Enw llawn: Teresa Davies

Dyddiad geni: 31/10/1960

Man geni: Ysbyty Gyffredinol Bronglais, Aberystwyth


Nyrs sydd wedi ymddeol yw Teresa Davies, sy’n byw ger Llangeitho yng Ngheredigion. Petai’n gorfod disgrifio’i hun mewn tri gair, amyneddgar, consyrnol a sensitif fyddai’r rheiny; rhinweddau fyddai’n chwarae rôl amhrisiadwy wrth ei helpu i ddelio â’r hunllef fwyaf iddi ei phrofi erioed bum mlynedd yn ôl.

Fe gollodd Teresa ei merch, Eiry, fis Medi 2019 yn 35 mlwydd oed. Roedd Eiry wedi bod yn dioddef am unarddeg mis ar ôl cael ei diagnosis o ganser y coluddyn.

“Dw i’n ymdrechu’n ddyddiol i oresgyn fy ngalar ar ôl colli Eiry, a dw i’n gwybod na fyddaf yn dod dros y golled tra byddaf fyw. Roedd hi’n fam sengl i Megan, oedd yn naw oed pan gollodd hi ei mam.

“Fi a’m gŵr Viv nawr sy’n dwyn Megan i fyny, ac mae’n rhoi pwrpas i’n bywydau. Hefyd, mae cefnogaeth ein merch arall Alaw a’i theulu a Tomos y mab a’i bartner yn golygu cymaint i ni,” meddai, gan ychwanegu iddi golli ei mam dri mis ar ôl colli Eiry.

“Rwy’n edrych ar fywyd mewn persbectif gwahanol erbyn hyn. Dw i hefyd wedi dysgu pwy yw fy wir ffrindiau… sawl un wedi troi cefn dros y pum mlynedd diwethaf, oedd yn brifo’n ddifrifol ar y cychwyn, ond erbyn hyn dw i wedi derbyn eu penderfyniad i ollwng ein perthynas er mwyn fy lles fy hunan.”

Breuddwyd

Un freuddwyd benodol sydd gan Teresa yw ysgrifennu llyfr am ei thaith galar er mwyn “rhannu profiadau, teimladau a bod yn gysur i eraill” wedi bod neu’n mynd trwy’r un fath.

Pedair blynedd yn ôl, fe ddechreuodd Teresa wau, ac mae bellach yn un o’i phrif ddiddordebau.

“Mae’n ffordd i mi ymgolli a throi bant o fywyd ac yn hwylus i’w gario gyda mi i bobman. Hefyd, dw i wrth fy modd yn gwneud celf; darlunio, gwnïo ac ati, ond ers colli Eiry dydw i ddim yn gallu troi mor aml ato gan fod hithau ar ôl cyfnod yn dysgu yn yr Ysgol Gymraeg Aberystwyth wedi creu busnes celf ei hunan, ac mae’n peri gormod o loes i mi fwrw ati ar hyn o bryd, gan fod yr atgofion ohonon ni’n dwy yn cydweithio yn rhy amrwd.

“Rwy’n hoff iawn o ddarllen dyfyniadau am fywyd a cholled. Mae fy ffôn yn llawn o eiriau’r prydydd Rumi ac rwy’n troi’n ddyddiol atyn nhw. Un o fy hoff rai yw hwn…

“Eich heol chi yw hi, eich un chi yn unig. Gall eraill ei cherdded hi gyda chi, ond ni all unrhyw un ei cherdded ar eich rhan.”

Petai Teresa yn cael treulio diwrnod yng nghwmni unrhyw un, yng nghwmni Nia Caron, yr actores, fyddai hynny – ar ôl i’r ddwy dreulio amser gyda’i gilydd yn yr ysgol uwchradd. Roedd ei thad yn athro celf arni hefyd.

“Roeddwn eisiau dilyn gyrfa mewn Celf, ond roedd syniadau eraill gan fy rhieni, a nyrsio oedd y llwybr gymerais. Bues i a Nia’n cyd-fyw tra ei bod hi’n dilyn cwrs Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth ac erbyn hyn, gan ei bod hi’n byw yng Nghaerdydd a finne’n “homebird”, yn anaml iawn cawn gwrdd, ond mi ydyn ni’n cadw mewn cysylltiad yn aml. Dw i’n meddwl y buaswn i yn rhoi’r dewis i Nia o ble i fynd, ond tybiwn rywle eithaf tawel i ni gael siarad fel pwll y môr a rhannu atgofion.”

‘Galar unigryw’

Tasai Teresa yn cael rhoi darn o gyngor iddi hi ei hun yn ferch fach, byddai’n dweud: “Mae angen byw un dydd ar y tro fel mae’r gân yn dweud..” mae ddoe wedi mynd, mae heddiw’n eiddo i ni.”

Mae’n dweud ei bod yn hynod ddiolchgar i’r rhai sydd wedi ymestyn eu cariad a’u cyfeillgarwch tuag ati dros y pum mlynedd olaf.

“Mae colli plentyn yn alar unigryw iawn, trefn bywyd wedi ei chwyrlio allan o bob rheswm,” meddai. “Mae rhai yn dweud fy mod yn gryf iawn i gario ‘mlaen ond y gwir yw dwi ddim yn gryf o gwbl.. Does gen i ddim dewis ond i fod yn gryf.”