Mae’r Athro Jon Timmis wedi cael ei benodi yn is-ganghellor newydd Prifysgol Aberystwyth.

Ar hyn o bryd, mae’n Ddirprwy Is-Ganghellor (Masnachol) ym Mhrifysgol Sunderland, ac mae’n un o gyn-fyfyrwyr Aberystwyth.

Bu’r gŵr o Burton-on-Trent yn Swydd Stafford yn astudio Cyfrifiadureg fel myfyriwr aeddfed cyn cwblhau doethuriaeth mewn deallusrwydd artiffisial ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yna mynd ymlaen i ddarlithio ym Mhrifysgol Caint.

O fan yno, aeth yn Ddarllenydd yn adrannau Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electroneg Prifysgol Efrog, yn bennaeth ar Adran Peirianneg Electroneg Efrog, ac yna’n Ddirprwy Is-Ganghellor Partneriaethau a Chyfnewid Gwybodaeth yno.

Bydd Jon Timmis yn dechrau’r gwaith ddechrau 2024, gan olynu’r Athro Elizabeth Treasure, sy’n ymddeol o’r sefydliad ddiwedd 2023 ar ôl bron i saith mlynedd yn y rôl.

‘Edrych ymlaen at wella fy Nghymraeg’

Dywed yr Is-Ganghellor newydd ei fod yn edrych ymlaen at wella ei Gymraeg yn Aberystwyth, ac ailgysylltu â’r gymuned yno.

“Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi’n Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth,” meddai.

“Mae’n sefydliad sy’n annwyl iawn i mi ac yn un sy’n cael ei adnabod am ragoriaeth y dysgu, boddhad myfyrwyr ac arloesedd ymchwil.

“Mae addysgu ac ymchwil arloesol Prifysgol Aberystwyth yn diwallu anghenion Cymru sy’n newid a byd ehangach sy’n newid.

“Rwyf am adeiladu ar yr arloesedd hwn, gan weithio gyda phartneriaid yn y sectorau preifat a chyhoeddus, yn lleol ac yn fyd-eang, ac effeithio ar newid sydd o fudd i bob un ohonom yn y blynyddoedd i ddod.”

“Ar ôl byw ac astudio yn Aberystwyth, rwy’n gyfarwydd iawn â’r gymuned ddwyieithog fywiog.

“Ochr yn ochr â’i heffaith fyd-eang, rwyf wedi cael fy mhlesio’n fawr gan bwysigrwydd allweddol Prifysgol Aberystwyth i’w chymuned a’i rhanbarth, gan gynnwys ei hunaniaeth ddwyieithog.”

‘Cyfnod hynod gystadleuol’

Cafodd y broses recriwtio ei harwain gan Gadeirydd Cyngor y Brifysgol, a chafodd y Cyngor eu “plesio’n fawr” gan record Jon Timmis, ynghyd â’i frwdfrydedd dros y dref a’r sefydliad, meddai,

“Mae’n gyfnod hynod gystadleuol i’r sector addysg uwch, gyda sefydliadau’n gweithio dan amodau economaidd anodd,” meddai Dr Emyr Roberts.

“Rwyf i a chyd-aelodau’r Cyngor yn gwybod bod yr Athro Timmis wedi ymrwymo’n llwyr i adeiladu ar ein hanes o lwyddiant ac arloesedd.”