Mae Plaid Cymru’n galw o’r newydd am ailymuno â’r farchnad sengl er mwyn dadwneud difrod Brexit.
Daw sylwadau’r arweinydd newydd Rhun ap Iorwerth saith mlynedd union ers i’r Deyrnas Unedig bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae e wedi amlinellu “camau ymarferol” y gall Cymru a’r Deyrnas Unedig eu cymryd er mwyn adfer y berthynas agos ag Ewrop, gan gynnwys:
- paratoi i ailymuno â’r farchnad sengl
- Ailymuno â chynllun Erasmus, y cynllun cyfnewid myfyrwyr tramor
- datganoli cynlluniau fisa i Gymru
- lleihau’r rhwystrau ym mhorthladdoedd Cymru
- datganoli cynlluniau ariannu
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae pobol yng Nghymru wedi dioddef o ganlyniad i “addewidion gwag a ffals” y Ceidwadwyr ac anallu Llafur i gynnig “atebion” ynghylch sut i ddatrys y sefyllfa.
Dywed y byddai cynllun Plaid Cymru’n “mynd i’r afael yn uniongyrchol” â phrif fethiannau Brexit, gan gynnwys prinder gweithwyr a rhwystrau i fasnachu, ac yn adfer pwerau i’r Senedd ar ariannu datblygiadau.
Mae Plaid Cymru “wedi ymrwymo” o hyd i’r gred y byddai Cymru ar ei hennill o fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, ond maen nhw’n dweud bod rhaid brysio i ddod yn aelod o’r farchnad sengl a’r undeb tollau unwaith eto er mwyn gwneud yn iawn am “garbwl Brexit” a rhoi mwy o arian ym mhocedi pobol yn ystod yr argyfwng costau byw.
Pôl yn dangos barn am Brexit
Daw sylwadau Rhun ap Iorwerth wrth i bôl newydd gan YouGov ddatgan bod y rhan fwyaf o bobol bellach yn credu bod Brexit wedi bod yn “fethiant”.
Mae dros draean o’r rhai bleidleisiodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd bellach yn dweud bod Brexit wedi bod yn fwy o fethiant nag o lwyddiant, yn ôl y pôl.
Dim ond un ym mhob pump o’r rhai oedd eisiau gadael sy’n credu ei fod e wedi bod yn fwy o lwyddiant nag o fethiant.
Ac mae astudiaeth newydd gan Ysgol Economeg Llundain (LSE) yn dangos bod aelwydydd ledled y Deyrnas Unedig wedi talu £7bn er mwyn talu costau ychwanegol sy’n deillio o rwystrau masnachu ôl-Brexit.
Daeth i’r casgliad hefyd fod prisiau bwyd wedi codi gan 25% ers 2019, a bod Brexit yn gyfrifol am gynnydd o wyth pwynt canran o fewn hynny.
‘Realiti economaidd Brexit yn glir i bawb ei weld’
“Saith mlynedd yn ddiweddarach ac mae realiti economaidd Brexit yn glir i bawb ei weld,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Mae chwyddiant yn uwch yn y Deyrnas Unedig nag mewn gwledydd Ewropeaidd eraill.
“Mae costau mewnforio’n uwch.
“Mae prinder gweithwyr mewn sectorau allweddol megis y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, lletygarwch a thwristiaeth.
“Mae ffatrïoedd fel 2Sisters yn fy etholaeth yn Ynys Môn wedi’u gorfodi i gau – gan arwain at golli dros 700 o swyddi.
“Mae darogan y bydd Brexit yn lleihau gwerth allforion Cymru gan oddeutu £1.1bn.
“Mae pobol Cymru wedi’u siomi gan addewidion ffals a gwag y Torïaid.
“Mae’r Torïaid yn gyfrifol am gyflwr truenus ein heconomi bellach.
“Yn y cyfamser, mae Llafur Starmer yn wynebu’r ddwy ffordd – yn cilio rhag gwir effaith Brexit ar yr economi ac yn methu – neu’n anfodlon – cynnig unrhyw atebion ynghylch sut y bydden nhw’n datrys pethau.
“Byddai cynllun pum pwynt Plaid Cymru’n mynd i’r afael yn uniongyrchol â methiannau Brexit, gan gynnwys prinder gweithwyr a’r bwlch sgiliau, lleihau rhwystrau a thâp coch ar gynnyrch bwyd, ac adfer pwerau tros arian ôl-Brexit i’r Senedd.
“Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo o hyd i fod eisiau’r cysylltiadau agosaf posib ag Ewrop ac yn credu bod aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd er lles Cymru.
“Ond fan lleiaf, rhaid i ni ddod yn aelod o’r farchnad sengl a’r undeb tollau ar frys, nid yn unig i ddadwneud difrod economaidd Brexit carbwl San Steffan, ond er mwyn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobol Cymru ar adeg pan fo’i angen fwyaf arnyn nhw.”