Alaw Fflur Jones o Glwb Felinfach yng Ngheredigion ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Môn dros y penwythnos.

Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Aberaeron, mae hi bellach ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth.

Dywedodd y beirniad Llŷr Titus fod y deialog yn y stori fer, Adenydd, “yn naturiol, yr ymdriniaeth o’r pwnc o dan sylw yn sensitif, ac o’r darlleniad cyntaf mi oedd gwaith ‘Ann’ wedi fy nhynnu fi ato fo”.

Dyma gyhoeddi’r darn buddugol…


Adenydd

“Be’ sy’n bod ’da ti, jyst cydia yn y diawl!” rhegodd eto, cyn hyrddio heibio a llamu’n ysglyfaethus am yr iâr.

Trïodd hi ei gorau i ddianc. Plediodd a phlediodd â phob clwc, cyn gorfod ildio’n gryndod dan ei grafangau,

“Nawr, dal y blincin thing yn llonydd ‘nei di!”

Gorfododd Eifion ei afael arni, wrth i’w dad dorri ar ei rhyddid fesul pluen. Wedi iddo glipio’i hail adain, fflingiodd hi o’i freichiau, a’i gadael i sgrialu yn ôl i’r llawr. Dechreuodd fflapio a fflapio ei hadenydd bach fel dwy fraich yn boddi mewn pwll, a’r hen ŵr yn cael modd i fyw o’i gweld hi’n straffaglu, cyn iddi yn y diwedd orfod suddo yn ôl i’w nyth, fel bob blwyddyn arall i drial gori.

I ble fydde hi’n mentro ‘se hi’n ca’l? meddyliodd Eifion. I’r arfordir, neu i’r ddinas falle? I Gaerdydd, neu i Lundain fyddai Eifion yn dewis. Dychmygodd shwt fyddai i godi i glochdar sŵn tacsis tu fas, i flasu’r holl fwrlwm yn yr aer, ac i weld yr holl gaeau o bobl yn troedio’r strydoedd, a rhai efallai o’r un brîd ac yntau. Tybiodd y byddai’r cwrs darlledu wedi bod yn dda yno hefyd. Efallai, petai heb golli cymaint o wersi nôl pan roedd e yn yr ysgol, yn gweithio i’w dad, y byddai wedi gallu gwneud hi i’r brifysgol. Byddai ei fam wedi gwirioni. Hi oedd yr un oedd yn arfer mynd ag e, rownd holl neuaddau’r wlad i eisteddfota ar brynhawniau Sadwrn, a hi byddai yn tynnu ystumiau o’i sedd, rhag ofn iddo anghofio’i eiriau. Er anaml iawn y byddai’n gorfod cael ei gocsio, roedd y geiriau yn llifo mor rhwydd â’i anadl ohono o’r llwyfan, a’i lygaid yn goleuo fel sêr wrth dderbyn pob cwpan.

Ond unwaith gafodd hi’n sgan yna, ugain mlynedd yn ôl, newidiodd popeth. Disgwyl oedd hi, meddai hi, wrth iddi deimlo’r un bach yn tyfu ynddi. Roedd ei dad fel plentyn ar ddydd Nadolig, biti marw eisiau gwybod beth roedd e wedi hau iddi. Mab roedd e wedi gobeithio. Un fyddai’n edrych ymlaen at godi gyda’r wawr i ddwyno’i welingtons, ac oedd wrth ei fodd â phêl rygbi yn ei law. Ond dim ond galar ddaeth wedyn am yr hedyn na gafodd fyth ei blannu. Byddai wedi gallu setlo am ferch fach hefyd, am unrhyw beth ond tiwmor! Roedd y boreau’r un mor gyfoglyd â’i dyddiau yn cario Eifion i ddechrau gyda, cyn iddynt waethygu. Doedd triniaeth ddim yn opsiwn iddi. Felly bob nos wedyn, roedd Eifion yn gorfod ei chlywed hi’n gwichian fel mochyn mewn lladd-dy wrth iddi dagu mewn i fasn o’i gwely, a hithau wastad wedi rhochian chwerthin. Tri mis a chwe diwrnod fuodd hi. Ac ar ôl hynny, trodd dyddiau ysgol Eifion yn wersi o garthu, a throdd ei Eisteddfodau brynhawn Sadwrn yn bantomeim ar gae rygbi.

