Mae mam bachgen pedair oed o Gaernarfon yn dweud bod peidio rhoi asesiad niwroddatblygiadol iddo yn mynd yn groes i’w hawliau dynol.

Dydy Gwion Hughes ddim yn bodloni’r meini prawf ar gyfer asesiad gan Wasanaeth Niwroddatblygiadol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, er bod ganddo anghenion difrifol.

Derbyniodd hi lythyr ar Fehefin 15 yn dweud nad yw ei mab yn bodloni’r meini prawf ond mae hi’n dweud bod cael asesiad yn “hawl dynol”.

Anghenion

Ar Fawrth 14 eleni, roedd Adroddiad Dilynol Pediatrig Cymunedol yn dweud bod anghenion Gwion Hughes wedi cael eu hadnabod pan oedd yn ifanc iawn.

Mae’n cyfathrebu’n gyfyng iawn, a hynny heb eiriau, ond dywed yr adroddiad nad oes pryderon ynghylch ei glyw.

“Mae Gwion yn gwneud synau ond yn ddi-eiriau a bydd yn gwneud synau; ei brif ddiddordeb yw dilyn ei agenda weithredol ei hun ac ymddwyn mewn modd llawen, direidus, rhedeg, neidio a dringo,” medd yr adroddiad.

“Mae ei emosiynau’n hynod o newidiol; gall grio a chynhyrfu, ond o bryd i’w gilydd mae’n dechrau chwerthin a gweiddi.

“Mae’n mynnu sylw oedolyn cyson ar gyfer ei holl anghenion a diogelwch.

“Yn ddiweddar mae wedi dysgu dweud “Na” a chynhyrfu a gwrthsefyll dilyn arferion gartref.

“Mae’n defnyddio cyswllt llygad a dulliau di-eiriau, gan gynnwys ystumiau a synau, i gyfathrebu, ond gall y rhain fod yn anodd eu dehongli.

“Mae’n hoffi tynnu pethau o’r silffoedd a gwthio popeth ar y llawr.

“Nid oes ganddo unrhyw sgiliau chwarae parhaus, ac mae’n well ganddo deganau i blant iau. Mae ganddo sensitifrwydd synhwyraidd, gan gynnwys sŵn a thorfeydd, ac mae angen lle diogel arno.

“Mae gan Gwion batrwm cysgu gwael.

“Mae’n deffro yn y nos ac eisiau potel o laeth, neu ni all syrthio i gysgu eto.

“Mae angen help arno i wisgo a dadwisgo.

“Gall fwyta bwydydd llwydfelyn sych ac nid oes ganddo unrhyw faterion meddygol fel y cyfryw.

“Mae Gwion yn dibynnu ar gewyn yn y nos ac mae ei goluddion ar agor yn ystod y dydd.

“Mae ei rieni’n poeni bod y ffocws ar ei ymddygiad i gadw pawb yn ddiogel ac i helpu Gwion i beidio â chynhyrfu yn hytrach na chyflawni ei botensial datblygiadol a dysgu cyfathrebu’n fwy effeithiol trwy unrhyw fodd.

“Maent wedi dweud wrthyf eu bod yn meddwl y byddai lleoliad addysgol arbennig yn darparu ar gyfer ei holl sgiliau datblygiadol, dysgu ac annibynnol orau.”

Troi at y cyfryngau cymdeithasol

Mewn neges ar Facebook, cododd ei fam ifanc, Kim Tate, ei llais yn nodi’r anghenion sydd ganddo a’r cymorth mae’n ei gael, gan ddatgan nad yw ei hawliau dynol yn cael eu parchu.

“Wow, sioc i’r system cael y llythyr hwn heddiw,” meddai.

“Mae Gwion wedi cael ei wrthod am asesiad niwroddatblygiad , doeddwn erioed yn meddwl bod y system yn mynd i’w fethu â anghenion mor ddifrifol,” meddai.

“Roeddwn bob amser yn meddwl bod rhaid i mi ymladd mwy dros fy 2 fachgen arall sydd wedi cael eu derbyn a gyda llai anghenion difrifol.

“Mae Gwion yn ddi-eiriau.

“Mae ganddo oedi datblygiad.

“Does gennym ni ddim cyfathrebiad heblaw am makaton ac ap ar ei ipad.

“Mae wedi bod o dan [pediatryddion] cymunedol ers yn fabi a therapydd lleferydd, seicolegydd ysgol a bu’n rhaid iddo fynd i ysgol ABC heb unrhyw gynnydd,

“Mae hefyd o dan Derwen ac mae ganddo weithiwr cymdeithasol ei hun oherwydd ei anghenion.

“A all rhywun esbonio i mi sut ar y ddaear mae hyn yn iawn??

“Mae tîm niwroddatblygiad yn dweud nad yw fy mab yn bodloni’r meini prawf pan nad oes ganddo iaith, dim cyfathrebu a dim synnwyr o berygl ac ati.

“Mae’r system yn anghywir!

“Pam fod rhieni sydd â phlant ag anableddau yn gorfod ymladd hyd yn oed???

“Nid yw’n iawn.

“Mae’n hawl dynol!!

“Mae Gwion hefyd wedi rhoi ei waed ar gyfer geneteg (aros am ganlyniadau), dw i ddim hyd yn oed yn gwybod pam rwy’n postio hwn… dyfalu bod angen i mi fentio!

“Mae angen gwneud rhywbeth oherwydd nid yw plant ag anghenion arbennig yn cael eu trin yn iawn yn y fan yma.

“Nid ydynt yn cael cymorth gan yr ysgol oni bai eu bod yn cael diagnosis oherwydd dyna pan ddaw’r holl grantiau i mewn.

“Pa mor anghywir yw hynny??

