Roedd penderfyniad Syr Lindsay Hoyle, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, i ganiatáu pleidlais ar welliant Llafur i gynnig yr SNP am gadoediad yn Gaza yn rhoi’r argraff ei fod yn ffafrio’r Blaid Lafur, yn ôl Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon.

Erbyn hyn, mae dros 60 o aelodau seneddol wedi datgan eu diffyg hyder yn y Llefarydd.

Bwriad cynnig yr SNP oedd galw am gadoediad i ddod â’r rhyfel rhwng Israel a Phalestina i ben, ond arweiniodd penderfyniad Syr Lindsay Hoyle at gryn ffrae yn y siambr.

“Roedd hi’n llanast ofnadwy, a hynny oherwydd bod y Llefarydd wedi newid y rheolau yn groes i gyngor Prif Swyddog y Tŷ, Tom Goldsmith,” meddai Hywel Williams wrth golwg360.

Mae Tom Goldsmith yn un o glercod Tŷ’r Cyffredin sy’n gyfrifol am gynghori’r Llefarydd ar y drefn.

Er iddo fe ysgrifennu llythyr at y Llefarydd i’w rybuddio ei fod yn mynd yn groes i’r drefn arferol wrth ganiatáu’r bleidlais, a’i gynghori i beidio â mynd yn ei flaen gyda’r penderfyniad, newidiodd y Llefarydd y drefn arferol beth bynnag.

“Yn fwriadol neu’n anfwriadol, roedd y Llefarydd yn rhoi’r argraff ei fod yn ffafrio Llafur trwy ganiatáu iddyn nhw gynnig eu gwelliant cyntaf,” meddai Hywel Williams.

“Roedd hyn er mai dadl yn enw’r SNP oedd hi ar Gaza.

“Y peth gwaethaf un am hyn yw ei fod o wedi tynnu’r sylw i ffwrdd o sefyllfa druenus Gaza.”

Yn ystod ei haraith, fe wnaeth Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ac eraill grybwyll fod y ffraeo yn tynnu sylw oddi wrth brif nod y ddadl.

‘Pennod gywilyddus’

Yn ôl Hywel Williams, mae gan y Deyrnas Unedig rôl bwysig i’w chwarae pan ddaw i’r sefyllfa yn Gaza.

“Mae gan Brydain rôl allweddol yn y sefyllfa yn Gaza oherwydd hanes imperialaidd o fod yn gyfrifol am Balesteina,” meddai.

“Mae Prydain yn aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, heb sôn am fod yn ddylanwadol â’r Unol Daleithiau, sef prif gynhaliwr Israel.

“Tra bod miri fel hyn yn Nhŷ’r Cyffredin, mae’n amlwg y bydd pobol mewn gwledydd eraill yn rhyfeddu at Lywodraeth Prydain Fawr ac yn llai tebygol o’i chymryd o ddifrif.”

Yn dilyn y ddadl, rhannodd Liz Saville Roberts ei theimladau ar X (Twitter gynt), gan ddisgrifio’r sefyllfa fel “pennod gywilyddus i San Steffan”.

“Dylem fod wedi uno i alw am heddwch yn Gaza – yn lle hynny cawsom anhrefn,” meddai.

“Byddai Plaid Cymru wedi pleidleisio dros gadoediad ar unwaith, rhyddhau gwystlon a gymerwyd gan Hamas, a diwedd ar gosbi Palestiniaid ar y cyd.”

Ymddiheuro

Er i nifer fawr o aelodau seneddol alw ar Lindsay Hoyle i gamu o’r neilltu, dywed Hywel Williams bod “ei ddyfodol yn fater i’r Llefarydd ei hun”.

“Mae nifer o aelodau seneddol wedi mynegi diffyg hyder ynddo, ac mae hyn yn broblem ymarferol,” meddai.

“Sut gall yr SNP fod yn hyderus eu bod nhw am dderbyn triniaeth deg yn y dyfodol pan fyddan nhw a ninnau yn codi materion o bwys fel hyn?

“Yn y bôn, mae’r Llefarydd wedi dangos ei fod yn ffafrio’r ddwy blaid fawr, ac na fydd y pleidiau bach yn sicr o gael chwarae teg.”

Mae Syr Lindsay Hoyle eisoes wedi ymddiheuro am ei rôl yn y sefyllfa, gan nodi ei fod wedi gwneud “camgymeriad”.

“Rwy’n difaru. Ymddiheuraf i’r SNP… ac ymddiheuraf i’r Tŷ. Fe wnes i gamgymeriad,” meddai.

“Rydyn ni’n gwneud camgymeriadau.

“Mae gennyf ddyletswydd o ofal – ac rwy’n dweud hynny – ac os mai gofalu am Aelodau yw fy nghamgymeriad, rwy’n euog.”