Bydd y sioe Carwyn, sy’n dathlu un o gewri’r byd rygbi Carwyn James, yn gyfle i dalu teyrnged i un sydd “wedi cael ei anghofio tipyn bach”, yn ôl Gareth John Bale sydd y tu ôl i’r cynhyrchiad.
Bydd y sioe Saesneg, sy’n gynhyrchiad Bale and Thomas, yn cael ei pherfformio yn Theatr Felinfach yng Ngheredigion, fel rhan o gydweithrediad rhwng Theatr Torch, Theatr Felinfach a Theatrau RCT, ar Hydref 10 cyn mynd ar daith ledled Cymru.
Mae’r sioe un-dyn gan y dramodydd Owen Thomas yn adrodd stori bwysig bywyd Carwyn James, ddeugain mlynedd ers ei farwolaeth, ac yn archwiolio’r dyn oedd yn fwy o lawer na dim ond cymeriad ym myd rygbi.
Roedd hefyd yn athro, sylwebydd a hyfforddwr – ac yn ysbïwr, hyd yn oed.
Yr actor Simon Nehan fydd yn dod â Carwyn yn fyw ar lwyfan.
Cynllunydd y sioe yw Tegan Reg James, a Ceri James yw’r cynllunydd golau.
Torri tir newydd
Yn ei ddydd, torrodd Carwyn James dir newydd yn y byd rygbi, ac mae’r sioe yn ceisio sicrhau na fydd ei gyfraniad fyth yn mynd yn angof yng nghof y genedl.
“Mae’n bwysig oherwydd rydym ni’’n teimlo bod Carwyn wedi cael ei anghofio tipyn bach,” meddai Gareth John Bale wrth golwg360.
“Roedd yn ddyn anhygoel, nid yn unig yn ei faes e, sef rygbi wrth gwrs.
“Gwnaeth e chwarae i Gymru, mae pobol yn anghofio hynny.
“Wrth gwrs, fe ddaeth e i’r golwg fel hyfforddwr.
“Gwnaeth e faeddu’r Crysau Duon gyda thri gwahanol dîm, gyda Llanelli yn enwog yn ’72, gyda’r Llewod yn ’71, a hefyd gyda’r Barbariaid yn ’73.
“Doedd y Crysau Duon methu cael gafael ar Carwyn.
“Roedd e’n athrylith.
“Fel rwy’n dweud, rwy’n teimlo fel ein bod ni wedi anghofio tipyn bach amdano fe.
“Nid jest y rygbi, ond y dyn oedd e hefyd, a’r ffaith fod e’n sylwebydd arbennig o dda.
“Roedd yn Gymro i’r carn, a hefyd yn ddyn oedd yn caru ei iaith a charu ei gynefin.”
Tîm Cymru
Yn Gymro i’r carn, wnaeth Carwyn James erioed gael y cyfle i hyfforddi’r tîm cenedlaethol, er iddo fe hyfforddi’r Llewod.
“Roedd ei arwyr e’n bobol fel T.H. Parry Williams a Gwenallt,” meddai Gareth John Bale.
“Rwy’n credu mai ei chwaer e, Gwen, fu’n dangos y ffordd o ran cerddi ac yn y blaen a barddoniaeth, felly roedd hwnna’n wastad yn agos at ei galon e.
“Wrth gwrs, roedd yn rywun oedd wedi rhoi Cymru ar y map, a Chymru’n bwysig iawn iddo fe.
“Wrth gwrs, y drasiedi yw, cafodd e byth y cyfle i hyfforddi Cymru, rydym yn crybwyll hwnna yn y ddrama, ond y gwir yw wnaeth e erioed mynd am y job.
“Mae’n hawdd edrych ’nôl a meddwl dylai e fod wedi cael y swydd, oherwydd mae pethau’n wahanol heddiw… ond y gwir yw wnaeth Carwyn byth ymgeisio.
“Roedd yn gwybod fyddai e byth yn cael yr amodau roedd e eisiau.
“Rwy’n credu roedd e’n berson oedd yn mynd â Chymru gyda fe le bynnag roedd yn mynd.”
Milltir sgwâr
Mae’r sioe yn trafod perthynas agos Carwyn James â’i filltir sgwâr yng Nghefneithin, Sir Gaerfyrddin.
Ond yng Ngheredigion mae gwreiddiau’r sioe hon.
“Mae’n hyfryd ein bod ni’n cydweithio gyda Theatr Felinfach, RCT Theatres a Theatr y Torch,” meddai Gareth John Bale.
“Yn Theatr y Torch wnaeth y prosiect ddechrau, flwyddyn ddiwethaf.
“Mae’n hyfryd i weithio fan hyn yn Felinfach, sydd lan yr hewl o Rydlewis, oedd yn agos iawn at ei galon e, rhan fwyaf o’r teulu yn dod o Rydlewis, ond wrth gwrs cafodd Carwyn ei godi a’i fagu yng Nghefneithin.
“Mae’n agos at Rydlewis ac at ei galon e.
“Mae’n hyfryd i agor fan hyn cyn i ni deithio o amgylch Cymru.
“Mae jest yn braf bo ni’n cael y cyfle eto i ddweud stori Carwyn.
“Roedd yn ddyn anhygoel, dyn cymhleth iawn hefyd.
“Mae’n braf bod ni’n gallu teithio Cymru eto.
“Llynedd, teithion ni jest ar ôl un o’r Covid firebreaks, rwy’n credu bod theatrau a chynulleidfaoedd bach yn nerfus [bryd hynny].
“Rwy’n gobeithio cawn ni fwy o gynulleidfa tro hyn, yn enwedig gan fod Cwpan Rygbi’r Byd yn mynd ymlaen.
“Ni’n teithio ledled Cymru ac i theatrau arbennig iawn.
“Mae’n hyfryd ein bod yn cael adrodd stori Carwyn, mae’r sgript yn un ffantastig, mae Simon Nehan fel Carwyn yn arbennig.
“Wrth gwrs, mae gennym ni dîm wrth gefn y llwyfan, pobol fel Tegan Reg James sydd wedi creu set ffantastig i ni weithio arni.”