Mae Oriel Môn wedi ymuno ag amgueddfeydd eraill yng Nghymru i greu rhaglen gymorth a dysgu dwyieithog i helpu pobol sy’n byw â dementia.
Byddan nhw’n gweithio ar brosiect House of Memories Cymru ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl, a’r nod yw creu ap fydd yn gallu cefnogi pobol yng Nghymru.
Mae amgueddfeydd ledled Cymru wedi cefnogi a chyfrannu at y prosiect i greu detholiad o 700 o ysgogiadau atgofion.
Yn cynnwys Oriel Môn, yr amgueddfeydd eraill sy’n cymryd rhan yw Hamdden a Llyfrgelloedd Aura, Amgueddfa Ceredigion, Canolfan Ddiwylliant Conwy, Amgueddfa Forwrol Llŷn, Treftadaeth a Dysgu MonLife, Amgueddfa Caerdydd, Amgueddfa Penmaenmawr, Amgueddfa Sir Faesyfed, Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Gwasanaethau Amgueddfa Abertawe, Tŷ Weindio ac Amgueddfa Y Gaer.
Mae Amgueddfeydd Cymru hefyd wedi ymuno â’r bartneriaeth gyda chymorth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Ap atgofion
Mae rhaglen ddwyieithog Oriel Môn yn cynnwys gweithdai, hyfforddiant a phecyn ap atgofion digidol er mwyn sbarduno sgyrsiau rhwng pobol sy’n byw â dementia a’r rheiny sy’n gofalu amdanyn nhw.
Trwy’r pecyn, gall defnyddwyr chwilio drwy amgueddfa fyw o eitemau Cymreig, a phersonoli eu profiad i gynnwys atgofion sy’n arbennig o gryf iddyn nhw.
Mae’r ap yn gyfuniad o sain, fideo a lluniau o eitemau hanesyddol, ac ymhlith yr adran mae modd pori drwyddyn nhw mae hanes Cymru yn ystod y rhyfel, bywyd yng nghymunedau Cymru, diwydiant, atgofion plentyndod, technoleg a thrafnidiaeth.
Mae gwrthrychau’r prosiect yn cynnwys eitemau teuluol cyffredin mewn cartrefi, yn ogystal â digwyddiadau fel Streic y Glowyr yn 1984.
Cafodd yr eitemau eu curadu a’u casglu o gasgliadau presennol amgueddfeydd Cymru, gan gynnwys Oriel Môn, i greu ap sy’n dathlu diwylliant Cymru.
Mae House of Memories Cymru ar gael drwy’r ap My House of Memories gan Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru, ac mae’r tîm fu wrthi’n creu’r ap wedi ennill gwobrau.
Treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru
Dywed Carol Rogers, cyfarwyddwr Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru eu bod nhw wrth eu boddau o gael lansio House of Memories Cymru ac o “ychwanegu pecyn Cymreig pwrpasol i’n rhaglen House of Memories ryngwladol”.
“Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ac amrywiol sydd wedi cael dylanwad enfawr ar Lerpwl, ac mae’n fraint cael gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr mewn amgueddfeydd ledled Cymru, i gefnogi cymuned dementia Cymru,” meddai.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y rhaglen nid yn unig yn helpu i wella bywydau pobol sy’n byw gyda dementia, ond hefyd yn gatalydd ar gyfer cysylltiadau ystyrlon rhyngddynt a’u teuluoedd neu ofalwyr.”
Mae Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru, wedi croesawu’r prosiect.
“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi House of Memories Cymru, sy’n dathlu diwylliant Cymreig a rôl amhrisiadwy amgueddfeydd Cymru wrth gefnogi pobol hŷn a’r rhai sy’n byw gyda dementia,” meddai.
“Mae adnoddau dwyieithog fel House of Memories Cymru yn bwysig gan ei fod yn galluogi ein cymunedau yng Nghymru a thu hwnt i ymgysylltu â’n treftadaeth yn iaith eu dewis ar draws y byd.
“Byddan nhw’n gallu cysylltu â’u cymuned hyd yn oed os ydyn nhw gannoedd o filltiroedd i ffwrdd.
“Hoffwn ddiolch i’r holl amgueddfeydd sydd wedi bod yn rhan o’r cydweithrediad hwn a fydd, rwy’n siŵr, yn gwneud gwahaniaeth i’r rhai sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd.”
Bydd House of Memories Cymru nawr yn cael ei gyflwyno ledled Cymru i helpu i gefnogi cymunedau Cymru, gyda hyfforddiant a gweithdai yn dechrau o amgylch y wlad a’r gweithdy cyntaf yn cael ei gynnal yn Abertawe ddydd Mercher, Hydref 25.