***

Gwasgodd ei dad ei droed ar y brêc, cyn tynnu mewn o flaen y siop.

“By’ rhaid ti gerdded gitre, achos ma’ ‘ise i fi ddala Farmers Co-op ’fyd cyn iddo fe gau!”

Nodiodd Eifion, cyn cymryd yr arian mân fel cardotyn o’i ddwylo, a jwmpo mas o ddrws y pic-yp. Dechreuodd y cwlwm yn ei stumog ddatod wrth i refs yr enjin bellhau, cyn tynhau yn sydyn eto wrth sylwi ar y ferch yn pwsio pram i’w gyfeiriad. Roedd hi’n rhyw hwyr iddo ddechrau astudio’r palmant fel y byddai fel arfer yn smalio gwneud, roedd ei llygaid hi yn barod fel dartiau arno,

“Eifion!” meddai hi, â’i thôn yn chwerw fel adflas gwin yn ei wddf.

“Alys… ti… ti nôl,” pesychodd, wrth drial ei glirio.

“Dim ond am y wîcend. Ni’n gobeith’o mynd nôl i Abertawe dydd Llun.”

“O! A… Abertawe?” cwestiynodd fel petai’n gwybod dim, ac yntau wedi gweld ei hanes hi fel hanes pawb arall, yn blastar dros Facebook wrth iddo sgrolio yn ei wely.

“Ie. Gadelon ni Bryste. Dadi wedi ca’l jobyn newydd, nagyw e?” eglurodd wedyn wrth godi’i chlyw o’r pram, â’i choflaid yn ei atgoffa o lais crwt ar fin torri.

Hi oedd ei gariad cyntaf, ei unig gariad. Bu rhaid iddo’i holi hi mas ar ôl i’w Dad ddechrau bostio i bawb yn y dafarn ei fod e wedi’i ddala fe’n cleimio mewn i’w Peugeot bach coch hi un noson. A thrwy lwc, gyda phob perfformiad, fe gwympodd hi fel unrhyw ferch arall â phâr o lygaid amdano. Ond bob tro fyddai’n gorfod gafael ynddi, byddai’n meddwl am y llall, am ei hefell, am yr un oedd e ffaelu cael.

“C… car newydd!” mwmialodd Eifion wrth ei gwylio hi’n agor drws ei char.

“Ie, wel ma’ rhai o ni ffaelu rhannu am byth! A tabeth, do’dd yr un pram yn ffito yng nghefn y Peugeot. Ond ma’ Tomos yn dal i’w ddreifo fe o bryd i’w gilydd,” atebodd, cyn rhoi’r un bach yn sownd yn y sedd gefn.

“O! Shwt… shwt ma’ fe?”

“Gwd!” atebodd wrth drial tawelu’i mab â dymi.

Cochodd, “G…gwd. A… a shwt ma’ dy chwaer?”

“Hapus! Ma’ hi newydd brynu fflat yn Greenwich,” eglurodd Alys.

“Oreit Macsen!” gweiddodd hi wedyn dros ei drydan, cyn troi yn ôl at Eifion ac awgrymu bod yn well iddi fynd. Nodiodd Eifion, cyn cerdded i mewn i’r siop i brynu swper.

