Fe wnaeth y gyfres Doctor Who gyfrannu tua £134.6m at economi Cymru rhwng 2004 a 2021.
Yn ôl adroddiad newydd i ddathlu 60 mlynedd ers dechrau’r gyfres, roedd adfywio’r sioe yng Nghymru yn sbardun i’r diwydiannau creadigol yn y de.
Fe wnaeth clwstwr creadigol de Cymru newid o fod mewn sefyllfa gref i fod yn mewn sefyllfa ragorol yn sgil Doctor Who, yn ôl dadansoddiad Canolfan Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd.
Mae’r adroddiad gan economegwyr yn nhîm Polisi Cyhoeddus y BBC, gydag ymchwil ychwanegol gan Media Cymru, yn amlinellu effaith economaidd y gyfres ar Gymru ers 2004, pan ddaeth Caerdydd yn gartref iddi.
Mae’r adroddiad hefyd yn amcangyfrif fod pob cyfres Doctor Who tan 2021 wedi creu cyflogaeth anuniongyrchol a chyflogaeth gafodd ei hysgogi sy’n cyfateb i 50.3 o swyddi cyfwerth ag amser llawn fesul cyfres yng Nghymru.
“Mae wedi bod yn braf iawn gweld llwyddiant Doctor Who ers i’r gyfres ddod i Gymru, a’r cysylltiad cryf sydd gan y rhaglen eiconig â’n gwlad,” meddai Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.
“Mae’r Doctor wedi bod yn sbardun allweddol o ran meithrin enw da’r diwydiant sgrin yng Nghymru ac mae ein sector creadigol medrus iawn yn sicrhau bod Doctor Who yn parhau i wthio’r ffiniau o ran ffuglen wyddonol ar y teledu.
“Penblwydd Hapus i’r Doctor – gyda gobaith y bydd yn ymddangos mewn sawl gwedd eto!”
‘Gwaddol aruthrol’
Wrth groesawu’r adroddiad, bu Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, yn siarad am effaith y penderfyniad i ddod â’r gyfres i Gaerdydd.
“Fe wnaethom ni benderfynu yn 2004 y byddem yn ailgychwyn Doctor Who yng Nghymru,” meddai.
“Mae’r penderfyniad hwnnw wedi gadael gwaddol aruthrol y gallwn fod yn falch ohono.
“Mae wedi darparu dros £134m i economi Cymru – a thros chwarter biliwn i’r Deyrnas Unedig gyfan. Mae hynny’n wirioneddol ryfeddol.”
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith fod cynyrchiadau rhwydwaith y BBC yng Nghymru yn gymharol gyfyngedig cyn 2004, ond fod llwyddiant Doctor Who wedi rhoi hyder i’r diwydiant.
Noda’r adroddiad fod y gyfres wedi paratoi’r ffordd at raglenni mawr eraill gan y BBC, fel Torchwood, Merlin a Sherlock.
Roedd y symudiad hefyd yn sail i benderfyniad y BBC i adeiladu stiwdios Porth y Rhath, sef y stiwdio ddrama bwrpasol gyntaf yng Nghymru, ac i symud Casualty o Fryste i Gaerdydd.
‘Creu gwaith’
Fel rhan o’r adroddiad, cafodd cyfweliad ei gynnal â Russell T Davies, Arweinydd y Cynhyrchiad ar gyfresi cynnar Doctor Who, sydd wedi dychwelyd yn ddiweddar.
“Pan fydd pobol yn dweud, ‘O, mae drama deledu yn costio £2m’,” meddai.
“Ond beth mae hynny’n ei olygu yw bod £2m yn dod i Gaerdydd.
“£2m i’r gyrwyr a’r staff swyddfa a’r lletygarwch, y gwestai ac yna’r tafarndai a’r bariau, ac yna’r archfarchnadoedd.
“Mae’n £2m sy’n cael ei wario yng Nghaerdydd
“Mae gwaith yn creu gwaith, ac mae hynny wedi digwydd.
“Po fwyaf o griwiau sy’n cael gweithio ar bethau, mae mwy o bobol ifanc yn cael eu hyfforddi yn y pethau hyn.
“Felly mae’n bwysicach ar gyfer y dyfodol, a pho fwyaf o awduron sy’n cyflwyno syniadau.
“Mae’r holl beth yn fater o ddenu nid yn unig cynyrchiadau rhyngwladol eraill, ond sioeau rhanbarthol gwych hefyd.”