Mae Gŵyl y Wal Goch yn cael ei chynnal am y trydydd tro’r wythnos hon, gan gychwyn yn Wrecsam heddiw (dydd Mawrth, Hydref 10).
Am y tro cyntaf, bydd rhannau o’r ŵyl yn cael eu cynnal yn Abertawe a Chaerdydd hefyd.
Prif sgoriwr goliau Croatia yw’r prif siaradwr; ddydd Sadwrn (Hydref 14) bydd Davor Šuker yn trafod ei yrfa â Real Madrid, Arsenal ac yn ystyried sut y bu i’r tîm cenedlaethol roi’r wlad newydd ar y map mewn sgwrs yng Nghaerdydd.
Canolbwynt yr ŵyl eleni fydd y ffordd mae pêl-droed yn effeithio ar hunaniaeth genedlaethol, a bydd trafodaeth hefyd am ddiplomyddiaeth yn y byd pêl-droed.
“Y peth pwysig i ni, y bobol sydd wedi rhoi’r gwyliau yma at ei gilydd, ydy ein bod ni’n gallu gweld gwerth a chyfalaf cymdeithasol a chymunedol y gêm genedlaethol,” meddai Tim Hartley, un o gyd-drefnwyr Gŵyl y Wal Goch, wrth golwg360.
“Beth sydd yna tu hwnt i’r 22 o chwaraewyr – dynion, merched neu blant – ar gae pêl-droed.
“Ein gobaith ni yw bod yr holl drafodaethau yma rydyn ni’n eu cael yn golygu bod y gêm yn fwy na gêm o 90 munud.
“Dyma’r drydedd ŵyl i ni drefnu, yr ail un yn Wrecsam – ac roedden ni eisiau ei ehangu i Abertawe a Chaerdydd fel bod pawb yn cael bod yn rhan ohono fe.”
Gwerthu’r wlad drwy bêl-droed
Yn Wrecsam, mae’r arlwy yn cynnwys noson o farddoniaeth Gymraeg, Basgeg a Saesneg ar y thema pêl-droed, wedi’i harwain gan Ifor ap Glyn heno (nos Fawrth, Hydref 10), a ffilm yn edrych ar hanes chwaraewyr du Cymru a sgwrs am brofiadau merched yn dilyn y tîm cenedlaethol fory (dydd Mercher, Hydref 11).
Byddan nhw hefyd yn cydweithio ag Alcohol Concern, a fory bydd rheolwr tîm pêl-droed y Fflint yn trafod ei brofiadau yn ymladd alcoholiaeth.
“Yn Abertawe, am ddwy noson, nos Iau a nos Wener, byddan ni’n dangos ffilm o’r enw Wonderland – The Alice Street Story – un stryd yn Abertawe oedd yn gartref i Mel a John Charles a Ivor Allchurch – mae hwnna wedi gwerthu ma’s y noson gyntaf,” ychwanega Tim Hartley.
“Yng Nghaerdydd, un o’r uchafbwyntiau ydy y byddan ni’n cydweithio gyda Gwobrau Iris ac yn dangos tair ffilm am fod yn hoyw a phêl-droed yn Chapter a sgwrs wedi’i llywio gan Stonewall Cymru.”
Ani Glass fydd yn cyfweld Davor Šuker yn Chapter, a byddan nhw’n trafod sut mae tîm pêl-droed Croatia wedi llwyddo i roi gwlad newydd sbon ar y map drwy eu buddugoliaethau yng Nghwpan y Byd ar ddiwedd y 1990au.
“Ar ôl hynny, rydyn ni’n trafod diplomyddiaeth chwaraeon – ydy Cymru’n gallu gwerthu ei hun yn ddiplomyddol drwy chwaraeon, a thrwy bêl-droed yn arbennig,” meddai Tim Hartley.
“Lot o sôn am y Wal Goch a’r cysylltiadau diwylliannol, ond be mae hwn yn ei olygu?
“Beth wnaethon ni lwyddo ei wneud yn Qatar yn 2022, ac oes yna ryw batrwm yn fan hyn, oes yna ryw dempled fedran ni ei ddefnyddio er mwyn gwerthu Cymru oddi cartref?”
Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill fydd ffilm am darddiad Clwb Pêl-droed Merthyr, ac ar ddydd Sul bydd yr ŵyl yn dod i ben gyda chystadleuaeth pêl-droed ar gerdded.
“Mae’r Amgueddfa Bêl-droed fydd yn agor mewn cwpwl o flynyddoedd yn mynd i ddangos cwpwl o’u creiriau nhw ac yn mynd i ofyn i bobol be maen nhw moyn weld yn yr amgueddfa,” eglura Tim Hartley.
‘Cyffrous’ croesawu’r Ewros i Gaerdydd
Bydd tîm dynion Cymru yn chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn Gibraltar ar y Cae Ras yn Wrecsam nos fory (nos Fercher, Hydref 11), cyn y byddan nhw’n croesawu Croatia i Gaerdydd nos Sul (Hydref 15) yng ngemau rhagbrofol Ewro 2024.
“Dw i’n gyffrous i gael cwpwl o gemau yng Nghaerdydd,” meddai Tim Hartley.
“Ond fel cefnogwr rhaid i fi ddweud fy mod i ychydig yn siomedig achos rydyn ni’n licio teithio dramor i wylio’r Ewros a Chwpan y Byd os ydy Cymru’n chwarae neu beidio.
“Felly fysa fo wedi bod yn neis mynd i wlad arall, ond hei mae o’n wahanol i’w gael o yng Nghymru a llongyfarchiadau i’r Gymdeithas Bêl-droed ar hynny.”