Bydd grwpiau o hyd at 55 o geiswyr lloches yn dechrau cyrraedd gwesty ger Llanelli ar Orffennaf 10, yn ôl arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin.
Dywed y Cynghorydd Darren Price y bydd Gwesty Parc y Strade yn lletya cyfanswm o 241 o geiswyr lloches, ac na fydd eu demograffeg yn hysbys tan 24 awr cyn iddyn nhw gyrraedd.
Mae defnydd arfaethedig y Swyddfa Gartref o’r gwesty pedair seren poblogaidd yn Ffwrnes wedi denu pryderon yn yr ardal leol, gyda thrigolion a chynghorwyr yn beirniadu’r hyn maen nhw’n ei alw’n ddiffyg ymgysylltu a gwybodaeth gan y Swyddfa Gartref, sy’n gyfrifol am y cynllun, a pherchnogion y safle sef Sterling Woodrow yn Essex.
Dywed y Swyddfa Gartref eu bod nhw’n ceisio torri eu biliau ar gyfer gwestai i geiswyr lloches – sy’n costio £6m bob dydd – drwy letya grwpiau mawr mewn lleoliadau unigol.
‘Gwarthus’
Wrth annerch cyfarfod o’r Cyngor llawn, dywedodd y Cynghorydd Darren Price ei bod hi’n “warthus” fod y Swyddfa Gartref wedi bwrw ymlaen â’r “cam annoeth”.
Dywed fod y defnydd arfaethedig o’r gwesty’n “gwbl amhriodol”.
Mae arweinydd Plaid Cymru y Cyngor yn honni bod Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig “wedi colli rheolaeth lwyr” ar sefyllfa ceiswyr lloches, gyda mwy na 160,000 o geisiadau’n aros i gael eu prosesu.
Pobol sydd wedi gadael eu gwlad enedigol gan eu bod nhw’n wynebu erledigaeth, rhyfel neu drais yw ceiswyr lloches.
Ar y cyfan, dydyn nhw ddim yn cael gweithio hyd nes bod eu hachos wedi’i benderfynu.
Os yw eu cais yn llwyddiannus, maen nhw’n derbyn statws ffoadur.
Bydd rhwydd hynt i geiswyr lloches adael y gwesty yn ystod y dydd, a byddan nhw’n derbyn taliadau ariannol bychain ar gyfer nwyddau hanfodol os ydyn nhw’n gymwys.
Swyddfa Gartref “ddim yn gwrando”
Yn ôl y Cynghorydd Darren Price, mae’r Swyddfa Gartref yn “dweud wrthym beth sy’n mynd i ddigwydd heb wrando ar ein pryderon”.
Dywed fod yr ymgysylltu â Clearsprings Ready Homes, sef contractiwr llety’r adran, yn “siomedig”.
Dywed nad yw’r Cyngor yn gwrthwynebu cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid, a bod ganddyn nhw record dda yn hyn o beth, gyda model gwasgaredig o lety.
“Rydyn ni’n awyddus i barhau i dderbyn ein cyfran o geiswyr lloches,” meddai.
Poeni am yr effaith ar bobol
Dywed ei fod yn cydymdeimlo’n wirioneddol â phobol mae amheuon ynghylch trefniadau eu priodasau yng Ngwesty Parc y Strade, a’i fod yn poeni am yr effaith ar weithwyr y gwesty.
Yn ei farn e, roedd agwedd perchnogion y lleoliad yn “anfaddeuol” ar ôl blynyddoedd o gefnogaeth leol iddyn nhw.
Mae dogfennau’n awgrymu bod Sterling Woodrow yn rhoi’r 77 ystafell unigol ar les i fuddsoddwyr o’r Deyrnas Unedig a thramor, gan gynnwys un sydd â chyfeiriad yn Rwsia.
Arweiniodd hynny at gwestiwn gan Nia Griffith, Aelod Seneddol Llanelli, i James Cleverley, yr Ysgrifennydd Tramor, yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos ddiwethaf, o ystyried sancsiynau presennol y Deyrnas Unedig ar Rwsia.
Dywed y Cynghorydd Darren Price y bydd y Cyngor yn parhau i archwilio trywydd cyfreithiol a chynllunio i geisio atal cynllun y Swyddfa Gartref, ac y byddai’n rhoi diweddariadau pan fyddai hynny’n bosib.
Pryderon lleol
Fe fu cyfarfod cyhoeddus â nifer sylweddol o bobol ynghylch y cynnig yn ymwneud â’r gwesty; cyfarfod o eglwysi, elusennau, pleidiau gwleidyddol a grwpiau eraill; protest a gwrth-brotest; a meini mawr y tu allan i’r gwesty.
Dywedodd Clive Hocking, un o drigolion Ffwrnes, yn gynharach y mis hwn fod y mater wedi denu grwpiau o’r tu allan i’r ardal â’u hagenda benodol, oedd yn destun pryder iddo.
Dywedodd nad yw’n credu ei bod hi’n briodol “cael pobol yn cael eu gollwng yn sydyn” mewn cymuned ag adnoddau cyfyng, ond ei fod e hefyd yn teimlo bod dyletswydd o leiaf i ystyried helpu pobol “mae eu sefyllfaoedd yn syfrdanol”.
Ymateb y Swyddfa Gartref
Wrth dderbyn cais am sylw ar y niferoedd yn y gwesty a’r dyddiad y byddan nhw’n cyrraedd gafodd ei ddatgelu gan y Cynghorydd Darren Price, anfonodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref ymateb y gwnaeth ei ddosbarthu drwy gydol y ffrae.
“Rydyn ni wedi bod yn glir fod y defnydd o westai i letya ceiswyr lloches yn annerbyniol – ar hyn o bryd, mae mwy na 51,000 o geiswyr lloches mewn gwestai sy’n costio £6m bob dydd i drethdalwyr,” meddai.
“Rydyn ni’n ymgysylltu ag awdurdodau lleol cyn gynted â phosib pan fydd safleoedd yn cael eu defnyddio ar gyfer llety i geiswyr lloches, ac yn gweithio er mwyn sicrhau bod trefniadau’n ddiogel ar gyfer trigolion gwestai a phobol leol.
“Rydyn ni’n cydweithio’n agos er mwyn gwrando ar farn cymunedau lleol ac i leihau effaith y safleoedd, gan gynnwys drwy ddarparu diogelwch ar y safle a chefnogaeth ariannol.”