Mared Fflur Roberts o Glwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Madog yn Eryri gipiodd Gadair Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc ym Môn eleni.
Mae hi’n ddisgybl ym mlwyddyn 13 yn Ysgol Dyffryn Conwy ac yn gobeithio mynd i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dywedodd y beirniaid bod y gerdd fuddugol, Milltir Sgwâr, yn gwbl deilwng o’r Gadair, a’i bod hi’n fardd “cynnil” sy’n ymdrin â dementia mewn ffordd “sensitif”.
Yma, mae golwg360 yn cyhoeddi’r gerdd fuddugol…
Milltir Sgwâr
Tyrd efo fi.
Awn i hel y mynyddoedd
gan droedio cynefin cyfarwydd.
Cawn sathru ar welltyn, meillionen a blodyn
wrth gamu ar lwybrau Y Cribau a’r Greigddu,
Hafod Gwenllian, Moel Dyrnogydd, Moel Barlwyd,
law yn llaw.
Mae’r cerddediad yn gyson.
Pob cam bras wedi ei fesur yn ofalus.
Caf deithio yn ôl ei droed yn hyderus a sicr.
Dilynaf, dysgaf ac edmygaf
gan deimlo’r cadernid yng ngafael ei law.
Af ato.
Sylla i’r mynyddoedd
gan olrhain teithiau hyd foelydd a ffriddoedd
yn y map ar gledr ei law.
Mae’r anadlu’n gyson
ond y llwybrau ar y llaw agored
yn helfa ddryslyd, anghyfarwydd.
Collwyd cynefin
yng nghwmwl y cof.