Mae Lloegr yn brwydro i ddenu dau bêl-droediwr ifanc addawol o Gymru.

Mae Lewis Koumas a Charlie Crew wedi codi drwy rengoedd ieuenctid Cymru, ond maen nhw’n gymwys i gynrychioli Lloegr hefyd, ac mae’n ymddangos bod y Saeson yn awyddus i’w denu nhw dros Bont Hafren.

Mae Charlie Crew, sy’n chwarae i Leeds, wedi cynrychioli timau Cymru dan 15, 16 ac 17 a bu’n gapten ar y tîm dan 17 hefyd.

Mae Lewis Koumas yn enedigol o Gaer, ond yn gymwys i wisgo’r crys coch oherwydd ei dad – cyn-chwaraewr Cymru Jason Koumas oedd wedi ennill 34 o gapiau dros Gymru gan sgorio deg gôl – a Chyprus.

Yn ôl Matty Jones, rheolwr dan 21 Cymru, mae’n rhaid i wledydd “barchu” ei gilydd wrth frwydro am chwaraewyr.

“Does dim byd yn bod â gofyn y cwestiwn,” meddai.

“Rydyn ni’n edrych ar y chwaraewyr gorau yn y wlad, ac yn ffodus mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n chwarae dros Gymru.

“Rydyn ni bob amser yn mentro edrych i weld pa chwaraewyr sy’n gallu chwarae droson ni.”