Mae Gweinidogion Cyllid gwledydd Prydain wedi ymgynnull yng Nghaerdydd i drafod yr argyfwng costau byw.

Roedd chwyddiant, diogelu ffynonellau ynni a phwysau ar wariant cyhoeddus ar yr agenda, gyda’r argyfwng costau byw yn dal i wasgu pobol o ddydd i ddydd.

Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru, fu’n cadeirio’r cyfarfod ac mae hi’n dweud bod angen rhagor o gymorth ar bobol yng Nghymru.

“Rydyn ni’n gwybod bod incwm gwario aelwydydd yn dal i ostwng, a bod angen cymorth ychwanegol o hyd,” meddai.

“Rydyn ni’n gwybod hefyd y bydd yr angen hwnnw’n parhau.

“Heddiw, fe wnes i ofyn i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ystyried cymorth ychwanegol i gwsmeriaid ynni sy’n agored i niwed, pobol sy’n derbyn Credyd Cynhwysol a gwasanaethau cyngor ar ddyled.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £3.3bn yng Nghymru yn barod i gefnogi’r bobol hynny sydd fwyaf angen help.

“Ond beth rydyn ni wir ei angen nawr yw i Lywodraeth y Deyrnas Unedig reoli’r cynnydd mewn chwyddiant – yn unol ag addewid y Prif Weinidog – a sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei gynnal yn y gwasanaethau cyhoeddus hynny rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw.”

“Cam pwysig” tuag at ddatrys heriau ynni

Yn ôl Rebecca Evans, mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi mewn “rhaglenni arloesol” er mwyn datrys heriau ynni’r wlad er mwyn “dibynnu’n llai ar danwydd ffosil”.

“Hefyd, rydyn ni wedi cyflwyno bil yn ddiweddar i foderneiddio a symleiddio’r prosesau ar gyfer datblygu prosiectau seilwaith,” meddai.

“Mae hyn yn gam pwysig tuag at fynd i’r afael â’n heriau ynni hirdymor.

“Rydyn ni nawr angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fuddsoddi mwy yn y grid trydan yng Nghymru i ateb y galw cynyddol; manteisio ar y cyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy; a’n galluogi i elwa ar system ynni sy’n lanach, yn fwy dibynadwy ac yn cefnogi ffyniant economaidd.”

Cyflogau

O ran cyflogau yn y sector cyhoeddus, fe wnaeth y Gweinidog, ynghyd â’i Gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban, bwyso am gyllid ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gefnogi eu gwaith hanfodol wrth iddyn nhw baratoi at ddathlu’r pen-blwydd mawr yn 75 oed.

Gwnaethon nhw hefyd bwyso am eglurder o ran a fydd y llywodraethau datganoledig yn cael cyllid ychwanegol yn sgil cynigion cyflog yn Lloegr i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r Gwasanaeth Sifil.