Yn ôl ystadegau diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 4.8% oedd y raddfa ddiweithdra yng Nghymru rhwng mis Chwefror ac Ebrill eleni.

Dyma oedd y ffigwr cydradd uchaf yn y Deyrnas Unedig – 1.3% yn uwch na’r ffigwr ar gyfer yr un cyfnod yn 2022.

Yn ôl Luke Fletcher, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, mae cyfres o gamau sydd angen eu cymryd er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng diweithdra, ac mae angen i’r broblem gael ei chymryd o ddifri.

“Rydym wedi codi’r mater hwn ar sawl achlysur yn y Senedd yn ystod y misoedd diwethaf, a phob tro mae Gweinidog yr Economi a Phrif Weinidog Cymru i bob pwrpas wedi diystyru’r ffigurau fel cipluniau,” meddai wrth golwg360.

“Mae angen iddynt wynebu’r realiti bod problemau strwythurol hirdymor gydag economi Cymru wedi bod yn amlwg ers dechrau datganoli, ac ar fesurau megis cynhyrchiant, does dim llawer o welliant ers chwarter canrif.”

Anghydraddoldebau cymdeithasol

Yn ôl Luke Fletcher, awgryma’r ffigyrau “fod y bwlch mewn anweithgarwch economaidd rhwng dynion a merched yn ehangu”.

Dywed fod hyn yn tanlinellu pwysigrwydd y polisi o ddarparu gofal plant am ddim trwy Gytundeb Cydweithredu Plaid Cymru â Llywodraeth Cymru.

“Mae rhaniad gwledig-trefol clir hefyd, a dyna pam mae angen buddsoddiad mawr mewn cysylltedd o ran trafnidiaeth a digidol, fel y crybwyllwyd uchod,” meddai.

Awgrym arall oedd fod angen datganoli rheilffyrdd er mwyn gwella trafnidiaeth yng Nghymru.

Dywed fod diffyg gwasanaethau dibynadwy yn golygu bod pobol mewn ardaloedd gwledig yn wynebu rhwystrau rhag cael mynediad i rai swyddi.

‘Effaith dinistriol’ ar rai sectorau

Nid anghydraddoldebau cymdeithasol yn unig sydd i’w gweld yn y data chwaith, gyda data Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod y sectorau amaethyddiaeth, adeiladu a manwerthu wedi gweld y gostyngiadau mwyaf mewn gweithwyr cyflogedig.

“Mae effaith gyfunol Brexit a chwyddiant a achosir gan y Torïaid yn cael effeithiau dinistriol ar y sectorau hyn,” meddai.

“Byddai ailymuno â’r farchnad sengl – a Phlaid Cymru yn unig o bleidiau’r Senedd sydd yn hyrwyddo’r cam angenrheidiol hyn – yn mynd ymhell i fynd i’r afael â’r prinder llafur a’r amhariadau masnach sy’n cyfrannu i broblemau’r sectorau yma.”

Beth yw’r ateb?

Ynghyd ag ailymuno â’r farchnad sengl, mae Luke Fletcher yn cynnig amryw o gamau eraill gellid eu cymryd er mwyn mynd i’r afael a’r broblem.

Un o’r rhain yw creu Cynllun Economi newydd i Gymru, gyda thargedau penodol er mwyn lleihau’r bwlch cynhyrchiant â gweddill y Deyrnas Unedig.

Dywed fod targedau blaenorol Llywodraeth Cymru wedi’u hanwybyddu, a bod hynny wedi arwain at y bwlch cynhyrchiant yn aros bron yr un fath dros chwarter canrif.

Awgrym arall yw creu Cynllun Sgiliau newydd i Gymru fyddai’n canolbwyntio ar annog cydweithio rhwng sefydliadau addysg uwch a chyflogwyr i fynd i’r afael â phrinder sgiliau presennol.

Hefyd, dywed fod angen “gweithredu polisïau arloesol i annog hyblygrwydd a datblygiad personol o fewn y gweithlu”.

Byddai hyn yn cynnwys cyflwyno wythnos waith pedwar diwrnod ac Incwm Sylfaenol Cyffredinol yng Nghymru.

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r pryderon hyn wedi’u hadleisio gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru.

“Mae yna her wirioneddol a pharhaus gydag anweithgarwch economaidd yn bryder gwirioneddol i ni,” meddai.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw’n anelu i greu mwy o swyddi o ansawdd ac i hybu cydraddoldeb yng Nghymru.

“Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar leihau anweithgarwch economaidd,” meddai llefarydd.

“Mae ein cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau yn blaenoriaethu’r bobol sydd angen cymorth fwyaf.

“Mae hyn yn cynnwys cefnogi pobol i aros mewn gwaith, a’r rhai sydd ymhellach i ffwrdd o’r farchnad lafur i ddod o hyd i waith.”