Mae Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ystyried gosod trethi untro ar elw banciau yn ystod cyfnodau o galedi, o ganlyniad i ffigurau chwyddiant cynyddol.

Y bwriad yw i’r arian yma gyfrannu at ariannu cynllun achub morgeisi, yn debyg i’r un gafodd ei gyflwyno gan weinidogion yn 2008.

Mae ffigurau chwyddiant gafodd eu cyhoeddi ddoe (dydd Mercher, Mehefin 21) yn dangos bod cyfraddau morgeisi wedi parhau i godi, a’u bod nhw ar eu lefel uchaf ers mis Tachwedd.

Ar hyn o bryd, mae’r gyfradd sefydlog dwy flynedd gyfartalog wedi codi i 6.07%.

Er hynny, arhosodd chwyddiant ar 8.7% fis Mai, sef yr un ffigwr â mis Ebrill.

‘Rhenti’n anfforddiadwy’

Dywed Mabon ap Gwynfor, llefarydd tai Plaid Cymru, fod y blaid wedi bod yn “arwain y ffordd” wrth gefnogi talwyr morgeisi.

“Trwy ein gwaith yn y Cytundeb Cydweithredu i ddatblygu Cynllun Diogelu Morgeisi, byddwn yn gallu helpu mwy a mwy o bobol sy’n dioddef gyda chyfraddau llog uchel – canlyniad uniongyrchol i benderfyniadau trychinebus a wnaed gan Lywodraeth Dorïaidd ddi-hid yn San Steffan,” meddai.

“Bydd llawer o bobol yn ei chael hi’n anodd cadw i fyny â thaliadau morgais, ond mae rhenti’n mynd yn anfforddiadwy hefyd.”

Yn ôl y gwleidydd, mae eisiau gweld rhenti yn y sector tai preifat yn cael eu rhewi er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.

“Pasiodd Llywodraeth yr Alban ddeddfwriaeth sy’n amddiffyn tenantiaid,” meddai, gan ychwanegu ei fod e eisiau gweld rhywbeth tebyg yng Nghymru.

‘Argyfwng difrifol’

Cafodd yr un farn ei hadleisio gan Ben Lake, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, sy’n dweud bod y ffigurau chwyddiant presennol yn “argyfwng difrifol”.

“Tra bod cartrefi a rhentwyr yn brwydro o dan bwysau cyfraddau llog, mae pedwar banc mawr y Deyrnas Unedig wedi gweld eu helw yn cynyddu 42%,” meddai.

“Mae banciau mawr wedi gwneud dros £4.8bn o elw ychwanegol drwy beidio â throsglwyddo codiadau cyfradd llog i gynilwyr.

“Mae’n hen bryd iddynt gyfrannu eu cyfran deg i gefnogi unigolion sy’n mynd i’r afael ag argyfwng morgais.”

Trethi untro

Yn ôl Ben Lake, os na fydd y banciau’n cytuno i dalu cyfraddau uwch, dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymyrryd drwy ystyried rhoi trethi untro ar elw banciau yn ystod cyfnodau o galedi i rentwyr a deiliaid morgeisi.

“Bydd yr argyfwng sydd ar ddod yn arbennig o boenus i aelwydydd incwm isel – rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddadrewi ac uwchraddio’r Lwfans Tai Lleol i’w helpu,” meddai.

“Yr eliffant yn yr ystafell, wrth gwrs, yw bod chwyddiant yn y Deyrnas Unedig yn uwch na’n partneriaid Ewropeaidd oherwydd penderfyniadau gwleidyddol yma.

“Ni all Rishi Sunak feio’r rhyfel yn Wcráin na’r pandemig mwyach am ragolygon economaidd llwm y Deyrnas Unedig.”