Mae menter gymunedol newydd wedi’i sefydlu yn Llanuwchllyn i brynu tafarn leol i’r gymuned.

Daw hyn dilyn penderfyniad Eleri a Meirion Pugh i ymddeol ar ôl dros ddau ddegawd yn rhedeg tafarn yr Eagles.

Nod y fenter yw prynu’r dafarn fel ei bod yn parhau i weithredu fel tafarn, bwyty a siop gymunedol, a hithau’n rhan bwysig o fywyd cymdeithasol ac economaidd y pentref.

Mae’r pwyllgor gwaith wedi cytuno ar swm o arian gyda’r perchnogion, ac maen nhw’n paratoi i gyhoeddi manylion cyfrannau’n fuan.

Y nod yw codi digon o arian i brynu’r dafarn i’w diogelu ar gyfer y dyfodol, ac mae ei sefydlu fel cymdeithas er budd y gymuned yn golygu y bydd unrhyw elw’n dod yn ôl i’r gymuned, a bydd modd gwneud cais am arian a grantiau cyhoeddus hefyd.

Mae’r gymdeithas wedi gosod nod o £500,000 er mwyn prynu’r dafarn.

‘Calon y gymuned’

Yn ôl Grisial Llewelyn, cadeirydd y pwyllgor gwaith, mae’r Eagles “yn fwy na thafarn”, ac mae hi’n “galon y gymuned”.

“Mae’r bar, y bwyty a’r siop yn tynnu’r gymuned gyfan ynghyd bob dydd, ac yn cefnogi llu o gymdeithasau a chlybiau,” meddai.

“Mae enw gwych yr Eagles yn denu pobol o bob cwr o Gymru a thu hwnt i fwynhau’r croeso cynnes, a’r bwyd a diod da.

“Byddai colli’r Eagles yn cael effaith anferth ar y pentref a’r ardal ehangach.

“Fel pwyllgor, rydan ni’n benderfynol o wneud i’r fenter lwyddo.

“Rydan ni’n uchelgeisiol, ac yn edrych ar ddatblygu cyfleoedd pellach er budd y gymuned.

“Hoffwn ddiolch i Eleri a Meirion am fwy nag ugain mlynedd o wasanaeth di-flino, a’u hymroddiad i’r gymuned hon.

“Hoffwn ddiolch hefyd i’r gymuned yma am eu cefnogaeth wrth sefydlu’r fenter, ac i’r rheiny sydd wedi helpu megis Sefydliad Plunkett, Cwmpas a nifer o fentrau cymunedol ledled Cymru.

“Wrth i ni baratoi rŵan i gyhoeddi cynnig cyfrannau, mae’r neges i bawb yn glir – byddwch yn barod i fuddsoddi yn yr Eagles, byddwch yn barod i fuddsoddi yn eich cymuned!

“Yn y cyfamser, rydan ni’n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhedeg y busnes llewyrchus hwn ar ran y gymuned.”

‘Bwrlwm a gweithgarwch sydd mor nodweddiadol o gymdeithas Llanuwchllyn’

Dywed Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionydd, ei bod hi’n “wych gweld bwrlwm a gweithgarwch sydd mor nodweddiadol o gymdeithas Llanuwchllyn”.

“Dyma fydd yn gwneud menter yr Eagles yn llwyddiant anferth,” meddai.

“Mae’r fenter gymunedol hon yn hanfodol.

“Mae’r croeso cynnes gan Eleri a Meirion yn rhan annatod o galon y gymuned ac yn gonglfaen i’r iaith.

“Nid yn unig y bydd yn gwarchod yr Eagles, ond mi fydd hefyd yn cynnig cyfleoedd cyffrous ar gyfer llewyrch a dyfodol yr ardal a’r gymuned.

“Rwy’n galw ar gyrff cyhoeddus a’r cyhoedd i ddarparu cefnogaeth ariannol ac ymarferol i’r prosiect arbennig hwn.”

‘Atgofion melys dros ben’

Yn ôl Eleri Pugh, mae ganddi hi a Meirion “atgofion melys dros ben” o redeg yr Eagles ac o’r “gymuned gynnes hon”.

“Bu’n bleser, a thra fy mod i’n sicr y byddwn ni’n gweld eisiau ein hamser yn rhedeg yr Eagles, rydan ni’n edrych ymlaen at eistedd tu draw i’r bar am unwaith, ac rydan ni wrth ein boddau y bydd y gymuned rŵan yn cymryd perchnogaeth er mwyn sicrhau bod y lle arbennig hwn yn parhau i ffynnu.”