Fe fydd digwyddiad llenyddol yn Sir Benfro yr wythnos nesaf yn trafod soned gan Alan Llwyd, Ffenestr – sy’n deyrnged i’r bardd a heddychwr Waldo Williams.
Daeth hi’n drydydd yng nghystadleuaeth y Soned yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 – yn rhyfeddol, Alan Llwyd oedd bardd y tair ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth.
Bydd y soned dan sylw yn cael ei thrafod mewn digwyddiad o’r enw ‘Trafod Awen Waldo’ yn Festri Capel Bethel, Mynachlog-ddu nos Wener, Rhagfyr 1, mewn achlysur sydd wedi’i drefnu ar y cyd gan Gymdeithas Waldo a Chymdeithas Fforddolion Dyfed.
“Un o uchafbwyntiau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol eleni… oedd y gystadleuaeth cyfansoddi soned,” meddai’r trefnwyr.
“A hynny nid yn unig am fod teilyngdod gyda chlod ond am fod y tair soned orau wedi’u cyfansoddi gan yr un bardd….
“Mae’r prifardd Alan Llwyd wedi cyflawni sawl camp yn ystod ei yrfa a tebyg bod hon gyda’r rhyfeddaf.
“Ac roedd y tair yn deilwng o’r wobr yn ôl y beirniad!”
‘Drwyddi fe welai drefn, fe welai dras…’
Y soned Gwyliedydd gafodd ei gosod ar y brig gan y beirniad Llŷr Gwyn Lewis – cerdd ddirdynnol am y Gymraeg yn dechrau â’r geiriau, ‘Edrychaf drwyddi ar bob awr o’r dydd…’
Ond y soned sydd o brif ddiddordeb i Gymdeithas Waldo yw’r un gafodd ei dyfarnu’n drydydd, dan y ffugenw ‘Carn Gyfrwy’.
Yn gyflwyniad mae’r bardd wedi rhoi datganiad Waldo am ei fro, ‘sef ‘Hon oedd fy ffenestr …’ ac mae’r soned yn adleisio llawer o’r delweddau sy’n cael eu defnyddio’n gyson gan Waldo, ac yn arbennig cynnwys ei gerdd Preseli.
Mae soned Alan Llwyd i Waldo yn agor â’r llinellau yma: ‘Drwyddi fe welai drefn, fe welai dras;/ drwyddi fe welai balas ei fabolaeth…’
Wrth gloi’r soned dywed y bardd, “…Edrychai draw/ drwy’r ffenestr ar y ffynnon lân, ddi-faw’. Dyma gyfeiriadaeth at linell enwog Waldo o’i gerdd ‘Preseli’: ‘Cadwn y mur rhag y bwystfil, cadwn y ffynnon rhag y baw’.
Cefndir y gerdd oedd ymgyrch pobol y Preseli yn erbyn bwriad y Weinyddiaeth Amddiffyn i droi’r mynydd-dir yn faes ymarfer milwrol.
“Beth oeddwn i’n ei weld oedd bod gan Waldo ei ffenestr ei hun, yn gweld ei fro, ei gymdogaeth, yn gweld y byd drwyddi hi,” meddai Alan Llwyd wrth golwg360.
“Roedd o’n gweld ei fyd delfrydol drwy’r ffenestr honno, hyd yn oed pan oedd mwg rhyfeloedd yn cymylu’r ffenestr… roedd hi’n ffenestr lân.
“Roedd ei weledigaeth o’n glir hollol waeth beth oedd yn ei chymylu hi.
“Roedd o eisiau cadw’r ffynnon yn lân ac yn bur rhag, yn bennaf oll, rhyfeloedd. Rhag bryntni a chreulondeb rhyfel sydd yn gwenwyno’r dŵr.”
Mae croeso i’r cyhoedd ddod i’r digwyddiad yn Festri Capel Bethel ar Ragfyr 1 i gyfrannu at y drafodaeth ar y soned a sylwadau’r beirdd.
“Dw i’n falch eu bod nhw wedi’i dewis hi i’w thrafod,” meddai Alan Llwyd.
“Mae hi’n naturiol eu bod nhw’n gwneud hynny – Cymdeithas Waldo ydi hi.
“O ran fy hun, dw i’n ei ystyried yn anrhydedd eu bod nhw’n ei thrafod hi.”
‘Ffordd benodol o edrych ar y byd’
Wrth drafod tair soned Alan Llwyd (heb yn wybod eto enw iawn y bardd) yn ei feirniadaeth yng nghyfrol y Cyfansoddiadau, mae Llŷr Gwyn Lewis yn canmol eu “gafael gadarn ar grefft… a’u defnydd deheuig o dechnegau penodol … gyda’i gilydd, mae’r sonedau hyn yn cynrychioli… ffordd o benodol o edrych ar y byd, ac o synied am y Gymraeg, ei chymunedau, a’i hanes mewn modd cyfannol, gwarcheidiol, a thraddodiadol”.
Roedd 19 o sonedau wedi dod i law eleni.
“Cystadleuaeth fechan yw hi wedi bod yn y gorffennol,” meddai Alan Llwyd.
“Dw i’n falch fy mod i wedi ennill a dw i’n ddiolchgar iawn i Llŷr Gwyn Lewis am ddewis y tair.
“I mi, ro’n i’n methu gwahaniaethu rhwng y tair – do’n i ddim yn gwybod pa un y byddai o’n ei dewis… os byddai’n dewis un o gwbl!”
Fe fydd y ddwy soned gan Alan Llwyd ddaeth yn ail a thrydydd yn cael eu cyhoeddi yn llawn yn rhifyn nesaf Barddas ym mis Ionawr.