Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi sêl bendith i swyddfa yn y Rhyl gael ei throi’n dŷ pedair ystafell wely, ond maen nhw wedi dileu’r posibilrwydd y gallai’r adeilad ddod yn llety gwyliau.

Yng nghyfarfod y pwyllgor cynllunio fis Mai, pleidleisiodd cynghorwyr dros roi ganiatâd i Debra Moore newid swyddfeydd yn 30 Stryd Bedford yn gartref.

Cyn hyn, cafodd y swyddfa ei defnyddio gan amryw o grwpiau cymunedol, ond mae’r adeilad eisoes wedi’i ddefnyddio fel cartref o’r blaen.

Argymhelliad i wrthod

Serch hynny, fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru gynghori Sir Ddinbych i wrthod y cynlluniau gan fod yr eiddo mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd.

Yn hytrach, fe wnaeth cynghorwyr feirniadu Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ddadlau bod yr ardal eisoes yn cael ei defnyddio ar gyfer tai, a bod y Cyngor wedi gwario miliynau o bunnoedd ar eu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd ac wedi pleidleisio o blaid y datblygiad.

Fe wnaeth y pwyllgor nodi hefyd fod y sir ynghanol argyfwng tai.

Ond gan fod y pwyllgor wedi pleidleisio yn erbyn cyngor swyddogion, gofynnwyd i gynghorwyr ategu eu penderfyniad.

Amod

Wrth siarad yn ystod cyfarfod y pwyllgor cynllunio yr wythnos hon, dywedodd y swyddog Paul Griffin fod amod wedi’i ychwanegu er mwyn atal y cartref rhag cael ei droi’n llety gwyliau heb fod cais cynllunio ar wahân yn cael ei gyflwyno yn y dyfodol.

“Roedden ni’n meddwl y byddai ond yn gall dileu’r hawl datblygu drwy’r amod yma fel bod yr adeilad yn parhau’n breswylfa,” meddai.

Dywedodd y Cynghorydd Alan James ei fod e’n “fodlon” â’r cytundeb, a chafodd y penderfyniad ei gymeradwyo gydag 17 o gynghorwyr yn pleidleisio o blaid, a dim un yn gwrthod.

Doedd neb wedi atal eu pleidlais.