Mae cymuned Llanuwchllyn yn barod i brynu tafarn gymunedol yr Eagles, ar ôl iddyn nhw fwrw eu targed ariannol o godi £300,000.

Er mwyn bwrw’r targed, cafodd cyfrannau eu gwerthu ac fe wnaethon nhw dderbyn £128,000 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Gyda chefnogaeth Cyngor Gwynedd, bydd Menter yr Eagles yn prynu’r dafarn gan Eleri a Meirion Pugh, sy’n ymddeol ar ôl rhedeg y dafarn ers ugain mlynedd.

Mae’r fenter hefyd wedi dod o hyd i denant i redeg y dafarn, y siop a’r bwyty ar ran y gymuned, a’u gobaith yw y bydd y tenant hwnnw’n barod i ddechrau ar y gwaith cyn y Nadolig.

‘Ymdrech lew ar y cyd’

Yn ôl Grisial Llewelyn, mae’r fenter yn “hynod falch” eu bod nhw wedi llwyddo i sicrhau’r arian er mwyn prynu’r Eagles.

“Rydyn ni wedi cael ein llorio gan y gefnogaeth rydym wedi’i derbyn gan y gymuned yma yn Llanuwchllyn, a chan ffrindiau a sefydliadau dros Gymru, y Deyrnas Unedig ac, yn wir, y byd,” meddai.

“Bu hyn yn ymdrech lew ar y cyd, sydd wedi taflu goleuni ar rym y gymuned.

“Llongyfarchiadau enfawr a diolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm ac sydd wedi buddsoddi.

“Mae ein ffocws ni bellach ar gwblhau’r pryniant cyn gynted â phosib, a chael y tenant newydd yn ei le cyn y Nadolig.

“Tra ein bod ni wedi sicrhau digon o arian i brynu’r Eagles, mae peth gwaith datblygu i’w wneud ar yr adeilad, felly rydyn ni’n gadael ein cronfa ar agor i’r rheiny nad oedden nhw eisiau prynu cyfran ond sydd efallai’n dymuno cefnogi ein menter.

“Mae modd cyfrannu drwy ddilyn y ddolen hon: https://square.link/u/pdiwog66.

“Rydyn ni hefyd yn awyddus iawn i bwysleisio pa mor uchelgeisiol ydyn ni ar ran y gymuned hon – rydyn ni’n sicr yn gweld prynu’r Eagles fel cam cyntaf tuag at gyflwyno rhagor o brosiectau a gweithgareddau sydd o fudd i’r gymuned gyfan, heddiw ac ar gyfer y dyfodol.”

‘Dim amheuaeth y byddai Menter yr Eagles yn llwyddo’

Yn ôl Eleri Pugh, doedd “dim amheuaeth” y byddai Menter yr Eagles a’r gymuned leol yn llwyddo.

“Bu’r Eagles a Llanuwchllyn yn rhan enfawr o’n bywydau ers dros ugain mlynedd,” meddai.

“Rydyn ni’n hapus iawn y bydd y lle dan berchnogaeth ac yn cael ei rhedeg gan y gymuned.

“Bydd yr Eagles mewn dwylo da iawn!”

Menter gymunedol i brynu tafarn yn Llanuwchllyn â phythefnos i godi arian

Mae’r fenter yn rhybuddio na fyddan nhw’n gallu prynu’r Eagles oni bai eu bod nhw’n codi’r £450,00 sydd ei angen i’w phrynu a’i rhedeg mewn pryd

Menter yr Eagles yn chwilio am rywun i redeg y dafarn gymunedol

Mae cymuned Llanuwchllyn wedi gosod nod o £500,000 er mwyn prynu’r dafarn

Lansio menter gymunedol yn Llanuwchllyn i brynu tafarn leol

Daw hyn yn dilyn ymddeoliadau Eleri a Meirion Pugh, fu’n rhedeg tafarn yr Eagles

Beth fydd dyfodol Tafarn yr Eagles yn Llanuwchllyn?

Lowri Larsen

Mae’r dafarn ar werth, ac mae’r perchnogion yn awgrymu y gellid ei phrynu fel tafarn gymunedol