Mae disgwyl i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr fwrw ymlaen â chynlluniau i sefydlu ysgol egin newydd ym Mhorthcawl y mis yma, er gwaetha’r ymateb cymysg mewn ymgynghoriadau cyhoeddus.

Byddai’r ysgol egin arfaethedig, fyddai’n gweld ‘dosbarth cychwynnol’ â 30 lle Meithrin cyfystyr â llawn amser a 30 lle Derbyn, yn cael ei hadeiladu ar dir Ysgol Gynradd Porthcawl yn y dref.

Mae’r ddarpariaeth gofal plant arfaethedig ar gyfer 16 lle gofal plant llawn amser a 32 lle gofal plant rhan amser, ynghyd â chwe lle ar gyfer darpariaeth hyd at ddwy oed yn cynnig gofal llawn o enedigaeth hyd at bedair oed.

Gallai cae pob tywydd gael ei ddarparu hefyd yn Ysgol Gynradd Porthcawl er mwyn gwneud yn iawn am ddefnyddio’r tir fel rhan o’r ddarpariaeth.

Fel rhan o’r cynigion, byddai’r ddarpariaeth egin yn cael ei gweithredu a’i llywodraethu gan Ysgol y Ferch o’r Sgêr, a byddai disgyblion yn symud i’r ysgol honno ym Mlwyddyn 1 i orffen eu haddysg gynradd, hyd nes bod ysgol gynradd Gymraeg yn cael ei sefydlu yn nhref Porthcawl.

Ymgynghoriad

Fe wnaeth yr ymgynghoriad ynghylch y cynlluniau redeg o Chwefror 28 hyd at Ebrill 11, ac roedd yn ceisio barn llywodraethwyr, staff, rheini, gofalwyr a disgyblion yr ysgolion sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol, sef Ysgol Gynradd Porthcawl ac Ysgol y Ferch o’r Sgêr.

Fodd bynnag, clywodd aelodau oedd yn bresennol yn y cyfarfod ar Fehefin 20 fod yna ymateb cymysg i’r cynlluniau.

O blith y 69 o bobol gwblhaodd yr holiadur ar-lein, pan gawson nhw eu holi a oedden nhw’n cefnogi’r cynnig, dywedodd 33 eu bod nhw a 35 nad oedden nhw.

Tra bydd y cynlluniau nawr yn symud ymlaen i’r cam nesaf, cafodd pryderon eu mynegi hefyd gan Rieni dros Addysg Gymraeg, oedd yn cwestiynu’r trefniadau i symud a derbyn, a’r amserlen ar gyfer cyflwyno ysgol Gymraeg newydd yn barhaol ym Mhorthcawl.

“Mae cymuned Gymraeg gref ym Mhorthcawl, ac mae cynnig ysgol egin Gymraeg newydd yn dangos ein hymrwymiad i dyfu’r iaith Gymraeg drwy’r bwrdeistref sirol gyfan,” meddai’r Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg.

“Hoffwn ddiolch hefyd i bawb oedd wedi cyfrannu drwy gydol y broses ymgynghori bwysig hon, ac mae’n destun balchder gweld amrywiaeth mor eang o bobol yn rhannu eu barn.”

Rhaglen Foderneiddio

Hefyd yn ystod y cyfarfod, clywodd aelodau adroddiad ar Raglen Foderneiddio Ysgolion yr awdurdod, lle gwnaethon nhw roi sêl bendith i gyflwyno cais Cam 2 i’r Bartneriaeth Addysg Gymraeg.

Gallai hyn olygu cynllun yng ngorllewin Pen-y-bont ar Ogwr sy’n cynnwys ysgol Saesneg mynediad deublyg newydd sbon ar Ystad Marlas, sy’n addas ar gyfer ysgolion cynradd Afon y Felin a Chorneli gyda’i gilydd, ac ysgol Gymraeg mynediad deublyg newydd sbon ar safle’r ysgol bresennol yn Ysgol y Ferch o’r Sgêr/Corneli.