A hithau’n Wythnos Anabledd Dysgu, mae rhai sy’n gweithio yn y sector yn dweud bod angen codi mwy o ymwybyddiaeth o rôl nyrsys anableddau dysgu.

Un ohonyn nhw yw Emma Davies, Rheolwr Safonau Proffesiynol a Rheoleiddio Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Mae’n dweud bod pedwar llwybr nyrsio gwahanol, sef nyrsio oedolion, plant, iechyd meddwl ac anableddau dysgu.

Bu wrthi’n ceisio hyrwyddo’r rôl, gan ei bod hi’n teimlo bod pobol yn llawer llai ymwybodol ohoni o gymharu â’r llwybrau gofal iechyd eraill.

“Rydyn ni rili angen recriwtio mwy o bobol ar y cyrsiau er mwyn eu hyfforddi nhw i fod yn nyrsys anableddau dysgu,” meddai wrth golwg360.

“Dydy llawer o bobol ddim yn ymwybodol bod y rolau yma’n bodoli.”

‘Sawl llwybr i mewn’

Mae modd dilyn cwrs prifysgol er mwyn cymhwyso i fod yn nyrs sy’n arbenigo mewn anableddau dysgu, meddai.

Fodd bynnag, mae llwybrau eraill hefyd ar gyfer y rheiny sydd heb gyrraedd y gofynion mynediad ar gyfer y brifysgol.

“Mae yna ffordd i mewn i’r yrfa dim ots pa gam o’ch addysg ydych chi arno,” meddai Emma Davies.

Dywed fod porth Tregyrfa wedi’i anelu at gynorthwyo’r rheiny rhwng 12 a 19 oed wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y byd gwaith.

Mae hefyd adnoddau gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i egluro mwy am y swydd.

“Mae nyrsys anableddau dysgu yn cynrychioli rhai o’r bobl fwyaf difreintiedig yn ein cymunedau,” meddai.

“Mae’n rôl mor bwysig gan ei fod o’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd er mwyn galluogi pobl i fyw eu bywyd yn llawn ac yn annibynnol.

“Rydw i wir yn annog pobol i edrych i mewn iddo fo.”

‘Swydd wobrwyol’

Mae Victoria Gibson yn nyrs cymunedol anableddau dysgu yng Nghaerdydd, a rhan o’i rôl yw gwella ansawdd bywyd y rheiny sydd ag anableddau dysgu, a darparu dewis ac annibyniaeth lle bynnag y bo modd.

“Rydw i hefyd yn helpu gydag iechyd o ran apwyntiadau meddyg teulu, neu os yw’r unigolion angen gofal ychwanegol,” meddai wrth golwg360.

Cymhwysodd hi ar gyfer y rôl fis Medi 2021, ac mae hi’n dweud nad oedd hi’n ymwybodol iawn o’r rôl cyn hynny.

“Cyn i fi gychwyn fy hyfforddiant i fod yn nyrs anableddau dysgu doeddwn i ddim yn gwybod bod y rôl yn bodoli, er i fi weithio mewn anableddau dysgu am 15 mlynedd,” meddai.

“Rydyn ni dal angen llawer o nyrsys.

“Os wyt ti eisiau cyfathrebu gyda phobol a’u cefnogi nhw, does dim swydd fwy gwobrwyol na hyn.

“Dydw i ddim am ddweud ei fod o’n hawdd, achos dydy o ddim, ond alla i ddim dychmygu fy hun mewn rôl arall erbyn hyn.”

‘Angen ecwiti’

Yn ôl Victoria Gibson, mae angen sicrhau mwy na chydraddoldeb o ran y gofal sydd ar gael ar gyfer pobol gydag anableddau dysgu.

“Mae yna ymwybyddiaeth o anableddau dysgu, ond mae diffyg ymwybyddiaeth o’r anghydraddoldebau mae pobol yn wynebu,” meddai.

“Rydyn ni angen ecwiti, ac nid cydraddoldeb.”

Dywed fod anghenion pawb yn wahanol, ac felly bod angen cymryd camau pendant er mwyn sicrhau mynediad cyfartal.

“Er enghraifft, os oes rhywun yn mynd i mewn am weithdrefn, efallai eu bod nhw angen y wybodaeth mewn ffurf gwbl wahanol er mwyn gallu ei ddeall,” meddai.

“Weithiau, mae angen darparu’r wybodaeth ar ffurf wahanol ac mewn fformat sydd yn fwy hygyrch.

“Mae rhai angen lluniau neu i ni egluro pethau mewn mwy o fanylder dros ystod fwy eang o amser.

“Os oes gan yr unigolyn anawsterau ymddygiad neu gorbryder, weithiau mae angen gwneud apwyntiadau’n hirach er mwyn sicrhau bod amser ychwanegol ar gael os yw’r unigolyn yn cael trafferthion.”