Gyda thin o bîns yn un llaw a thin o Spam yn y llall, dechreuodd Eifion gerdded adref, â’r trydaru yn dal i chwarae fel tiwn gron yn ei glust. “Dy fab di dyle hwnna ’di bod! Dyw’r blincin ffarm ’ma ddim yn mynd i gynnal ei hunan!” fyddai ei Dad yn diawlio. Ond cnoi ei dafod byddai Eifion wastad yn gwneud, er cymaint oedd e eisiau ei herio. Tase fe heb roi’r sac i ‘nghariad i fel na’th e, falle bysa Alys a finne dal da’n gilydd, ac wedi gallu ca’l blincin mab i gau ei ben e! Ond roedd y ddau ohonyn nhw yn gwybod nad oedd hynny’n wir. Dechreuodd gerdded yn gyflymach, ac yn gyflymach, cyn dechrau rhedeg…

Bu’n rhedeg yn aml ar ôl golli’i fam, ac yn amlach fyth ers i bethau orffen gydag Alys. Byddai’n rhedeg a rhedeg hyd nes y byddai’n ffaelu, hyd nes y byddai ei ochrau yn gwegian a’i liniau’n llefain. Roedd yr euogrwydd yn dal i’w fwyta am ei defnyddio hi fel y gwnaeth. Ond doedd ganddo ddim opsiwn arall, dyna oedd yr unig ffordd o warchod yr unig bleser oedd ganddo yn ei fywyd. Rhedodd yn gynt, ac yn gynt, ei galon yn powndio gyda’i draed. Llenwodd yr atgof o’u cusan gyntaf fel ton yn ei ben, wrth iddo agosáu at stad Bryntirion. Er cymaint roedd y ddau’n gwybod na ddylen nhw, ei fod e’n rong, aeth hi’n amhosib iddynt reoli eu hysfa. Y ddau wedyn yn awchu am ei gilydd, bob awr o’r dydd, cyn gorfod sleifio’n dawel tu ôl i ddrws y sgubor gyda’r nos. Teimlodd gerrynt o hiraeth yn gwenwyno drwyddo’n syth wrth orfod pasio’r stad ar y chwith. Rhedodd yn galetach fyth i drial niwlo’r galar. Ei goesau’n dechrau llosgi. Brigau yn clecian dan ei draed. Cymylau yn llenwi yn ei lygaid. Rhedodd nerth ei draed… dros bob un ceubwll… ar hyd yr un stretsien, tan gyrraedd diwedd y lôn hir. Ei waed yn pwmpio’n ddyrnau yn ei glustiau, a dail y dderwen fawr yn hedfan bant yn y gwynt uwch ei ben. Sychodd ôl y ddwy falwoden lawr ei fochau, cyn mynd i dwymo’r bîns iddo fe a’i Dad i swper.

***

Nodiodd ei dad, wrth weld Keith yn estyn am y botel wisgi.

“A dere â pheint wedyn iddo fe,” ategodd wrth bwyntio yn ôl at Eifion a oedd yn llusgo’i draed y tu ôl iddo. Ei ben yn ei blu wrth iddo gerdded heibio’r pla o grysau rygbi, tan iddyn nhw gyrraedd eu seddi arferol yng nghornel pellaf y bar.

“Enillon nhw heddi, 27-12” eglurodd Keith dros eu twrw, a’r cenau bach yn tagu ar eu peints. Y maffia’n rhuo “lawr y lôn goch, lawr y lôn goch…” yn atgoffa Eifion o’i ddyddiau yntau yn boddi yn ei berfedd ar y palmant tu fas er mwyn trial ffitio mewn. Cafodd wyth mlynedd hir o grasfa yn chwarae i’r ail dîm, cyn i’w dad mynnu lle iddo ar yr un tîm a fuodd yntau’n gapten arno unwaith. Ond ffaelodd Eifion hyd yn oed chwarae’i gêm gyntaf ar ôl torri ei ysgwydd un bore wrth odro. Er roedd ei dad fel gweddill y pentref, yn gwybod yn iawn nad oedd ffrâm yr un rotary yn gallu cwympo o’i le fel’na. O’r bois i gyd o gwmpas y bwrdd hir, Dewi Tyddyn Du oedd yr unig un oedd e’n hanner nabod. Fe oedd yr unig un oedd yno oedd tua’r un oedran ag Eifion, ac roedd yn dal i chwarae i’r tîm. Roedd y gweddill tybiodd yntau, naill ai gartref gyda’u gwragedd, heb ddod nôl ers mynd i’r coleg, neu bant yn trafaelu rhywle rownd y byd. Ac roedd yntau fel ei dad, erioed wedi mynd ymhellach na Lanelwedd, a hynny ond am ddiwrnod bach i’r Sioe bob blwyddyn.

