Mae Cyngor Sir Penfro’n ceisio barn y cyhoedd ar newidiadau i reolau trethi allai arwain at dreblu treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi yn y dyfodol.
Daw hyn yn dilyn cyflwyno rheolau treth newydd gan Lywodraeth Cymru’n gynharach eleni, wrth i awdurdodau lleol allu gosod a chasglu premiwm treth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor o hyd at 300%.
Ar hyn o bryd, mae gan Sir Benfro bremiwm treth gyngor o 100% ar gyfer ail gartrefi, ar ôl cyflwyno premiwm treth gyngor o 50% ar ail gartrefi yn 2017.
Cafodd premiwm ei gyflwyno yn 2019 ar gyfer eiddo gwag hirdymor yn y sir, a hynny ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag ers tair blynedd neu fwy.
Mae ymgynghoriad Cyngor Sir Penfro ar agor tan Awst 6, ac mae modd ei gwblhau ar wefan Cyngor Sir Penfro.
“Rydyn ni’n annog cynifer o bobol â phosib i roi eu barn i ni ar yr ymgynghoriad pwysig iawn hwn,” meddai’r Cynghorydd Alec Cormack, yr Aelod Cabinet dros Gyllid Corfforaethol.
“Bydd eu hymatebion yn rhan hanfodol o adolygiad y Cyngor i bremiymau treth gyngor.”
Yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar:
- y premiwm treth gyngor presennol ar gyfer ail gartrefi
- y premiwm treth gyngor presennol ar gyfer eiddo gwag hirdymor
- a ddylai’r Cyngor ddefnyddio disgresiwn yn dilyn diwygiad Llywodraeth Cymru i’r trothwy ar gyfer llety gwyliau hunanarlwyo
- cyfraddau ail gartrefi
Mae gwybodaeth gafodd ei chyhoeddi’n ddiweddar gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro’n dangos bod dros 60% o gartrefi mewn rhai rhannau o’r sir yn ail gartrefi.
Dyma’r cyfraddau ail gartrefi ar gyfer y prif breswylfeydd o fewn y parc cenedlaethol:
- Dinbych y Pysgod 28.07%
- Saundersfoot 29.35%
- Tyddewi 20.86%
- Trefdraeth 30.6%
Roedd rhai o’r ffigurau’n uwch eto ar gyfer rhai cymunedau llai o fewn y parc cenedlaethol.
Ar frig y rhestr o bell ffordd roedd Nolton Haven (60%), a Little Haven (62.96%).
Roedd y newid yn rheolau Llywodraeth Cymru’n ddiweddar hefyd yn cynnwys dosbarthiadau defnydd cynllunio newydd, a gallu awdurdodau lleol i wneud addasiadau lleol i’r system gynllunio lle mae ganddyn nhw dystiolaeth.
Mae’r meini prawf ar gyfer llety gwyliau sy’n gorfod talu cyfraddau annomestig yn hytrach na threth y cyngor hefyd wedi cael eu cryfhau.