Mae’n 75 mlynedd union heddiw (dydd Iau, Mehefin 22) ers i’r genhedlaeth Windrush gyrraedd y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf.
Yn 1948, gwnaeth yr Empire Windrush y daith o’r Caribî i dref Tilbury yn Lloegr, gyda 450 o bobol arni.
Dilynodd miloedd yn rhagor o bobol dros y pedwar degawd nesaf, gyda sawl un yn dod i Gymru i fyw.
Pwrpas eu taith oedd ymateb i alwad Prydain am ragor o weithwyr wedi’r Ail Ryfel Byd.
Windrush a’r gwasanaeth iechyd
Mae sawl un yn cydnabod y genhedlaeth Windrush fel un sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol yng Nghymru, gan gynnwys i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Bu Irram Irshad, fferyllydd o Gwm Taf, yn siarad â golwg360 am y trafferthion sy’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Yn ôl Irram Irshad, wrth i’r genhedlaeth Windrush gyrraedd oedran ymddeol, mae diffyg doctoriaid yn un broblem sy’n eu hwynebu.
“Mae llawer o ddoctoriaid o’r genhedlaeth Windrush neu o gefndiroedd Asiaidd ddaeth yma i redeg Gwasanaeth Iechyd Cymru,” meddai.
“Rŵan yn 2023, mae llawer ohonyn nhw wedi ymddeol neu yn y broses o wneud hynny.
“Rydym wedi colli cyfanswm o tua 150,000 o ddoctoriaid a nyrsys yn y Deyrnas Unedig, a dyna pam fod y gwasanaethau fel maen nhw.”
Dywed y gall gymryd hyd at ddeng mlynedd i hyfforddi doctor sydd heb arbenigedd i fod yn feddyg teulu.
Mae colli bwrsariaethau wedi gwneud swyddi yn y maes yn llai deniadol i drigolion gwledydd Prydain, meddai, ac felly mae’r gwasanaethau mewn sefyllfa anodd.
Dathliadau yn y Senedd
I ddathlu’r diwrnod, bu digwyddiad yn y Senedd i “gydnabod, cofio a dathlu” y genhedlaeth Windrush.
Bu’r Llywydd Elin Jones, Gweinidog yr Economi Vaughan Gething, a’r Aelod Llafur o’r Senedd Joyce Watson yn siarad yn ystod y digwyddiad.
“Mae’n anrhydedd fawr cael siarad yn nigwyddiad Windrush yn 75, a thalu teyrnged i gyfraniadau rhyfeddol yr henuriaid,” meddai Joyce Watson.
“Daethon nhw i helpu i ailadeiladu’r wlad hon ar ôl dinistr yr Ail Ryfel Byd, a rhaid cofio a diolch am eu hymdrechion bob amser.”
Hefyd yn bresennol roedd Dan De’Ath, y cynghorydd Llafur dros ward Plasnewydd yng Nghaerdydd.
Pwysleisiodd e bwysigrwydd “anrhydeddu dewrder, gwytnwch a chyfraniad y genhedlaeth Windrush i’r genedl”.
“Rhaid inni sicrhau nad yw eu straeon byth yn cael eu hanghofio,” meddai.
‘Perthynas hir ac anodd’
Cafodd y genhedlaeth hefyd ei dathlu ym Mangor, lle bu Catrin Wager, cynghorydd Bethesda, yn bresennol.
“Mae ein perthynas leol gyda Jamaica yn hir ac anodd,” meddai.
“Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod yr hanes yma, dathlu’r rhai sydd wedi cyfrannu gymaint i’n cymdeithas, a brwydro hiliaeth bob dydd.”
Bydd ffilm ddogfen o’r enw Windrush Cymru @ 75, sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei chyhoeddi er mwyn trafod straeon 30 aelod o’r genhedlaeth.