Derbyniodd Eifion ei beint o lagyr fel yr arfer, a dechrau ei yfed. Troi ei drwyn wnaeth e gyntaf, pan archebodd ei dad lagyr siandi iddo yn nhe angladd ei fam, a’i law yn rhy fach i ddal y peint bron. Doedd e erioed wedi hoffi’i flas, ddim hyd yn oed pan roedd chwarter potel o lemonêd ar ei ben. Ond wrth i’r nos Sadwrn cyntaf hynny droi’n ddefod reolaidd, dysgodd yn ddigon cloi, mai ei lyncu a chadw’n dawel oedd gallaf.

“O’dd y blydi moch ’di bod yn fisi yn tynnu llunie tu fas y neuadd bore ’ma ‘to!” meddai Alwyn, â’i gefn gyn grwned â chrwban ar y bar.

Bastards! Ges di ‘ddala?” holodd Dai wedyn.

“Naddo! Lwcus pasiodd Mark Trees fi cyn ’ny yn fflasio gered, bydde fe ’di bod yn yffarn o lun drud heblaw ’ny!”

“O’n nhw tu fas y ffatri wedyn prynhawn ’ma glei!” ategodd Keith wrth fesur wisgi arall.

“O’n nhw siŵr fod ‘di talu am sawl sein fach heddi ‘to ynta!” meddai ei dad wrth gydio yn y wisgi, ag Eifion yn dal i sipian ar ei beint.

“Talu i ga’l blydi drideg a mwy o aelode seneddol newydd ti’n meddwl! Ma’ nhw ‘ise codi’r nifer o sixty i ninety-six! ‘Na pwy fydd yn pocedu’r arian fi’n gweud ‘tho ti!” bytheiriodd Alwyn. “Ma’n blydi stiwpid. S’dim sens yn y peth, twenty miles per hour! O’dd thirty yn ddigon slow trw’ pentre’!”

“Glywoch chi be’ ddigwyddodd yn dre echddoe de?” holodd Dai. “Na’th ryw hen fenyw, Saesnes o’dd hi glei, mewn Fiat Panda, bron â bwrw Delyth Cae Mawr lawr! O’dd hi’n pipo gymaint ar y dash, a’th hi strêt trw’r gole coch!”

“Ie, ond ar ben ’ny Dai, ma’r blincin gwlithod ’na o’dd yn ‘neud twenty mewn thirty, nawr yn ’neud blydi ten miles per hour ar yr hewl! A ma’ bob diawl ifanc yn trial overtako yn danjerys rownd y bends! ‘Na beth o’dd y close shave ’na ar gornel Pantrodyn w’thnos d’wetha’ glei!” eglurodd Alwyn.

“Ma’n blydi siambls…” ategodd Dai, cyn clywed llond bws o helmedau melyn a sashis gwyn yn tynnu mewn tu fas. Caeodd pob un ohonyn nhw eu cegau, wrth eu hastudio nhw’n cyrraedd yn storm o adeiladwyr taranllyd i mewn trwy’r drws, â’r Steel Toe Caps trwm yn edrych fel sachau ar eu traed. Blasodd Eifion ôl yr oriau o Pink Gin a Tonic yn chwys arnynt, wrth iddynt ymgynnull yn un parti plu wrth y bar. Archebu trên o Sambucas gwnaeth y morynion, pan ddechreuodd y clwb gwawr ar eu sylwebaeth…

“Ma’ shwr o fod gwraig i ga’l iti f’yna, Eifion!” winciodd Alwyn.

