Bydd rhai o gemau Ewro 2028 yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, gan gynnwys y gêm agoriadol o bosib.
Daeth cadarnhad heddiw (dydd Mawrth, Hydref 10) mai gwledydd Prydain ac Iwerddon fydd yn cynnal y bencampwriaeth bêl-droed ymhen pum mlynedd.
Dim ond gwledydd Prydain ac Iwerddon oedd wedi gwneud cais i gynnal Ewro 2028, ar ôl i Dwrci dynnu’n ôl er mwyn canolbwyntio ar gynnal y bencampwriaeth yn 2032.
Mae Pwyllgor Gweithredol UEFA wedi cadarnhau heddiw hefyd mai Twrci a’r Eidal fydd yn cynnal Ewro 2032 ar y cyd.
Bydd gemau 2028 yn cael eu cynnal mewn deg stadiwm – chwech ohonyn nhw yn Lloegr, ac un yr un yn yr Alban, Cymru, Iwerddon a Gogledd Iwerddon.
Mae UEFA eisiau i’r bum gwlad fynd drwy’r broses gymhwyso, gyda dau le awtomatig i’r rhai sydd ddim yn cymhwyso ar y cae – sy’n golygu nad oes sicrwydd y bydd lle i Gymru.
Fe wnaeth Pwyllgor Gweithredol UEFA ddod i’r penderfyniad yn eu pencadlys yn Nyon yn y Swistir, yn dilyn cyflwyniad gan arweinwyr cymdeithasau Pêl-droed gwledydd Prydain ac Iwerddon a Gareth Bale.
‘Gobeithio cynnal y gêm gyntaf yng Nghaerdydd’
Bydd tua thair miliwn o docynnau ar gael i gemau – y nifer uchaf erioed ar gyfer y bencampwriaeth – yn ôl datganiad ar y cyd gan y cymdeithasau pêl-droed, a chapasiti o 58,000 yn y stadia ar gyfartaledd.
Mae’n debyg y bydd y gêm gyntaf yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, a’r gêm derfynol yn Wembley yn Llundain, yn ôl adroddiadau.
Y gobaith yw y bydd chwe gêm yn cael eu chwarae yn Stadiwm y Principality, sydd â’r capasiti ail uchaf ar ôl Wembley.
“Rydyn ni’n gobeithio cael gêm gyntaf Euro 2028 yn Stadiwm y Principality,” meddai Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, wrth y BBC.
“Rydyn ni wedi cynnal gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn y gorffennol, ond byddai cynnal yr Ewros yng Nghymru yn anhygoel.”
Gan fod rheolau UEFA yn golygu na all stadiymau fod yn gysylltiedig â noddwyr, bydd Stadiwm y Principality yn cael ei galw’n Stadiwm Genedlaethol Cymru ar gyfer y bencampwriaeth.
Bydd y gemau eraill yn cael eu chwarae yn:
- Hampden Park, Glasgow
- Stadiwm Aviva, Dulyn
- Casement Park, Belffast
- Bramley-Moore Dock, Lerpwl
- Stadiwm Tottenham Hotspur, Llundain
- Stadiwm Etihad, Manceinion
- St James’ Park, Newcastle
- Villa Park, Birmingham
Dydy Cymru, Gogledd Iwerddon nac Iwerddon erioed wedi cynnal un o’r prif bencampwriaethau pêl-droed rhyngwladol o’r blaen.