Mae Ben Davies, fydd yn arwain tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Gibraltar a Chroatia yr wythnos hon yn absenoldeb Aaron Ramsey, yn dweud bod “y dyfodol yn edrych yn dda” i’r tîm cenedlaethol.
Mae’r rheolwr eisoes wedi dweud y bydd y gêm gyfeillgar yn erbyn Gibraltar ar y Cae Ras yn Wrecsam nos Fercher (Hydref 11) yn gyfle i’r to iau godi’u dwylo ar drothwy’r gêm fawr yng Nghaerdydd nos Sul (Hydref 15).
Yn eu plith mae Charlie Savage (Reading), Owen Beck (Dundee, ar fenthyg o Lerpwl), Luke Harris (Fulham) a Joe Low (Wycombe), wrth i Gymru orfod ymdopi heb chwaraewyr fel y capten Ramsey a Brennan Johnson ac wrth iddyn nhw barhau i orfod byw heb Gareth Bale.
Fe fu Ben Davies yn siarad â golwg360 ar ôl gweld y chwaraewyr ifainc yn ymarfer fel aelodau’r brif garfan am y tro cyntaf, er eu bod nhw’n aml yn ymarfer ochr yn ochr â’i gilydd yng ngwesty’r Vale, pencadlys y timau cenedlaethol ym Mro Morgannwg.
“Dim ond heddiw rydyn ni wedi’u gweld nhw’n ymarfer, ond mis diwethaf ro’n i wedi mynd i’r gêm dan 21 yng Nghasnewydd,” meddai.
“Rydyn ni’n gallu gweld bod y dyfodol yn edrych yn dda i Gymru.
“Rydyn ni wedi gweld chwaraewyr sydd â digon o hyder i gael y bêl i chwarae pêl-droed y ffordd rydyn ni eisiau.
“Bydd siawns gyda nhw i ddangos beth maen nhw’n gallu gwneud mewn gêm gyda’r garfan tro yma.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen.
“Mae bois fel Joe Low wedi dod mewn i’r garfan, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i weld beth maen nhw i gyd yn gallu’i wneud.”
Pwysau ar Gymru?
Er i Gymru guro Latfia oddi cartref o 2-0 fis diwethaf, ymgyrch ddigon siomedig gafodd Cymru hyd yn hyn wrth geisio cyrraedd yr Ewros y flwyddyn nesaf.
Maen nhw’n bedwerydd yng Ngrŵp D, a bydd angen o leiaf bwynt arnyn nhw yn erbyn Croatia, sydd ar y brig, yn gydradd â Thwrci, driphwynt uwchlaw tîm Rob Page.
Tybed all Cymru ffynnu dan bwysau?
“Rwy’n credu bod rhaid i ni fod mewn sefyllfa ble mae’n rhaid i ni ddangos beth rydyn ni’n gallu gwneud,” meddai Ben Davies wedyn, sy’n dweud bod y bai ar Gymru am y sefyllfa maen nhw ynddi ar drothwy’r gêm fawr.
“Rydyn ni wedi rhoi ein hunain yn y sefyllfa hon.
“Rydyn ni’n gwybod fod yna gemau caled sy’n mynd i ddod, ond rydyn ni wedi dangos o’r blaen bo ni yn gallu chwarae yn erbyn timau da yng Nghaerdydd a rhoi perfformiadau da i mewn.
“Mae Croatia yn dîm sydd â lot o chwaraewyr arbennig, ond rydyn ni’n edrych ymlaen at y gêm ac yn credu bo ni yn gallu cael rhywbeth ma’s ohoni.”
Paratoi yn erbyn Gibraltar
Wrth baratoi i herio’r tîm sydd yn chweched ar restr ddetholion FIFA ar hyn o bryd, ydy tîm Gibraltar sy’n rhif 198 ar y rhestr yn wrthwynebwyr teilwng?
Yn ôl Ben Davies, nid y tabl hwnnw sy’n bwysig.
“Rwy’n credu bod e’n siawns jest i chwarae gyda’n gilydd,” meddai.
“So ni yn chwarae bob wythnos, a phan ydych chi’n dod at eich gilydd fel carfan mae’n bwysig bod gyda’ch gilydd, gweld beth sy’n gweithio, beth sydd efallai eisiau ei wneud yn well…
“Ond rydyn ni’n edrych ymlaen at y gêm a gobeithio bo ni’n gallu rhoi perfformiad da i mewn.”