Ond cyn iddo gael cyfle i fynd oed codi ei ben, llenwodd ei dad ei geg, “Gormod o ddewis sy’ ’da fe’n barod! ‘Na’i broblem e!”

Llyncodd Eifion ei frôl gyda chegaid fawr o’i beint, cyn troi i bigo fel dryw bach wrth gornel y mat cwrw tamp o’i flaen. Wedyn, dechreuodd Dai barablu, “Sôn am ’ny, weles i Alys Bryntirion prynhawn ’ma, ei thad hi ddim yn dda, heartattack glei!”

“Wedi cael heartattack ar ôl clywed fod ei fab e’n priodi dyn arall shwr o fod!” chwarddodd Alwyn.

Aeth y pigo dryw yn rhwygiadau brân…

“Ca’ dy geg, yw e?”

“Odi! Wedi dyweddïo ryw foi o Fanceinion, ’na be’ glywes i yn y mart ddoe.”

Rhwygodd y mat yn fanach… ac yn fanach…

“Blydi hel! Bydde ti byth ’di gweud, o’dd y boi yn chwarae rygbi ‘chan! Fi’n cofio fe biti marw ‘ise dechre ffarmo ’fyd, ond bod dim ffarm i ga’l ’da fe! Buodd e hyd yn o’d yn helpu chi am gyfnod, naddo fe? Pan o ti Eifion yn caru ’da Alys?” holodd Dai, wrth edrych draw at Eifion a’i dad.

Ei wythiennau’n dechrau caledu’n dar…

“Fel’na ma’ nhw tyl, yn mynd bant i’r dinasoedd ’ma a’n swingio ffor’ arall. ‘Neud sens nawr, pam rodes di’r sac iddo fe fel ‘nes ti John!” chwarddodd Alwyn eto.

“Be ti meddwl?” cnoiodd ei dad.

Ei gledrau’n dynn… dynn…

“Wel achos o’dd y blincin pwff ’di trial ei lwc ’da ti, ife!” cellweiriodd Alwyn, cyn ffrwydrodd bawb yn dân o chwerthin, â’r sedd bellaf bellach yn wag wrth eu hymyl, gydag ond ôl ei fat gwrw’n gonffeti ar hyd y bar.

Gwrido gwnaeth y tad yng ngwres y fflamau, cyn llowcio’i ddwbl wisgi i lawr yn un.

***

Cydiodd Eifion yn y bwced a cherdded at y cwt ieir, gan sylwi yn syth arni yn sefyll yn estron ar dop y ffens. “Gloi! Cer i hol y ffycin clipers,” byddai ei dad wedi pregethu wrth ei gweld hi’n trial jengyd.

Roedd bron i ddeuddeg mis wedi mynd heibio ers iddo ddod o hyd i’w dad ar lawr y sgubor. Ei wyneb yn gam, ag ewyn yn nadreddu o’i geg. Roedd Eifion yn dal i deimlo’i waed yn staen ar ei ddwylo. Ôl-effaith y blynyddoedd o oryfed, dywedodd y doctor, dyna achosodd ei strôc. Ond roedd Eifion yn gwybod, taw’r siom yn yntau â’i wenwynodd.

Be’ sy’n dy ddala di yn ôl? Meddyliodd, wrth ei gwylio hi’n dal i oedi ar dop y ffens. Tithe ’fyd heb lwyddo i ori? Wedi mynd yn rhy hen i fynd ar ôl yr un freuddwyd? Neu un flwyddyn yn rhy hwyr… dy gariad ynte ’fyd, wedi mynd a phriodi ceiliog arall?

Cydiodd yn y rhaw a pharhau i adrodd yr un sgript a oedd wastad wedi’i dynghedu iddo, cyn troi yn ôl, a gweld ei bod hi wedi mynd. Llenwodd dagrau yn ei lygaid wrth iddo’i gwylio hi’n pellhau o’i nyth, ac yntau’n dal i ffaelu hedfan…