Mae arolwg newydd gan Deltapoll yn dangos bod dros hanner poblogaeth y Deyrnas Unedig yn credu bod gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn gamgymeriad.
Cafodd 1,626 o oedolion eu holi y mis yma, ac roedd 53% ohonyn nhw’n credu bod y penderfyniad anghywir wedi cael ei wneud.
Fodd bynnag, roedd 34% yn credu bod y penderfyniad cywir wedi’i wneud wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.
Cafodd y data ei gyhoeddi gan y felin drafod Sefydliad Tony Blair, sy’n cael ei gefnogi gan gyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ei hun.
Bwriad yr adroddiad yw ystyried sut y gallai’r Deyrnas Unedig wella’i pherthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd wedi Brexit.
Roedd 80% eisiau gweld perthynas agosach rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, tra roedd 43% eisiau ail ymuno â’r Undeb.
Dim ond 13% oedd eisiau gweld y Deyrnas Unedig yn dychwelyd i’r farchnad sengl.
Dychwelyd i’r farchnad sengl?
Ymysg y rheiny sy’n galw am ddychwelyd i’r farchnad sengl mae Plaid Cymru.
“Mae Plaid Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i fod eisiau’r cysylltiadau agosaf â phosibl ag Ewrop ac yn credu bod aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd – ac yn parhau i fod – er lles gorau Cymru,” meddai’r arweinydd Rhun ap Iorwerth.
“Fan lleiaf, rhaid i ni ddod yn aelod o’r farchnad sengl a’r undeb tollau ar frys, nid yn unig i ddadwneud difrod economaidd Brexit carbwl San Steffan, ond er mwyn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobol Cymru ar adeg pan fo’i angen fwyaf arnyn nhw.”
‘Angen elwa o’r manteision’
Fodd bynnag, gadael yr Undeb Ewropeaidd oedd y penderfyniad cywir, yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Ers y bleidlais, rydym wedi manteisio ar ein gallu i lofnodi cytundebau masnach newydd gydag economïau sy’n tyfu, gan gynnwys Awstralia, Seland Newydd, Singapôr, Japan, gyda llawer mwy ar y ffordd,” meddai.
“Mae sefydliadau democrataidd y Deyrnas Unedig yn sofran unwaith eto, gyda phwerau yn dychwelyd i San Steffan a’r Senedd.
“Er ein bod bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae mwy i’w wneud i elwa ar fanteision Brexit, a brwydrau i’w hennill.”
Barn pobol ifanc
Yn ôl Anton Spisak a Christos Tsoulakis, awduron yr adroddiad, does dim newid sylweddol wedi bod ym marn y rheiny bleidleisiodd yn y refferendwm yn ôl yn 2016.
“Yn hytrach, ffactor allweddol yn y newid yma ydi agwedd y bobol sydd rhwng 18 a 24 oed na wnaeth bleidleisio yn 2016, ond sydd yn ystyried y penderfyniad yn un anghywir,” meddai Anton Spisak.
“Mae’r rhan fwyaf o’r newid yn ymddangos fel pe bai oherwydd y bobol ieuengach, yn hytrach na chanran sylweddol o’r bobol bleidleisiodd dros adael yn newid eu meddyliau.”
Dywed y bydd angen i unrhyw Lywodraeth y Deyrnas Unedig sydd eisiau gwella’r berthynas â’r Undeb Ewropeaidd “gael cynllun strategol sydd wedi’i ystyried yn ofalus” a gwneud cynnig clir.
“Ni all gofyn yn garedig i’r Undeb lwyddo fel strategaeth negodi,” meddai.