Gwesty Parc y Strade yw’r “lle anghywir a’r cynllun anghywir” ar gyfer cartrefu ceiswyr lloches, yn ôl Aelod Llafur o’r Senedd dros Lanelli.

Daw ymateb Lee Waters ar ôl i swyddogion tân ddweud nad yw’r safle’n ddiogel i gynnal pobol.

Yn ôl y gwleidydd, sy’n weinidog yn Llywodraeth Cymru hefyd, “mae’r heddlu’n ei chael hi’n heriol iawn cadw’r safle’n ddiogel”.

“Fel dw i a Nia Griffith wedi’i ddweud o hyd, dyma’r lle anghywir a’r cynllun anghywir,” meddai ar X (Twitter).

“Rhaid i Suella Braverman [Ysgrifennydd Cartref San Steffan] ailfeddwl nawr a pheidio gwastraffu £££.”

Cefndir

Mae deuddeg o bobol bellach wedi cael eu harestio ar safle’r gwesty, yn dilyn tân a sawl diwrnod o annhrefn yno y penwythnos diwethaf.

Y bwriad gwreiddiol oedd cartrefu hyd at 241 o geiswyr lloches ar y safle.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cyflwyno gorchymyn gwaharddiad ar gyfer y safle yn sgil pryderon am ddiogelwch, ar ôl iddyn nhw gynnal archwiliad o’r safle yn sgil newid defnydd.

Mae disgwyl i’r gorchymyn – sy’n atal pobol rhag cysgu a bod yno oni bai bod angen gwneud gwaith cynnal a chadw – barhau oni bai bod rhywun yn apelio’n ffurfiol yn ei erbyn.

Dywed y Swyddfa Gartref eu bod nhw’n cydweithio â pherchnogion y safle ar y cam nesaf, a’u bod nhw’n cymryd camau i leihau’r “defnydd annerbyniol o westai” drwy symud ceiswyr lloches i lety arall, gan gynnwys gwestai a “llety rhatach”.

Dywed ymgyrchwyr, sy’n mynnu eu bod nhw’n ymgyrchu’n heddychlon ar y cyfan, eu bod nhw eisiau gweld y cynllun i gartrefu ceiswyr lloches yno’n dod i ben.

Dydy Clearsprings Ready Homes, sydd wedi ennill y cytundeb i ddarparu’r llety, ddim wedi gwneud sylw.