Haf Llewelyn yn mentora tri egin awdur o gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli i ysgrifennu straeon byrion ar gyfer darllenwyr wyth i unarddeg oed.
“Fel rhywun sydd wrth fy modd yn darllen, rwy’n gwybod gymaint o bleser gall llyfr ei roi, ac rwy’n falch iawn o gefnogi’r prosiect yma,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn Llywodraeth Cymru.
“Mae’n bwysig fod llyfrau’n cynrychioli ac yn dathlu amrywiaeth, a bod plant a phobol ifanc yn gallu gweld eu hunain ac eraill mewn llenyddiaeth, a datblygu empathi.”
Bydd yr ugain llyfr gwreiddiol Cymraeg a Saesneg yn cael eu cyhoeddi fis Tachwedd 2024, a’r 30 addasiad Cymraeg yn cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror 2025.