“Rhestr aros o 2-3 blynedd i gael diagnosis felly mae’r plentyn yn gorfod dioddef drwy’r mwyafrif o’r ysgol gynradd heb y cymorth sydd ei angen!!”

Emosiynol

Gyda Kim Tate ar dân dros gael diagnosis fydd o gymorth enfawr i gael cymorth i’w mab Gwion, mae hi’n credu mai’r unig ateb yw mynd yn breifat.

“Rwy’ mor flin â mor stressed,” meddai wrth golwg360.

“Rwy’n teimlo mor deflated.

“Rwy’n teimlo ei fod wedi cael ei adael lawr, big time.

“Rwy’n stressio am arian rŵan, yn meddwl sut galla i gynilo i fynd yn breifat.

“Hwnna ydy’r unig ffordd ymlaen rŵan.

“Rwy’ angen iddo gael help.

“Mae o’n shocking.

“Mae Gwion yn gwenu trwy’r adeg, dyna ydy ei ddull o gyfathrebu.

“Mae’n trio troi bob dim mewn i jôc, oherwydd dydy o methu siarad.

“Yn yr ysgol, mae athrawon yn dweud bod o’n methu chware efo plant.

“Mae’n rhedeg ar ôl nhw’n gweiddi “Wa!” oherwydd hwnna ydy’r unig ddull o gyfathrebu sydd ganddo efo nhw.

“Mae o’n bechod arno ac mae’n frustrating.

“Mae’n effeithio arnom ni adref oherwydd, heb gael diagnosis, dydy o ddim yn mynd i gael help a mynd ymlaen wedyn.

“Mae o wedi bod i ABC ers blwyddyn gyfan, ond dydy o dal methu siarad.

“Mae o’n disgwyl canlyniad gwaed genetig o’n ôl rŵan.

“Cafodd o hynny wedi’i wneud blwyddyn ddiwethaf, ond dywedon nhw fod dim digon o waed.

“Mae wedi’u cael nhw wedi’u gwneud eto’r flwyddyn yma, Mai yma.

“Mae’r rheini yn gallu cymryd dipyn, o gwmpas chwe mis.

“Os byddan ni’n cael diagnosis i Gwion, byddai’n cael help a chefnogaeth wahanol wedyn.

“Geith yr ysgol gyllideb a geith o un i un a chael beth mae o fod i gael.

“Mae o wedi cael ei labelu fel plentyn drwg ar y funud.

“Does dim diagnosis yna.”

Brodyr Gwion Hughes

Yn un o dri, mae gan Gwion Hughes, sy’n mynd i Ysgol yr Hendre, ddau frawd hŷn sydd hefyd efo anghenion arbennig.

Yn ôl eu mam, roedd cael diagnosis iddyn nhw lawer haws er nad yw eu hanghenion mor eithafol.

Mae hi’n dweud bod yr ysgol wedi dweud bod y penderfyniad wedi’i wneud oherwydd mae’n rhaid i’r plentyn fod yn bump oed er mwyn cael diagnosis o ADHD.

Yn ei hôl hi, mae gan ei mab anghenion eraill sydd angen diagnosis ar ben ADHD.

“Mae gennyf ddau o hogiau eraill,” meddai.

“Mae fy hynaf efo ADHD, Guto sy’n ddeg oed, mae ganddo’r cyfuniad o’r uchel ac isel.

“Cafodd ddiagnosis blwyddyn ddiwethaf.

Mae ei mab arall, Aled, yn bump oed ac mae wedi cael ei weld gan arbenigwr unwaith ddywedodd fod ganddo Anhwylder Iaith.

“Doedden nhw methu diagnosio fo efo ADHD ar yr adeg oherwydd mae dim ond pump oed oedd o,” meddai.

“Mae o wedi cael ei dderbyn ar y rhestr pan oedd yn bump.

“Rydym yn disgwyl efo fo am yr asesiad.

“Efo niwroddatblygiad, ti’n gorfod disgwyl misoedd gyntaf i wybod os wyt ti’n cael mynd ar y rhestr neu ddim.

“Wedyn maen nhw’n un ai derbyn neu wrthod.

“Efo dau hynaf fi, maen nhw wedi derbyn yn syth.

“Mae anghenion Gwion llawer mwy eithafol na’r ddau arall, ac maen nhw’n dweud fod o ddim yn cwrdd â’r criteria.

“Mae’r ysgol wedi ffonio fi tair gwaith yn yr awr ddiwethaf, yn dweud mai’r rheswm ydy bo ti’n gorfod bod yn bump i gael cyrraedd criteria ADHD.

“Dywedais i wrthyn nhw bod gan Gwion Anhwylder Iaith, mae yna fwy iddo fo na dim ond ADHD.

“Dyna pam rydyn ni’n trio cael o ar y rhestr aros.

“Mae wedi cael pawb yn gweithio efo fo o’r dechrau.

“Aeth i uned ABC blwyddyn ddiwethaf ac uned ABC ym Mangor blwyddyn yma.

“Roedden nhw’n dweud bod o’n mynd, a rŵan maen nhw’n dweud bod o ddigon da i aros yn yr ysgol.

“Maen nhw nôl ac ymlaen efo fo.

“Ffoniais i niwro ddoe a siarad efo nhw ar ffôn, ac roedden nhw’n dweud fy mod yn gorfod cael re-referral gan yr ysgol, sy’n mynd i gymryd blynyddoedd eto.

“Mae hynny’n golygu fod Gwion ddim am gael dim help yn yr ysgol gynradd oherwydd bydd wedi tyfu erbyn cael diagnosis.

“Bydd wedi mynd am flynyddoedd heb gael help.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y bwrdd iechyd.